Bydd prosiect
arloesol ‘Parc y Gamlas’ yn gweld darn o dir yng nghanol Butetown, sydd ddim yn
cael ei ddefnyddio, yn cael ei drawsnewid yn gyfleuster aml-chwaraeon o'r radd
flaenaf ar gyfer y gymuned. Bydd yr ardal laswelltog na chaiff ei rheoli, sydd
y tu ôl i Gampws Canol y Ddinas ar Heol Dumballs, yn cael ei thrawsnewid gydag
arwyneb chwarae 3G newydd gyda llifoleuadau, dwy ardal gemau aml-ddefnydd ac ystafelloedd
newid. Bydd y gwaith datblygu yn dechrau yn ystod 2019.
Gwnaed y
prosiect yn bosib o ganlyniad i gyllid gwerth £1.9 miliwn gan Lywodraeth Cymru.
Bydd y
cyfleuster newydd sbon yn darparu cyfleuster o'r radd flaenaf, ddiogel, wedi'i
reoli a fydd o fudd i bedair ysgol gynradd Butetown, timau chwaraeon lleol, a'r
gymuned ehangach trwy raglen o chwaraeon cymunedol a gweithgareddau
chwarae. Mae CAVC hefyd wedi ymrwymo i
ddefnyddio'r lleoliad i ddatblygu gweithgareddau chwaraeon a chwarae ar ôl ysgol
a'i raglenni Dysgu fel Teulu, sydd eisoes wedi'u lleoli mewn ysgolion a
lleoliadau cymunedol ledled y rhanbarth, ac sy'n gweithio i feithrin sgiliau a
chael gwared ar rwystrau i addysg.
Dywedodd Mike
James, Prif Weithredwr Grŵp Coleg Caerdydd â'r Fro: "Mae hyn yn
newyddion gwych i gymuned Butetown. Mae'n enghraifft arall o Lywodraeth Cymru
yn cefnogi prosiectau arloesol, cydweithredol sy'n cael effaith uniongyrchol ar
ein cymunedau lleol.
"Rydym
wrth ein bodd i weld y prosiect hwn yn cael ei wireddu. Edrychwn ymlaen at
weithio gyda Chyngor Caerdydd a'r gymuned leol i ddatblygu'r cyfleuster
cyffrous hwn ac ystod o weithgareddau chwaraeon a dysgu a fydd yn gwella lles y
gymuned ac yn helpu i wneud gwahaniaeth i gynifer o blant a phobl.”
Dywedodd Aelod
Cabinet Cyngor Caerdydd dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter
Bradbury: "Os ydych yn rhoi cyfleusterau chwaraeon o ansawdd da i
gymunedau byddant yn eu defnyddio nhw. Dyna yw'r profiad a gawsom gyda'r
caeau 3G a osodwyd yn ddiweddar ym Mhentwyn, Grangetown, Trelái a
Chaerau.
“Mae cynyddu
cyfranogiad mewn chwaraeon, yn enwedig yng nghymunedau mwyaf difreintiedig ein
dinas, mor bwysig, ac rydym yn hyderus y bydd y cyfleusterau newydd hyn yn
arwain at fwy a mwy o bobl yn Butetown yn mwynhau hwb i'w lles corfforol a
meddyliol o ganlyniad i weithgaredd chwaraeon rheolaidd."
Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams: "Mae ein hysgolion
a'n colegau yn chwarae rôl hanfodol yn y gymuned. Dyna pam rydym wedi
ymrwymo i gyflwyno mwy o ganolfannau dysgu cymunedol, ac rydym yn bwriadu
gwneud prosiectau sy'n canolbwyntio ar y gymuned yn un o agweddau allweddol ail
gam ein rhaglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif.
“Mae chwaraeon yn chwarae rhan allweddol mewn cymunedau ledled Cymru, ac
rwyf wrth fy modd bod ein Grant Hybiau Cymunedol gwerth £15 miliwn yn gallu
cefnogi prosiectau arloesol megis prosiect Parc y Gamlas a fydd yn darparu
cyfleusterau chwaraeon o'r radd flaenaf a fydd yn diwallu anghenion cymuned
Butetown.”