Back
Twyll Fasnachwr wedi'i anfon i'r carchar

Anfonwyd twyll fasnachwr Damon Owens, 34, o Silver Street, Cross Keys, Caerffili, i'r carchar ddoe yn Llys y Goron Caerdydd am gyfnod o 10 mis am droseddau dan ddeddfwriaeth amddiffyn defnyddwyr.

Gohiriwyd yr achos yn ôl ym mis Chwefror yn dilyn honiadau cyfrwys i liniaru bai Owens ei fod wedi colli ei gof ar ôl cael ei saethu yng nghefn ei ben pan oedd yn gwasanaethu yn y Morlu Brenhinol ym Mosnia.

Clywodd y llys ddoe nad oedd Owens yn y Morlu Brenhinol, nac wedi cyflawni gwasanaeth actif erioed er ei fod wedi gwasanaethu yn y fyddin am flwyddyn. Mewn gwirionedd, ffon golff a achosodd yr anaf i'w benglog yn ystod ‘ymosodiad dial' ar Owens ger y Barri.

Honnodd Owens mai ef oedd yr unig ofalwr am ei blentyn, nad oedd yn wir ychwaith.

Roedd yr achos yn erbyn Owens yn ymwneud â dwy gŵyn a gafwyd gan y Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir. Y gyntaf ddaeth gan Sam Hulland, a gytunodd i gontract gydag Owens am estyniad un llawr i'w eiddo yn Nhredelerch.

Yn yr achos hwn, defnyddiodd Owens yr enw Andrew Hansell, enw hen ffrind a fu farw a chytunodd ar ffi £33,750 i gyflawni'r gwaith, gyda blaendal gwerth £16,875. Wrth gyflawni'r gwaith, difrododd Owens bibell draenio ac ar ôl methu â thrwsio'r broblem, daeth Dŵr Cymru a chanfuwyd nad oedd y gwaith a wnaed wedi ei gyflawni'n gywir.

Ymchwiliodd syrfëwr annibynnol y gwaith a daeth i'r casgliad mai gwerth y gwaith oedd "dim ond ychydig o gannoedd o bunnoedd" ac a godwyd ffi ormodol ar Mr Hulland o £16,000 o leiaf.

Roedd yr ail gŵyn yn ymwneud ag achos o'r diffynnydd yn codi ffi ormodol gan bensiynwr o Gasnewydd am drwsio tanc dŵr. Codwyd £240 ar y pensiynwr a dyfynnwyd £700 yn ychwanegol am waith trwsio'r tanc. Wrth i'r gwaith fynd rhagddo, dywedodd Owens fod angen cyflawni gwaith ychwanegol i'r brestiau simnai, a fydda'n costio £16,088.

Nodwyd mewn adroddiad syrfëwr yn nes ymlaen ei bod hi'n hynod annhebygol bod angen cyflawni'r gwaith.

Defnyddiodd Damon Owens nifer o enwau a chyfeiriadau ffug fel na all cwsmeriaid ganfod ei droseddau blaenorol.

Yn ogystal â defnyddio enw ei hen ffrind a fu farw, Andrew Hansell, defnyddiodd yr enwau canlynol: Dave Hansell, Dave Brown, Lee King a Christian Poole.

Bu hefyd yn gweithredu dan amrywiaeth o enwau masnachu gan gynnwys Cardiff Construction, Fluid Emergency Plumbers, Scarlets Electrical, South Wales Plasterers, Cardiff Plastering Limited, Emergency Plumbers Bristol, Drain Repair UK ac eraill.

Dywedodd Matthew Roberts, yr amddiffynnydd, wrth y llys fod ganddo hanes gorbryder ac iselder a'i fod yn berson â phroblemau na chawsant eu trin yn briodol. 

Wrth ddedfrydu meddai'r barnwr Fitton: "Gwnaethoch chi (Owens) gyflwyno eich hun fel rhywun arall yn ymarfer oddi ar gyfeiriadau ac enwau busnes ffug...fe wnaethoch dwyllo pobl i feddwl eich bod yn gontractwr go iawn ac nid ydych chi y fath beth... Rydych wedi dangos patrwm soffistigedig o droseddu sy'n crybwyll cynllunio'n ofalus ymlaen llaw i guddio eich hunaniaeth a'ch anonestrwydd.

"Rydych chi erioed wedi bod yn y Morlu Brenhinol nac mewn gwasanaeth actif.

"Ni fwriadaf atal y ddedfryd o garchar, fe gewch ddedfryd warchodol ar unwaith. Dyna effaith y celwydd a ddwedoch chi y tro diwethaf."

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yng Nghyngor Caerdydd: "Dylai'r achos hwn a'r  ddedfryd a roddwyd anfon neges glir iawn i dwyll fasnachwyr na chaiff eu hymarferion eu goddef a byddwn yn dod â'r materion hyn i'r llys pan ddaw tystiolaeth i law.

"Rydym yn cynghori unrhyw berson sydd wedi cael profiad o broblemau o'r fath i gysylltu â Chyngor i Gwsmeriaid  ar 03454 040506 a chaiff eu hachos ei drosglwyddo i'n tîm safonau, fel y gallwn ni ymchwilio i'r mater."

Gofynnodd yr Awdurdod Erlyn, Cyngor Caerdydd, am £12,500 yn iawndal, a £10,00 arall am gostau, ond clywodd y llys nad oedd "cyllid" gan Owens i'w talu.

Carcharwyd Damon Owens am 10 mis a bydd yn gwasanaethu hanner y ddedfryd yn warchodol a'r hanner arall ar drwydded.