Bydd cystadleuydd o raglenThe Greatest DancerBBC One yn ymweld agYsgol Uwchradd Woodlands yn nes ymlaen y mis hwn ar gais arbennig disgybl.
Bu Hannah Holdam yn gwylio Andrew Self ar y sioe dalent wrth iddo doddi calonnau pawb yn y wlad gyda'i berfformiad egnïol iCan't Stop the Feelinggan Justin Timberlake - llwyddodd i ddod â dagrau i lygaid y beirniad enwog Cheryl hyd yn oed.
Roedd perfformiad Andrew yn ysbrydoliaeth i lawer o bobl yn y gynulleidfa, gan gynnwys disgyblion a staff yr ysgol pan ddangosodd y Dirprwy Bennaeth Dros Dro, Mrs Lisa Purcell, y sioe yn ystod gwasanaeth.
Mae Hannah, sy'n 18 oed ac â syndrom Down fel Andrew, yn rhannu ei ddiddordeb mewn dawnsio hefyd. Ysgrifennodd ato i ofyn a fyddai'n fodlon dod a bod yn feirniad yn sioe dalent flynyddol yr ysgol.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry:"Mae hon yn enghraifft sy'n codi'r galon o sut mae athrawon Ysgol Uwchradd Woodlands yn ceisio ysbrydoli ac annog y plant i fod yn greadigol, a all hyrwyddo hyder a hunan-barch.
"Mae pawb yn yr ysgol yn llawn cyffro a hoffwn i estyn croeso cynnes Cymreig i Andrew a'i fam a dymuno pob llwyddiant iddo yn y sioe dalent a phob lwc i'r holl blant."
Dywedodd Dirprwy Bennaeth Dros Dro Ysgol Uwchradd Woodlands, Mrs Lisa Purcell, "Fe welais episod cyntafThe Greatest Dancera gwnaeth perfformiad Andrew argraff fawr arnaf.Mae'n esiampl ragorol ac yn ysbrydoliaeth i bobl ifanc ein hysgol.
"Mae Hannah hefyd yn ddawnswraig wych ac rydym yn falch iawn ohoni ac o'n disgyblion i gyd yma yn Woodlands, sydd mor ddawnus a medrus.Rydym wrth ein boddau bod Andrew wedi cytuno i ymweld â'n hysgol a bod yn feirniad yn ein sioe dalent flynyddol, ac rydym yn gobeithio y gall ddawnsio ar ein cyfer efallai!"
Ar ôl derbyn y llythyr, meddai Andrew: "Diolch am fy ngwahodd i'ch sioe dalent, byddwn wrth fy modd yn beirniadu fel Len Goodman!"