Back
Cymuned a Rennir

 Mae Cyngor Caerdydd a'r chwe chyngor cymuned yn y ddinas wedi ailddatgan eu hymrwymiad i gydweithio drwy lofnodi siarter newydd.

 

Llofnodwyd y siarter gan Arweinydd y Cyngor, y Cyng. Huw Thomas, a chadeiryddion cynghorau cymuned y ddinasyn Neuadd y Ddinas, ar ôl iddi gael ei chymeradwyo'n ffurfiol gan bob un o'r cynghorau cymuned a Chabinet Caerdydd ym mis Rhagfyr.

 

Mae gan Gaerdydd chwe chyngor cymuned - Pentyrch, Sain Ffagan, Radur a Phentre-poeth, Llys-faen, Pentref Llaneirwg a Thongwynlais.

 

Mae'r Siarter yn nodi nifer o egwyddorion a datganiadau cynhwysfawr o ran sut mae Cyngor Caerdydd a'r chwe chyngor cymuned yn bwriadu cydweithio er budd cymunedau lleol a bwrw ati i ymgysylltu'n rheolaidd, ar sail partneriaeth rhwng dwy haen llywodraeth leol.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd:"Mae Cyngor Caerdydd a'r chwe chyngor cymuned yn y ddinas yn rhannu'r flaenoriaeth gyffredin o sicrhau bod dinasyddion yn ganolog i bopeth a wnawn.

 

"Drwy lofnodi'r siarter hon rydym oll yn ymrwymo i feithrin perthynas dda a chydweithio ar faterion cyffredin er budd ein cymunedau.