Mae’r ‘Caeau’r Canmlwyddiant’ yn fenter gan Feysydd Chwarae Cymru mewn
partneriaeth â’r Lleng Brydeinig, sy’n annog perchnogion tir ledled y DU i
amddiffyn mannau gwyrdd sy’n cynnwys cofeb ryfel sydd yn gysylltiedig â’r
Rhyfel Byd Cyntaf.
Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, caiff y penderfyniad i ymrwymo i gytundeb
cyfreithiol a fydd yn gweld Gerddi Alexandra, sy’n gartref i Gofeb Ryfel
Genedlaethol Cymru, a Gerddi'r Faenor, safle Cofeb Arwyr Rhyfel Grangetown yn
dod yn 'Gaeau’r Canmlwyddiant' yn ffurfiol mewn cyfarfod o'r Cyngor yr wythnos
nesaf (Ebrill 18fed).
Bydd cytundeb ‘Gweithred Ddiofryd’ yn golygu y byddai’n rhaid i Feysydd
Chwarae Cymru – sefydliad elusennol sydd â’r nod o warchod a hyrwyddo parciau a
mannau gwyrdd - roi eu caniatâd ar gyfer unrhyw ddatblygiadau ar y tir yn y
dyfodol.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter
Bradbury: “Mae gan Gaerdydd fwy o ofod gwyrdd
fesul y pen nag unrhyw ddinas graidd arall yn y DU ac rydym yn benderfynol y
byddant yn cael eu gwarchod er mwyn i genedlaethau’r dyfodol eu defnyddio a’u
mwynhau.”
“Mae nifer o barciau’r ddinas eisoes
wedi eu diogelu, gan gynnwys Cae Hamdden y Rhath, Parc Moorland yn Sblot, Caeau
Pontcanna a Pharc Llanisien a thrwy ychwanegu Gerddi Alexandra a Gerddi’r
Faenor at y rhestr rydym yn atgyfnerthu eu pwysigrwydd hanesyddol yn ogystal
â’u defnydd amhrisiadwy fel asedau cymunedol.
“Yn bwysig, bydd hyn hefyd yn
sefydlu'r parciau fel safleoedd i'w cofio, gan gydnabod arwyddocâd y rheini o
gymunedau lleol a gollodd eu bywydau mewn gwrthdaro."
Dadorchuddiwyd y Gofeb Ryfel Genedlaethol gan Dywysog Cymru yng Ngerddi
Alexander yn 1928 ac mae'n coffáu'r milwyr hynny a gollodd eu bywydau yn y
Rhyfel Byd Cyntaf. Mae hefyd yn cynnwys plac coffa ar gyfer y rhai a gollodd eu
bywydau yn yr Ail Ryfel Byd.
Dadorchuddiwyd Cofeb Arwyr Rhyfel Grangetown yng Ngerddi’r Faenor ar 7
Gorffennaf 1921. Wedi ei gomisiynu ar gost o £1000 mae’n cynnwys enwau
trigolion lleol a fu farw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, yn ogystal ag enwau
aelodau’r pwyllgor a sefydlwyd i godi arian ar gyfer ei godi.
Dywedodd cadeirydd Meysydd Chwarae Cymru, Brynmor Williams: “Rydym yn
gwybod bod parciau a mannau gwyrdd o fudd i iechyd a lles pobl ar hyd a lled
Cymru. Mae’r dystiolaeth bellach yn eglur: mae mannau gwyrddion yn dda, yn
gwneud daioni ac mae angen eu gwarchod am byth, felly rydym wrth ein bodd bod
Cyngor Caerdydd yn diogelu Gerddi Alexander a Gerddi’r Faenor fel Caeau’r
Canmlwyddiant, i gofio canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf er mwyn i
drigolion lleol gael eu defnyddio i chwarae, ar gyfer campau neu er mwyn
hamddena a hynny am byth. Mae Meysydd Chwarae Cymru wedi ymrwymo i warchod mwy
o fannau gwyrddion, fel y gall pobl o bob cwr o Gymru nawr ac yn y dyfodol,
barhau i allu manteisio arnyn nhw.”
Drwy fynd i Weithred Ddiofryd mae’r Cyngor i bob pwrpas yn “gwaredu” y tir
o dan Adran 123 Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r ddeddfwriaeth hon yn mynnu
bod y Cyngor yn hysbysu ei fwriadau ac yn ystyried unrhyw sylwadau a wneir gan
y cyhoedd wrth gyrraedd penderfyniad terfynol.
Mae Parc y Mynydd Bychan, Caeau Pontprennau, Man Agored Hywel Dda a Pharc
Tredelerch hefyd wedi eu gwarchod gan Feysydd Chwarae Cymru.
I gael gwybod rhagor am Feysydd Chwarae Cymru, ewch i: http://www.fieldsintrust.org/