Back
Cynnig i ad-drefnu ysgol gynradd yng Ngogledd-ddwyrain Caerdydd

Bydd dau adroddiad, sy'n mynd i'r afael â'r angen am ail-gydbwyso darpariaeth ysgol gynradd yn rhannau o Ogledd-ddwyrain Caerdydd, yn cael eu hystyried gan Aelodau Cabinet yr awdurdod lleol pan fyddant yn cwrdd ddydd Iau 21 Mawrth.

Ar hyn o bryd, mae gormod o leoedd ysgol ar gael yn Llanrhymni, ond, bydd angen mwy o leoedd ym Mhentref Llaneirwg a rhannau o Bontprennau ar ôl cwblhau datblygiad tai St Ederyn.

Mae'r adroddiad cyntaf - "Cynllunio Trefniadaeth Ysgolion:Darpariaeth lleoedd Ysgol Gynradd Cyfrwng Saesneg yn ardal Llanrhymni"- yn cynnig datrysiad strategol i leihau lleoedd diangen.

Mae sawl dewis wedi cael ei ystyried i sicrhau cydbwysedd gwell rhwng y cyflenwad a'r galw am leoedd cyfrwng Saesneg yn ardal Llanrhymni.Yn dilynpenderfyniad y Cabinet i beidio â pharhau â'r cynnig cynharach i gau Glan yr Afon <https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/20545.html>, mae'r cynlluniau canlynol wedi cael eu cynnig i'w hystyried:

 

  • Dylai Ysgol Gynradd Glan yr Afon gael ei chadarnhau fel ysgol gynradd un dosbarth mynediad â dosbarth meithrin â 48 lle ar ei safle presennol, gan ei chyfuno ag ysgol gynradd arall yng Nghaerdydd, i'w benderfynu.
  • Dylid adleoli Ysgol Gynradd Llaneirwg i ddatblygiad St Ederyn gan leihau'r capasiti yn Llanrhymni gan 0.5 dosbarth mynediad, yn amodol ar ymgynghoriad swyddogol.

 

Mae'r adroddiad hefyd yn ceisio cytundeb y Cabinet i ganiatáu i swyddogion y Cyngor ystyried dewisiadau ariannu eraill er mwyn dod â'r amrywiaeth o wasanaethau Blynyddoedd Cynnar yn ardal Llanrhymni ynghyd mewn un man, ar safle Glan yr Afon.

Mae'r ail adroddiad - "Y ddarpariaeth ysgol newydd i wasanaethau rhannau o Bontprennau a Phentref Llaneirwg" - yn amlinellu cynigion y Cyngor i adeiladu ysgol newydd ar ddatblygiad St Ederyn, tua'r dwyrain o ffordd gyswllt Pontprennau ym Mhentref Llaneirwg.

Byddai'r ysgol gynradd newydd yn galluogi ysgol gynradd Llaneirwg i symud o'r safle presennol yn Llanrhymni.Byddai'n ymestyn o gynnig 105 o leoedd i ddarparu 210 ohonynt, gyda'r posibilrwydd o ehangu i ddau ddosbarth mynediad yn y dyfodol.Byddai'r ysgol newydd yn cynnwys dosbarth meithrin, gan ehangu'r ystod oedran o 4-11 oed i 3-11 oed.

Byddai'r capasiti yn yr ysgol newydd yn rhoi lle i'r disgyblion presennol yn ogystal â'r cynnydd yn y galw a ddisgwylir yn sgil y datblygiad St Ederyn newydd.Byddai'r ysgol yn cael ei hadeiladu gan y datblygwr, yn rhan o'r cytundeb cynllunio ar y cyd â'r Cyngor, a'i hariannu drwy gyfraniadau Adran 106.

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau:"Mae'r broblem o leoedd diangen mewn ysgolion cynradd yn Llanrhymni yn parhau i beri pryder.Mae'n rhoi pwysau ariannol mawr ar ysgolion yn yr ardal, felly mae dod o hyd i'r datrysiad cywir yn dal i fod yn flaenoriaeth.

"Mae gan Glan yr Afon y ganran uchaf o leoedd heb eu llenwi mewn unrhyw ysgol yn yr ardal.Drwy leihau maint yr ysgol gallwn edrych ar liniaru'r anawsterau ariannol presennol a gwella deilliannau'r disgyblion yn yr ysgol.

"Bydd adleoli i Ysgol Gynradd Llaneirwg hefyd yn helpu i fynd i'r afael â'r broblem o leoedd diangen mewn ysgolion cynradd yn Llanrhymni, gan sicrhau ein bod yn ateb y galw cynyddol ym Mhentref Llaneirwg ar yr un pryd."

Mae copi llawn o'r adroddiadau ar gael ar-lein ar http://cardiff.moderngov.co.uk/ieDocHome.aspx?bcr=1&LLL=1