Back
Prif Weinidog Cymru yn ymweld ag Ysgol Gynradd Lansdowne i agor y Senedd plant yn swyddogol.

Mae Ysgol Gynradd Lansdowne yn Nhreganna wedi lansio menter newydd sy'n rhoi cyfle i ddisgyblion ymgysylltu â gwleidyddiaeth.

Cafodd Senedd Lansdowne, sydd wedi'i modelu ar Senedd Cymru ym Mae Caerdydd, ei hagor yn swyddogol yr wythnos ddiwethaf gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford.Mae'r prosiect yn galluogi disgyblion i gymryd rhan yn rheolaidd mewn is-bwyllgorau sy'n mynd i'r afael ag agweddau allweddol ar fywyd ysgol gan gynnwys chwaraeon, yr amgylchedd, llythrennedd digidol, cydraddoldeb ac amrywiaeth, llesiant a hawliau disgyblion.

Nod y fenter yw cysylltu â gweledigaeth yr ysgol sef y dylai staff ac arweinwyr ddatblygu dinasyddion iach, hyderus, mentrus, uchelgeisiol, moesegol a hyddysg yng Nghymru ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry:"Rydw i wrth fy modd bod plant Ysgol Gynradd Lansdowne yn cael profiad uniongyrchol o wleidyddiaeth ac yn cael cyfle i drafod y materion sy'n bwysig iddyn nhw."

Dywedodd y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AC:  "Mae'n wych gweld cymaint o bobl ifanc yn cael eu cyffroi gan eu dysgu ac yn cymryd rhan weithredol yn y broses ddysgu, gan wneud penderfyniadau allweddol am eu hysgol.Mae'r ysgol yn annog arloesedd, cyfrifoldeb a gwydnwch yn ein pobl ifanc".

Dywedodd Mrs Kinsey, pennaeth yr ysgol:"Dyma un o'r newidiadau allweddol, rydym ni fel ysgol yn ei wneud er mwyn datblygu ein gweledigaeth bedagogaidd ar gyfer 2025.

"Mae Cymru yn edrych ymlaen gyda chenhadaeth genedlaethol i ddatblygu cwricwlwm newydd ac ystyrlon ac mae’n rhaid i ni fel addysgwyr barhau i groesawu'r newidiadau hyn a bod yn optimistaidd ynglŷn â dyfodol addysg yng Nghymru."

 Mae uwch dîm arwain yn galluogi staff a disgyblion i ymgysylltu'n llawn â’r Senedd drwy neilltuo amser o ansawdd bob wythnos, a chredant y bydd disgyblion yn datblygu medrau mwy ystyrlon mewn cyd-destunau real.Yn ogystal, mae gan yr ysgol griw gofalgar a grŵp ‘Digon’, sy'n mynd i'r afael â homoffobia yn yr ysgol.

Mae llais disgyblion yn yr ysgol wedi hen ennill ei blwyf yn y Babanod ac mae'r ysgol wedi'i chanmol am hyn yn ei hadroddiad Estyn yn 2017.

Ychwanegodd Mrs Cooper, y dirprwy bennaeth:"Mae'r fenter hon yn dangos agweddau cadarnhaol y cwricwlwm o safbwynt y plant, mewn ffordd sy'n eu galluogi i gyfranogi’n fawr. "Maen nhw'n cyfrannu'n wirioneddol at y gwaith o reoli'r ysgol, gan ddatblygu'r rhinweddau a nodir yn adroddiad yr Athro Donaldson".