Back
Cyngor Caerdydd yn herio’r duedd o ran y bwlch cyflog rhwng y rhywiau


Mae'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yng Nghyngor Caerdydd wedi gostwng i 3.8%, sy'n is o lawer na'r cyfartaledd o 19% yn y sector cyhoeddus a 23.8% yn y sector preifat.

 

Datgelwyd y ffigurau mewn adroddiad Polisi Cyflog sy'n dangos bod y bwlch cyflog canolrifol rhwng y rhywiau yn y cyngor (gan gynnwys ysgolion) wedi gostwng o 4.62% i 3.81% rhwng 2017 a 2018.

 

Mae'r adroddiad hefyd yn dangos bod y cyngor yn rheoli cyllideb o £609m ac yn cyflogi ychydig yn fwy na 13,000 o bobl a bod yr awdurdod, sy'n talu'r cyflog byw gwirfoddol, yn gwarantu na fydd unrhyw aelod o staff yn ennill llai na £9 yr awr o 1 Ebrill eleni.

 

Dywedodd y Cynghorydd Chris Weaver, yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad:"Mae'n wych gweld bod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yng Nghaerdydd yn llai o lawer nag yng ngweddill y sector cyhoeddus a'r sector preifat.Mae hefyd yn newyddion da na fydd unrhyw un o gyflogeion y cyngor yn ennill llai na £9 yr awr o 1 Ebrill.

"Y Cyngor hwn oedd y cyntaf yng Nghymru i fabwysiadu'r Cyflog Byw gwirfoddol i'w gyflogeion yn ôl yn 2012, ac rydym wedi gwneud cynnydd gwych ers ennill yr achrediad Cyflog Byw yn y lle cyntaf.Drwy dalu'r Cyflog Byw - y gyfradd sydd ei hangen ar gyflogeion a'u teuluoedd i fyw arni - rydym yn gwybod ein bod wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i lawer o bobl yn y ddinas.Ers i ni ddod yn gyflogwr Cyflog Byw achrededig mae dros 2,200 o staff llawn- a rhan-amser y Cyngor wedi elwa ar godiad cyflog, yn bennaf menywod yn gweithio fel goruchwylwyr clwb brecwast, glanhawyr, gweithwyr domestig, cynorthwywyr cegin a goruchwylwyr canol dydd.Mae hyn wedi helpu'r cyngor i gyflawni ffigurau gwell o lawer na chyfartaledd y DU o ran y bwlch cyflog rhwng y rhywiau, ond mae angen i ni wneud mwy, fel dod o hyd i ffyrdd o helpu ein gweithwyr rhan amser i ddatblygu eu gyrfaoedd, cefnogi dynion a menywod i gyflawni cyfrifoldebau gofalu os ydynt yn dymuno gwneud hynny, a sicrhau cyfle cyfartal i fenywod a dynion i gael eu cyflogi ar bobl lefel yn yr awdurdod.

"Wrth gwrs, mae hefyd yn hanfodol bwysig fod dynion a menywod yn cael yr un tâl am waith o'r un gwerth, a dyna'n union sy'n digwydd yng Nghyngor Caerdydd.Nid yw'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn y Cyngor yn golygu bod menywod yn cael eu talu'n llai na dynion am wneud yr un gwaith.Yma, mae'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn dangos a yw menywod yn gwneud mwy o'r swyddi sy'n talu llai o fewn y sefydliad.Rydym yn ymrwymedig i gynnig cyflog cyfartal am waith o'r un gwerth, ac mae gan Gyngor Caerdydd broses gwerthuso swyddi glir a thryloyw sy'n sicrhau bod hyn yn digwydd."

 

Bydd yr adroddiad yn mynd gerbron Cabinet y cyngor i'w gymeradwyo yn y cyfarfod nesaf ddydd Iau 21 Mawrth.

 

 

Gwybodaeth bellach

Y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yw'r gwahaniaeth yn y gyfradd gyfartalog fesul awr i ddynion a menywod mewn gweithlu.Os yw menywod yn gwneud mwy o'r swyddi sy'n talu llai o fewn sefydliad na dynion, mae'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau fel arfer yn fwy.

 

Nid yw'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yr un peth â chyflog anghyfartal, sef pan mae dynion a menywod yn cael eu talu'n wahanol am yr un gwaith (neu debyg).Mae cyflog anghyfartal wedi bod yn anghyfreithlon ers 1970.

 

Mae'r isafswm cyflog yn ofyniad statudol ac wedi'i osod ar £7.38 yr awr i bobl sy'n 21 oed a hŷn.

Mae'r Cyflog Byw cenedlaethol yn gyflog statudol i'r rheini sy'n 25 oed a hŷn, ac mae wedi'i osod ar £7.83 yr awr.

Mae'r Cyflog Byw Gwirioneddol yn daliad gwirfoddol sydd wedi'i osod ar £9 yr awr ledled y DU (o 1 Ebrill) a £10.55 yn Llundain.Dyma'r unig gyfradd sy'n seiliedig ar yr hyn sydd ei angen ar bobl i fyw.