Back
Cogydd ysgol i ymddeol wedi 35 mlynedd o wasanaeth

Yr wythnos hon, bydd Cogydd â Gofal, Ysgol Gynradd Gabalfa, Mrs Pauline Henricksen, yn ymddeol wedi 35 mlynedd o wasanaeth.

Dechreuodd Pauline ei chyfnod yn Ysgol Gynradd Gabalfa ym 1956, fel disgybl yn Ysgol y Babanod Gabalfa a pharhau â'u haddysg yno cyn symud i Ysgol Uwchradd Glantaf. 

 

Ym 1984, gyda'i phlant ei hun yn yr ysgol, dechreuodd Pauline weithio fel menyw ginio yn yr ysgol, gan ei gwneud yn un o'r aelodau staff sydd wedi gwasanaethu hiraf. Dros y chwarter canrif nesaf, bu Pauline yn llenwi sawl swydd yn y gegin a hi sydd wedi bod yn gogydd bellach ers bron i ddeng mlynedd.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae Pauline wedi bod yn rhan greiddiol o Ysgol Gynradd Gabalfa a chymuned ehangach Gabalfa, gan addasu dros y blynyddoedd wrth i'r ysgol newid penaethiaid, staff a'r llynedd, adeiladu adeilad newydd i'r ysgol.

 

"Mae wedi addasu i'r newidiadau hyn heb dorri ei cham, wastad yn llwyddo i ddarparu prydau twym i'r cannoedd o blant dan ei gofal. Mae Cyngor Caerdydd yn ddiolchgar iddi am ei gwaith dros y blynyddoedd ac rydym yn dymuno ymddeoliad hapus a digon o orffwys iddi.

 

Dywedodd y Pennaeth, Mrs Carrie Jenkins: "Mae'r ysgol wedi bod yn rhan bwysig o fywyd teuluol Pauline am iddi gwrdd â'i gŵr yma a mynd yn ei blaen i gael chwech o blant, pob un wedi mynychu Ysgol Gynradd Gabalfa ynghyd â nithoedd a neiaint Pauline.

 

"Mae ei brwdfrydedd a'i hymrwymiad diflino at blant yr ysgol yn amlwg pan fyddwch yn cwrdd â hi ac yn ei gwylio'n rhyngweithio â'r plant mae'n eu bwydo, nid yn unig yn darparu bwyd i blant Ysgol Gynradd Gabalfa ond hefyd i Ysgol Glan Ceubal ac Ysgol Meadowbank. Bydd y plant, y staff a'r rhieni i gyd yn gweld eisiau Pauline, a bydd llawer ohonyn nhw yn ei chofio hi o'u hamser nhw eu hunain yn yr ysgol."

 

Dywedodd Pauline: "Dwi wedi gweld sawl newid dros y blynyddoedd ond mae hon yn ysgol hyfryd ac rydym wedi cael sawl pennaeth hyfryd. Mae newidiadau wedi bod gyda'r bwyd hefyd - bwyd iachach, llai o siwgr a halen - mae prydau ysgol yn bendant wedi gwella ers i mi ddechrau'r swydd. Dyma beth mae'r plant eisiau - maen nhw'n caru brocoli a phys melyn ac maen nhw i gyd yn dwlu ar bys!

Dwi wedi gweld cymaint o blant yn mynd drwy'r ysgol, a wedyn maen nhw'n cael eu plant eu hunain sydd hefyd yn mynychu. Bydda i'n gweld eisiau'r plant yn ofnadwy.

"Mi fydda i'n dal i digon o goginio i'r wyrion ac mae'r teulu cyfan yn dal i ddod ata i am ginio dydd Sul."

Cynhaliwyd gwasanaeth arbennig yn yr ysgol heddiw gyda phob dosbarth yn cyflwyno cardiau ac anrhegion personol i Pauline. Hefyd fe berfformiodd y disgyblion hoff gân Pauline, sef Never Forget gan Take That.

 

A beth fydd Pauline yn ei wneud nawr wrth iddi ddechrau ar ei hymddeoliad? Fydd y rhai sydd yn ei nabod ddim yn synnu o glywed ei bod yn bwriadu parhau yn brysur, yn treulio ei hamser gyda'i phlant, ei un ar ddeg o wyrion a'i thri gor-ŵyr, gydag un arall ar y ffordd. A hyn oll tra'n dilyn helyntion diweddaraf Clwb Pêl-droed Lerpwl!