Back
Datrysiadau tai i bobl hŷn

 

Yr wythnos hon, bydd y Cabinet yn trafod cynlluniau i ddatblygu cartrefi newydd yn y ddinas sy'n bodloni anghenion a dyheadau tai pobl hŷn.

 

Mae Strategaeth Tai Pobl Hŷn Caerdydd 2019-2023 wedi'i datblygu i gyflawni'r canlyniadau tai gorau posibl i bobl hŷn y ddinas, i'w helpu nhw i aros yn annibynnol yn hirach yn ogystsal â lleihau pwysau ar gyllidebau iechyd a gofal cymdeithasol.

 

Mae ymchwil diweddar wedi nodi gofynion tai a gofal cysylltiedig pobl hŷn ledled Caerdydd a Bro Morgannwg i'r dyfodol, ynghyd â chynlluniau tai pobl hŷn ein dinas i'r dyfodol.Mae'r strategaeth yn ymateb i'r ymchwil hwn ac yn amlinellu nifer o ymrwymiadau allweddol i sicrhau bod y ddarpariaeth yn bodloni anghenion poblogaeth sy'n heneiddio.

 

Mae'r ymrwymiadau hyn yn cynnwys darparu tai newydd i bobl hŷn - o leiaf 729 erbyn 2030, y bydd 434 ohonynt yn dai cyngor; a chynyddu cyflenwad tai ‘barod am ofal' i bobl hŷn sy'n addas ar gyfer heneiddio ac yn galluogi'r ddarpariaeth o ofal cartref fel bo angen.

 

Mae'r Cyngor hefyd yn bwriadu gwella tai presennol i sicrhau eu bod nhw'n addas at y diben a chefnogi byw'n annibynnol, a bydd yn parhau gyda'i raglen adfywio stoc â chymorth ar sail cynllun wrth gynllun.

 

Bydd Uned Tai Pobl Hŷn a Hygyrch newydd yn cynnig cyngor arbenigol ar dai i bobl hŷn, i'w helpu nhw i ddeall yn well eu hopsiynau tai a rhoi cymorth i'w helpu nhw i symud i eiddo llai neu i lety mwy hygyrch.

 

Bydd Gwasanaeth Byw'n Annibynnol y Cyngor yn dal i roi cymorth i bobl i barhau'n annibynnol gartref am gyfnod hirach.Bydd gan hybiau ledled y ddinas rôl allweddol i'w chwarae hefyd o ran adeiladu cymunedau mwy cynhwysol i helpu i daclo allgáu cymdeithasol ymysg pobl hŷn drwy ddatblygu digwyddiadau, gweithgareddau ac ystod o gyngor i fodloni eu hanghenion llesiant.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau:"Gyda disgwyl i nifer y bobl yn y ddinas rhwng 65 ac 84 oed i gynyddu gan 42% erbyn 2037 a nifer y bobl dros 85 i ddyblu bron, mae'n hanfodol ein bod ni'n cydnabod yr heriau tai a ddaw yn sgil poblogaeth sy'n heneiddio a chynllunio i'r dyfodol i sicrhau y gallwn fodloni eu hanghenion.

 

"Mae ffocws gryf yn y strategaeth ddrafft ar gynnig llety sy'n cefnogi annibyniaeth, sicrhau bod pobl yn rhan o'u cymuned i helpu allgáu cymdeithasol, a lleihau'r angen am ofal cymdeithasol."