Back
Gwasanaeth Coffa Sul y Blodau
Cynhelir Gwasanaeth Coffa eciwmenaidd Sul y Blodau yng Nghapel y Wenallt yn Amlosgfa Draenen Pen-y-graig ddydd Sul 14 Ebrill 2019.

Mae’r gwasanaeth yn dechrau am 2pm a chaiff ei arwain gan y Parch. Lionel Fanthorpe.  Bydd Deborah Morgan Lewis yn arwain y canu a daw’r gwasanaeth i ben tua 3pm.

Dywedodd yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am y Gwasanaethau Profedigaeth, y Cyng. Michael Michael,  “Mae’r gwasanaeth hwn yn gyfle i bobl o bob ffydd ddod ynghyd i gofio a choffáu bywydau eu hanwyliaid.  Nid yw colli anwylyd fyth yn hawdd, ond gall cael cyfle i feddwl a chofio gydag urddas fod yn help mawr.”

Wrth gyrraedd y capel, gwahoddir ymwelwyr i roi cerdyn coffa â neges bersonol er cof am anwyliaid ar fwrdd atgofion. Caiff y bwrdd atgofion ei gyflwyno yn ystod y ddefod goffa.Cynhelir casgliad yn ystod y gwasanaeth ar gyfer yr elusen Tenovus Cancer Care.

Meddai Rheolwr Codi Arian Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro yn Tenovus Cancer Care, Alexandra Smith,  “Rydym yn ddiolchgar iawn i fod yr elusen a ddewiswyd gan Dîm y Gwasanaethau Profedigaeth yn Amlosgfa Draenen Pen-y-graig, ac rydym yn gwerthfawrogi’n fawr ein bod yn gallu casglu yn ystod eu gwasanaeth Sul y Blodau blynyddol.Bydd yr elw o’r casgliad hwn yn mynd tuag at ein gwasanaethau unigryw sy’n cefnogi cleifion â chanser a’u hanwyliaid yn y gymuned leol, gwasanaethau megis ein Llinell Gymorth sydd am ddim, ar gael am 365 diwrnod y flwyddyn ac ar gyfer unrhyw un sydd ag unrhyw gwestiynau am ganser.”

Bydd lluniaeth ar gael ar ddiwedd y gwasanaeth.

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch aelod o staff y Gwasanaethau Profedigaeth yn Amlosgfa Draenen Pen-y-graig ar 029 2054 4820.