Back
Caerdydd yw’r ddinas sy’n dioddef fwyaf o fesurau cyni Llywodraeth y DU yng Nghymru
Caerdydd yw’r ddinas i ddioddef fwyaf o fesurau cyni Llywodraeth y DU yng Nghymru, gyda gwariant yn 2017/18 £148 y pen yn is na'r gwariant yn 2009/10, yn ôl adroddiad gan y sefydliad ymchwil a pholisi, Centre for Cities.

Canfuwyd hefyd gan ei adroddiad Cities Outlook 2019 mai Caerdydd oedd yr unig ddinas yng Nghymru ymhlith y 50 dinas sy’n dioddef fwyaf o fesurau cyni yn y DU.

Dywedodd Andrew Carter, Prif Weithredwr Centre for Cities:  “Y dinasoedd sy’n ysgogi economi Cymru ac er bod y mesurau cyni wedi gwella effeithlonrwydd llywodraeth leol, mae eu maint anhygoel wedi rhoi gwasanaethau cyhoeddus Cymru dan bwysau anferthol.”

Dywedodd y Cynghorydd Chris Weaver, yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad:  “Er y datganwyd bod mesurau cyni wedi dod i ben, nid yw hynny'n wir. Mae cynghorau ar draws Cymru a’r DU yn parhau i gael eu gorfodi i wneud penderfyniadau arbennig o anodd er mwyn meintoli'r cyfrifon.  Mae’r cyngor wedi llwyddo i arbed £136 miliwn yn ystod y pum mlynedd diwethaf ac, wrth gyfuno hyn â’r galw cynyddol am wasanaethau a chostau sy’n codi’n gyson, rydym ni mewn sefyllfa ariannol hynod heriol.

“Rydym yn parhau i foderneiddio’r ffordd yr ydym ni’n gweithio i sicrhau ein bod yn cyflawni ar ein hagenda Uchelgais Prifddinas ac i ddarparu’r gwasanaethau gorau posibl i drigolion ,ac mae’n llwyddo. Mae ein safle fel awdurdod lleol wedi gwella am dair blynedd yn olynol, ac yn ôl ein harolwg Holi Caerdydd diweddaraf, mae 64% o’n trigolion naill ai yn hapus neu’n hapus iawn gyda’n gwasanaethau, sef cynnydd o’i gymharu â 57% y llynedd.

“Ond, rydym ni’n wynebu diffyg £90 miliwn yn y gyllideb yn ystod y tair blynedd nesaf, a gan ein bod yn defnyddio bron deuparth o’n cyllideb dim ond i sicrhau gwasanaethau ysgol a chymdeithasol, bydd y pwysau ar ein cyllid yn golygu na fyddwn yn gallu cynnig rhai gwasanaethau mwyach yn y dyfodol.

Ychwanegodd Prif Weithredwr Centre for Cities, Andrew Carter:  “Mae cynghorau wedi ceisio ymdopi cymaint ag y gallant, ond nid yw’n bosibl parhau i ddisgwyl i lywodraeth leol wneud toriadau.  Mae perygl go iawn y bydd llawer o’n cynghorau mwyaf yn troi’n ddarparwyr gofal cymdeithasol yn unig yn y dyfodol agos."

I lawrlwytho’r adroddiad llawn ewch i:  https://www.centreforcities.org/publication/cities-outlook-2019/