Back
Datgelu glasbrint i greu Dinas Gerddoriaeth Gyntaf y DU
Mae glasbrint ar gyfer datblygu potensial cerddorol Caerdydd a chreu Dinas Gerddoriaeth Gyntaf y DU wedi ei ddatgelu. 

Mae Sound Diplomacy – un o gwmniau ymgynghori mwyaf blaenllaw y byd ac sy’n helpu dinasoedd i gyflawni twf economaidd, buddsoddiad a datblygiad diwylliannol drwy gerddoriaeth – wedi cwblhau ei adroddiad hir-ddisgwyliedig ar sector cerddoriaeth y brifddinas.

Mae adroddiad Dinas Gerdd Sound Diplomacy, “Informing a Music Strategy for Cardiff:  Music Ecosystem Study and Strategic Recommendations”, a baratowyd dros gyfnod o flwyddyn drwy drafodaethau â channoedd o bobl sy’n gweithio yn niwydiant cerddoriaeth Caerdydd, wedi cyflwyno cyfres o argymhellion i Gyngor Caerdydd a gomisiynodd yr adroddiad.

Bydd yr awdurdod nawr yn ystyried argymhellion Sound Diplomacy cyn cyflwyno adroddiad i’r Cabinet yn yr haf, a fydd yn nodi sut bydd Caerdydd yn dod yn arweinydd yn y Symudiad  Dinasoedd Cerddoriaeth Byd-eang.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd:“Mae cerddoriaeth yn gwneud nifer o bethau dros drefi a dinasoedd.  Mae’n creu swyddi.  Mae’n rhoi rheswm i fod yn rhywle.  Mae’n denu ymwelwyr.  Mae’n cynnig teimlad o hunaniaeth i ni.  Ac ni allwn anwybyddu’r ffaith bod cerddoriaeth ynddi ei hun yn beth da.

 “Rydym ni eisiau bod y ddinas gyntaf yn y DU a fydd yn ymgorffori cerddoriaeth yn rhan o strwythur y ddinas, o gynllunio a thrwyddedu i lesiant cymdeithasol a thwristiaeth.Drwy hyn, byddwn ni’n creu cymunedau bywiog, cyffrous, byddwn yn datblygu ein proffil rhyngwladol a chynyddu gwerth economaidd a chymdeithasol cerddoriaeth yn ein dinas.

 “Mae hyn yn digwydd am y tro cyntaf erioed yn y DU ac rydym ni’n credu y bydd yn gweddnewid Caerdydd.Bydd yn cydnabod a chefnogi’r rhan y gall cerddoriaeth ei chwarae ym mhob agwedd ar ein bywydau ac mae’n gweddu i’n huchelgais ehangach i ymestyn sectorau creadigol a digidol y ddinas.

 “Mae Caerdydd yn ddinas o artistiaid, cerddorion, cantorion, cynhyrchwyr, peirianwyr sain, ac wrth gwrs, pobl sy’n dwlu ar gerddoriaeth.  Maen nhw i gyd yn rhan o gymuned greadigol ehangach sydd heb ei hail ym Mhrydain, ac sy’n helpu i wneud Caerdydd yn un o'r dinasoedd mwyaf creadigol a dyfeisgar yn y byd.  Mae gennym ni dalent, mae gennym ni leoliadau, mae gennym ni ysbryd a diwylliant unigryw sy’n ein gosod ar wahân.Bydd ein Strategaeth Gerddoriaeth yn ystyried sut gallwn ni gael y budd gorau o werth economaidd a chymdeithasol cerddoriaeth drwy gydweithio.”

Bydd rhan o’r gwaith ar y cyd hwn yn cynnwys creu Bwrdd Cerddoriaeth a fydd yn galluogi gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant cerddoriaeth i gynrychioli a hybu prifddinas Cymru fel dinas sy’n dda i gerddoriaeth.

Ychwanegodd y Cynghorydd Thomas:“Mae Sound Diplomacy yn argymell ein bod yn sefydlu Bwrdd Cerddoriaeth a fydd yn bwrw ymlaen gydag agenda'r Ddinas Gerddoriaeth.Ein gwaith yn y Cyngor fydd gweithredu fel cymar ar y daith hon – i sicrhau bod popeth yn ei le i’r artistiaid allu gwneud eu gorau glas.Rydyn ni eisiau sicrhau bod grymoedd creadigol y ddinas yn cael y cyfle gorau posib i’w mynegi eu hunain a helpu i wireddu’r weledigaeth hon o wneud Caerdydd yn arweinydd byd-eang yn symudiad y dinasoedd cerddoriaeth."

Mae’r adroddiad yn datgelu llu o ystadegau a ffigurau diddorol am sefyllfa bresennol sector cerddoriaeth y ddinas.Yn eu plith, mae:

  • Gwerth sector cerddoriaeth i economi Caerdydd yw £104 miliwn y flwyddyn
  • Mae 1,440 o swyddi wedi eu creu gan sector cerddoriaeth Caerdydd
  • Mae 840 o’r swyddi hyn yn rhai llawn amser gyda 600 yn rhai rhan amser.
  • Incwm blynyddol cyfartalog artistiaid ac asiantau creadigol yw £18,000
  • Mae gweithwyr y sector technegol a rheoli cerddoriaeth yn ennill £27,500 y flwyddyn ar gyfartaledd
  • Cyfanswm y swyddi a grëwyd ac a gefnogwyd gan sector cerddoriaeth Caerdydd yw 2,494
  • Mae nifer y bobl yng Nghaerdydd sy’n gweithio yn y sector cerddoriaeth yn debyg i'r nifer ym Mryste a Lerpwl, ond mae’r ddinas yn creu 4.3 o swyddi fesul 1,000 o drigolion o’i gymharu â 2.7 ar gyfer Bryste a Lerpwl.

Nodir yn adroddiad Sound Diplomacy hefyd nad oes swyddfa gerddoriaeth â chysylltiad â’r  Llywodraeth ac nad oes cynrychiolwyr o’r diwydiant cerddoriaeth ar faterion strategol, er y gefnogaeth sylweddol a'r ewyllys da.

Mae’n amlygu bod rhan helaeth o’r cyllid sydd ar gael wedi ei ddyrannu ar gyfer cerddoriaeth glasurol, nad oes digon o eglurder ynghylch trwyddedu a bod bylchau o ran mannau'r lleoliadau, diffyg amrywiaeth digwyddiadau a diffyg polisïau cynllunio penodol yn ymwneud â cherddoriaeth.

Mae Sound Diplomacy yn argymell gwell llywodraethiant ac arweiniad, rhagor o ystyriaeth am fannau a lleoliadau, addysg, datblygiad artistiaid, datblygu proffesiynol, ymgysylltu â chynulleidfaoedd a marchnata cerddoriaeth.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas:“Mae llawer o heriau yn wynebu lleoliadau cerddoriaeth llawr gwlad o ran goroesi a ffynnu, yn aml mae’r heriau hyn y tu allan i reolaeth llywodraeth leol.Ond ni fydd yr heriau hyn yn ein hatal ni yng Nghaerdydd rhag gwneud popeth y gallwn ni i gefnogi’r sector a helpu i greu’r amgylchiadau iawn i sicrhau bod cerddoriaeth yn ein dinas yn ffynnu.  Mae angen inni weithio gyda’r sector, nodi sut y gallwn ni gefnogi ein huchelgais dros gerddoriaeth fyw gyda’n gilydd.

 “Rydym ni eisiau bwrw ymlaen â strategaeth a fydd yn gweld Caerdydd yn ei gosod ei hun yn arweinydd mewn datblygiadau trefol sy'n defnyddio cerddoriaeth fel dull i dyfu yn hytrach na chanlyniad i’r twf.

Ychwanegodd yr Aelod Cabinet dros Hamdden a Diwylliant, y Cynghorydd Peter Bradbury:  “Mae enaid Caerdydd yn llawn cerddoriaeth ac mae’r argymhellion a gyflwynwyd gan Sound Diplomacy yn cynnig sylfaen gadarn i ni y gallwn ddatblygu Strategaeth Gerddoriaeth arni, a bydd hon yn helpu i ddatblygu sector cerddoriaeth y ddinas sydd eisoes yn llwyddiannus. 

 “Mae Caerdydd yn un o bwerdai creadigol y DU - mae ein sector creadigol yn cyflogi oddeutu 15,000 o bobl ac yn cynhyrchu gwerth mwy na £1 biliwn i’r economi lleol – ond mae sector cerddoriaeth fyw y DU yn tyfu, yn ogystal â’r nifer o swyddi y mae’n eu cefnogi.  Mae ffigurau yng Nghymru yn dangos yn ddiweddar bod twristiaeth gerddoriaeth yn cynnal oddeutu 47,445 o swyddi a gwariant blynyddol gwerth £115 miliwn ar gyngherddau a gwyliau – mae hwn yn gyfle gwirioneddol i’n sector cerddoriaeth ac ar gyfer economi ehangach y ddinas.

 “O dafarndai lleol a lleoliadau cymunedol i neuaddau cyngerdd a stadia mawr, mae ecosystem cerddoriaeth y ddinas eisoes yn ffynnu, ond mae’r her a nodwyd yn glir yn adroddiad Sound Diplomacy, yn golygu bod rhaid i ni sicrhau bod ein hagwedd ehangach tuag at ddatblygu’r  ddinas yn alinio ag anghenion y diwydiant cerddoriaeth, fel y gall cerddoriaeth gefnogi’r ddinas yn economaidd, ac y gall y ddinas gefnogi ei cherddorion a gweithwyr proffesiynol ym maes cerddoriaeth.

 “Mae’n amlwg bod llawer i’w wneud a byddaf yn trafod yr adroddiad llawn gyda’r Cabinet yn y dyfodol agos, gan symud ymlaen i sefydlu Bwrdd Cerddoriaeth o bosib i helpu i wneud Caerdydd yn ddinas gerddoriaeth wirioneddol." 

Bydd adroddiad llawn Sound Diplomacy yn cael ei gyhoeddi ddydd Gwener cyn cyfarfod Cabinet Cyngor Caerdydd ddydd Iau 18 Ebrill.

 

Ystadegau Cerddoriaeth Caerdydd

36 o leoliadau cerddoriaeth

28 o glybiau nos

11 o siopau recordiau a chyfarpar

29 o stiwdios recordio

7 o labeli recordio

7 gorsaf radio

6 man ymarfer

15 o asiantau bwcio digwyddiadau/hyrwyddwyr

26 o wyliau y telir amdanynt

13 o fannau cydweithio

45 o athrawon cerddoriaeth cofrestredig

2,494 - cyfanswm y swyddi a grëwyd ac a gefnogwyd gan sector cerddoriaeth y ddinas