Gwybodaeth Gyffredinol:
Llwybrau beicio parhaus yw Beicffyrdd, sy'n cael eu gwahanu ar y cyfan oddi wrth gerbydau a cherddwyr.
Bydd Beicffyrdd yn gwneud beicio yn fwy diogel, yn haws ac yn gyflymach i bobl sy'n gobeithio teithio i'r gwaith ar y beic, i blant sy'n teithio i'r ysgol, ac ar gyfer siopa a hamdden. Bydd Beicffyrdd yn ei gwneud hi'n fwy deniadol ac yn fwy o hwyl i drigolion ac ymwelwyr sy'n chwilio am ffordd arall o deithio yn hytrach na gyrru. Os bydd mwy o bobl yn beicio ac yn gadael y car gartref, bydd ansawdd yr aer yn gwella, gan leihau NO2, gronynnau a CO2.
Byddan. Mae'r ffigyrau diweddaraf gan Sustrans yn dangos bod 12-miliwn o deithiau beic yn digwydd yng Nghaerdydd bob blwyddyn, gan gymryd 11,000 o gerbydau oddi ar y ffyrdd. Mae'r arbedion o ran costau i'r GIG o'r teithiau beic hyn yn gyfystyr â £699,000. Mae beicio hefyd yn ffordd llawer mwy iach o deithio gan wella ffitrwydd hefyd. Yn ôl ymchwil mae 52% o deithiau car yn y ddinas yn llai na 5 cilometr. Mae hwn yn bellter y gellir ei feicio yn braf mewn 20 munud. Bydd beicio nôl ac ymlaen o'ch cartref fel hyn yn llosgi rhwng 200 a 300 calori ychwanegol y dydd.
Mae disgwyl i boblogaeth Caerdydd dyfu ac er mwyn rheoli hyn a lleihau tagfeydd ar ein ffyrdd mae'r Cyngor wedi gosod targed o gyflawni rhaniad moddol o 50/50 rhwng y rhai hynny sy'n teithio mewn car a ffyrdd cynaliadwy o deithio (cerdded, beicio neu drafnidiaeth gyhoeddus) erbyn 2026.
Mae nifer y bobl sy'n beicio i'r gwaith wedi dyblu yng Nghaerdydd dros yr 8 mlynedd diwethaf. Mae bellach 14 i 15 miliwn o bobl yn beicio i'r gwaith bob blwyddyn, ac mae'r cynllun nextbike yn un o'r mwyaf llwyddiannus yn y DU. Mae poblogrwydd beicio yn tyfu yn y ddinas o hyd, ac mae trigolion yn awyddus i weld llwybrau mwy diogel i'r teulu cyfan eu mwynhau.
Mewn sawl ffordd mae Caerdydd yn ddelfrydol ar gyfer beicio, gan ei bod yn wastad ar y cyfan, ac felly'n haws i bobl o bob gallu fynd o gwmpas. Bydd Beicffyrdd yn gwneud beicio hyd yn oed yn fwy deniadol i bobl, yn arbennig y rhai hynny sy'n poeni am feicio nesaf at gerbydau.
Mae Beicffyrdd ar gyfer beicwyr o bob oedran a gallu, yn teithio am unrhyw reswm.
Mae cynlluniau ar droed i ddatblygu pump o lwybrau Beicffyrdd.
Bydd y bum Beicffordd yn cysylltu'r gogledd, y dwyrain, y gorllewin a de-orllewin y ddinas i Ganol y Ddinas a Bae Caerdydd, ac mae'n cynnwys cynlluniau am feicffyrdd ar:
www.caerdydd.gov.uk/llwybrbeicio
Yn 2020, bydd y Cyngor yn cynnal adolygiad o'r cynllun presennol sydd wedi'i gyhoeddi ar wefan y Cyngor -www.caerdydd.gov.uk/teithiollesolBydd hyn yn rhoi'r cyfle i'r cyhoedd awgrymu lleoliadau ar gyfer Beicffyrdd ychwanegol mewn ymgynghoriadau cyhoeddus yn y dyfodol.
Bydd Llwybr 1, Cam 1, sy'n rhan o lwybr Cilgant St Andrew i Heath High Level, yn cael ei gwblhau yn Awst 2019. Bydd llwybrau eraill yn dilyn yn 2020 a 2021.
Dyma'r gwaith ar Lwybr 1, Cam 1, a fydd yn rhedeg ar hyd Senghennydd Road i Gilgant St Andrew. Bydd hwn wedyn yn ymestyn hyd at Heath High Level yn yr ail gam.
Bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn dechrau ar Feicffordd Bae Caerdydd i Smart Way yn yr haf, a'r gobaith yw dechrau gwaith ar y rhan hon o'r rhwydwaith feicio ym mis Hydref.
Pan fyddant wedi'u cwblhau, bydd y bum Beicffordd gyfystyr â 24 cilometr (14.9milltir) o lwybrau beicio. Bydd y cam cyntaf yn golygu bod lle i feicio ar hyd 13 cilometr - drwy naw ward.
Pan fyddant wedi'u cwblhau, bydd y bum Beicffordd yn mynd drwy 16 ward.
Mae Cyngor Caerdydd yn cynnig hyfforddiant beicio un-wrth-un i unrhyw un sy'n byw, yn gweithio neu'n astudio yng Nghaerdydd. Mae'r hyfforddiant yn cynnwys y tair lefel o'r Hyfforddiant Beicio Safonol Cenedlaethol, o ddechreuwyr i feicwyr profiadol.
Ar ddechrau'r sesiwn, bydd ein hyfforddwyr yn asesu eich lefel o gymhwysedd ac yn trafod gyda chi beth yr hoffech ei gael o'r hyfforddiant. Byddan nhw wedyn yn anelu'r hyfforddiant at eich anghenion penodol. Mae rhagor o fanylion ar wefan y Cyngor yn www.caerdydd.gov.uk/diogelwchffyrdd
Mae rhaglen "Let's Ride" Beicio Cymru, a gefnogir gan HSBC UK a British Cycling, yn cynnig ystod eang o gyfleoedd, pa un ai ydych yn mynd ar gefn beic am y tro cyntaf, neu'n chwilio am bobl o'r un anian i fynd am dro ar y beic a chael coffi gyda nhw. Mae rhagor o fanylion arwww.letsride.co.uk
Mae Caerdydd yn gartref i un o gwmnïau rhannu beic mwya'r byd - nextbike. System rhannu beiciau drwy danysgrifio yw nextbike, gyda 50 o orsafoedd ledled Caerdydd a 500 o feiciau i'w rhentu ar unrhyw adeg o'r dydd.
Gallwch gofrestru cyfrif drwy lawrlwytho'r ap i ffôn clyfar, mynd i'r wefan neu alw'r llinell gymorth.
I ddatgloi Nextbike gallwch naill ai sganio'r cod QR neu nodi rhif y beic yn yr ap, neu drwy'r llinell gymorth.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth a gweld lle mae'r orsaf Nextbike agosaf arwefan Nextbike.
Cynllunio ac ymgynghori
Ateb: Dewiswyd y llwybrau drwy ddatblygu ein Map Rhwydwaith Integredig (MRhI), sef ein cynllun 15 mlynedd i greu a gwella llwybrau beicio ledled y ddinas. Mae'r MRhI i'w weld ar wefan y Cyngorwww.caerdydd.gov.uk/teithiollesol
Dewiswyd y llwybrau i gysylltu cymunedau sy'n bodoli'n barod a safleoedd datblygu strategol i fannau pwysig yn y ddinas gan gynnwys canol y ddinas, Bae Caerdydd ac Ysbyty Athrofaol Cymru.
Ateb: Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar lwybr 1 cam 1 rhwng 10 Ebrill ac 11 Mai 2018. Gellir gweld canlyniad yr ymgynghoriad ynAdroddiad yr Ymgynghoriad
Mae'r ymgynghoriad cyhoeddus ar Rodfa Lloyd George (llwybr 3 cam 1) ar agor ar hyn o bryd ac yn parhau tan 12 Ebrill 2019.
Bydd ymgynghoriadau cyhoeddus ar rannau eraill o'r llwybrau yn dilyn yn hwyrach eleni.
Y llwybrau
Ateb: Yn y rhan fwyaf o lefydd bydd trac beicio i'r ddau gyfeiriad ar un ochr o'r heol, wedi'u gwahanu oddi wrth gerddwyr a cherbydau.
Ateb: Bydd y newidiadau mewn trefniadau parcio yn dibynnu ar y sefyllfa'n lleol, ac yn destun ymgynghoriad cyhoeddus.
Ateb: Bydd y rhan fwyaf o Feicffyrdd yr un lliw â'r lôn gerbydau ar y cyfan, oherwydd mai'r math yma o arwyneb yw'r ffordd fwyaf cost-effeithiol o gynnig yr arwyneb mwyaf llyfn i feicwyr.
Mewn rhai lleoliadau, fel cyffyrdd, defnyddir arwyneb lliw i'w gwneud hi'n eglur lle mae'r llwybr beicio.
Ateb: Nid yw hi'n fwriad i lonydd beicio fynd drwy lonydd bysus fel rhan o'r pum llwybr Beicffordd arfaethedig.
Ateb: Ni fydd Llwybr 1 Cam 1 (Senghennydd Road) yn effeithio ar dacsis.
Mae gwaith modelu'n mynd yn ei flaen ar y llwybrau Beicffordd sy'n weddill i weld pa effaith, os o gwbl, y bydden nhw'n ei gael ar amseroedd teithio neu eu dibynadwyedd.
Ateb: Bydd Llwybr 1 Cam 1 (Senghennydd Road) yn golygu rhoi arwyneb newydd ar y lôn gerbydau a'r troedffyrdd ynghyd â chreu'r trac beicio a'r gwelliannau i'r gyffordd y bydd eu hangen.
Ateb: Cafodd traffig, gan gynnwys cerbydau, beiciau a cherddwyr eu cyfrif i roi data sylfaenol ar gyfer y llwybrau. Bydd rhagor o gyfrif yn digwydd ar ôl cwblhau'r llwybrau er mwyn monitro'r effaith.
Diogelwch
Ateb: Yn y rhan fwyaf o lefydd, bydd Beicffyrdd yn cynnig llwybr beicio ar wahân i gerbydau ar y lôn gerbydau a cherddwyr ar y droedffordd, gan leihau gwrthdaro rhwng pawb sy'n defnyddio'r rhwydwaith ffyrdd.
Yn ôl arolwg Bywyd Beicio Sustrans yn 2017, roedd 76% o drigolion Caerdydd yn teimlo bod angen gwella diogelwch beicio, a 70% yn credu y byddai cael llwybrau beicio ar wahân i draffig yn ddefnyddiol iawn i rywun oedd am ddechrau beicio, neu feicio mwy.
Ateb: Yn y rhan fwyaf o lefydd, bydd Beicffyrdd yn cael eu gwahanu o'r lôn gerbydau. Mewn rhai mannau, lle mae llai o gerbydau, mae'n bosib y bydd y llwybr beicio yn rhannu'r lôn gerbydau gyda cherbydau, er enghraifft ar Gilgant St Andrew.
Ateb: Yn y rhan fwyaf o lefydd, bydd Beicffyrdd ar wahân i'r lôn gerbydau, yn atal gwrthdaro gyda Cherbydau Nwyddau Trwm, bysiau a cherbydau mawr eraill.
Ateb: Nid yw beicwyr yn cael teithio drwy oleuadau coch. Fodd bynnag, bydd cyffyrdd ar y llwybrau'n cael eu hail-ddylunio, i'w gwneud yn ddiogelach i feicwyr, gan gynnwys rhoi golau gwyrdd iddyn nhw ddechrau cyn pawb arall.
Ateb: Bydd arwyddion ar gyffyrdd yn cael eu hail-ddylunio i atal gwrthdaro gyda cherbydau'n troi i'r chwith.
Gallai mesurau gynnwys:
Bydd rhaid i yrwyr sy'n croesi Beicffordd i droi i'r chwith i ffordd lai, ildio i feicwyr.
Gorfodi traffig
Ateb: Bydd ymgyrch gyhoeddus yn cefnogi'r gwaith o adeiladu'r seilwaith newydd.
Ateb: Bydd y rhan fwyaf o Feicffyrdd yn llwybrau beicio na fydd cerbydau yn gallu cael mynediad iddynt.
Costau/Ariannu
Ateb: Bydd cost pob rhan yn amrywio, yn dibynnu ar faint o waith sydd angen ei wneud, ond y disgwyl yw y bydd oddeutu £1m-£1.5m y cilometr.
Ateb: Bydd pob llwybr yn cael ei ariannu drwy gynlluniau a grantiau gwahanol.
Llif Traffig
Ateb: Ni fydd Llwybr 1 Cam 1 (Senghennydd Road) yn cynyddu amseroedd teithio i ddefnyddwyr eraill y ffordd. Mae gwaith modelu'n mynd yn ei flaen ar y llwybrau Beicffordd sy'n weddill i weld pa effaith, os o gwbl, y bydden nhw'n ei gael ar amseroedd teithio neu eu dibynadwyedd.
Adeiladu a chynnal a chadw
Ateb: Dim ond ar adegau tawel y bydd gwaith yn cael ei ganiatáu ar y llwybrau prysur. Bydd sŵn yn cael ei gyfyngu gyda'r nos yn unol â gofynion statudol. Bydd pwynt cyswllt gyda'r Contractwr fydd ar gael yn ystod y dydd a'r tu allan i oriau.
Ateb: Yn dilyn proses dendro gystadleuol, Alun Griffiths Cyf. sydd wedi'i ddewis i wneud y gwaith ar Lwybr 1 Cam 1 (Senghennydd Road).
Bydd proses dendro gystadleuol yn digwydd i ddewis contractwr(wyr) ar gyfer rhannau eraill o'r Feicffordd.
Cysylltu â llwybrau beicio eraill
Ateb: Bydd cyffyrdd yn cael eu dylunio i sicrhau bod beicwyr yn gallu ymuno â'r Beicffyrdd a'u gadael yn gyffyrddus o lwybrau beicio eraill sy'n eu croesi, ac o lwybrau beicio sydd ar ffyrdd y mae beicwyr eisiau eu defnyddio.
Ateb: Mae nifer o orsafoedd nextbike eisoes wedi'u lleoli ar neu'n agos at lwybrau Beicffordd arfaethedig.
Llwybr 1 / Cam 1 - Senghennydd Road
Ateb: Dewiswyd y llwybr hwn fel cam cyntaf Llwybr 1, fydd yn y pendraw yn cysylltu canol y ddinas ag Ysbyty Athrofaol Cymru, Y Mynydd Bychan a safle datblygu Gogledd-ddwyrain Caerdydd.
O'r cam yma, ar ben deheuol Cilgant St Andrew, mae modd parhau i ganol y ddinas. Mae'n cysylltu'n uniongyrchol â gorsaf drenau Cathays.
O ben gogleddol y llwybr bydd modd mynd yn uniongyrchol i Cathays Terrace.
Ateb: Bydd y rhan hon o'r llwybr yn costio £1.4m, gan gynnwys ffioedd, dylunio ac adeiladu.
Ateb: Mae Llwybr 1 Cam 1 yn dechrau wrth y Groesfan Twcan sy'n cysylltu Plas Windsor â Chilgant St Andrew. Mae'n dilyn Cilgant St Andrew, Maes St Andrew a Senghennydd Road, a bydd modd mynd o ben gogleddol y ffordd honno i Cathays Terrace.
Ateb: Mae Llwybr 1 / Cam 1 yn cynnwys y gwelliannau canlynol:
Ateb: Mae'r llwybr yn 1 cilometr o hyd.
Ateb: Mae nifer y mannau parcio talu ac arddangos ar Senghennydd Road yn cael eu cwtogi o 104 i 25. Mae parcio talu ac arddangos ar gael gerllaw ar Plas-y-Parc ac ym Mharc Cathays. Mae parcio hefyd ar gael yn y maes parcio NCP ar Blas Dumfries.
Ni fydd y cynllun yn effeithio ar fannau parcio i bobl anabl sy'n bodoli eisoes.
Ateb: Bydd nifer y mannau parcio preswyl yn lleihau o 43 i 26. Mae adolygiad o'r nifer o drwyddedau sydd wedi'u rhoi a'r galw am barcio yn awgrymu y bydd 26 man parcio yn dal yn ddigon i fodloni'r galw gan drigolion sy'n parcio ar Senghennydd Road.
Ateb:Ni fydd y ffordd yn cael ei chau wrth i'r gwaith fynd rhagddo, ond mae'n bosib bydd rhaid cau rhannau o'r ffordd dros dro, er enghraifft pan fydd arwyneb newydd yn cael ei rhoi arni.