Back
Erlyniad i Happy Dining Ltd am gyfres o droseddau hylendid bwyd

Mae Gurpit Dhillon, cyfarwyddwr y cwmni, a siaradodd ar ran y bwyty sy'n masnachu fel FeD (Happy Dining Ltd) i dalu dros £14,000 yn Llys Ynadon Caerdydd ddoe.

Roedd y ple euog ar ran y cwmni, Happy Dining Ltd, yn ymwneud â 16 o droseddau hylendid bwyd.

Roedd FeD, neu Food Exploration Destination i roi ei enw llawn, yn fwyty bwffe bwyta pob dim ac yn gwerthu amrywiaeth o wahanol fwydydd gan gynnwys bwyd Tsieineaidd, Indiaidd, Eidalaidd, Japaneaidd a Mecsicanaidd.

Yn masnachu o Heol Mary Ann ger Arena Motorpoint, agorodd y busnes ym mis Ionawr 2015 fel bwyty 13,000 troedfedd sgwâr ar ddau lawr, gyda buddsoddiad o £2m yn ôl yr adroddiadau bryd hynny.

Rhwng mis Hydref 2017 a Rhagfyr 2017, ymwelodd y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir â'r bwyty pum gwaith gan ddod o hyd i lond llu o fethiannau hylendid bwyd.

Deallir bod y bwyty wedi gorffen masnachu ac wedi cau ym mis Chwefror 2018.

Rhoddwyd gorchymyn i Happy Dining Ltd dalu cyfanswm o £14,735 am ystod o droseddau, gan gynnwys diffyg hyfforddiant staff, methu â sicrhau bod bwyd wedi'i amddiffyn rhag cael ei halogi a oedd yn debygol o wneud y bwyd yn anaddas i'w fwyta gan bobl, yn ogystal â methu â sicrhau bod safle'r bwyd yn lân ac mewn cyflwr da.

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yng Nghyngor Caerdydd: "Mae Caerdydd yn cynnig amrywiaeth wych o fwytai ledled y ddinas, ond mae'n bwysig bod y busnesau hyn yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth angenrheidiol i fodloni'r safonau gofynnol.

"Yn yr achos hwn, credaf fod y tîm rheoli wedi gorffen masnachu ar ôl dod i wybod bod yr awdurdodau yn ymchwilio i'r bwyty, yn y gobaith na fyddai'r erlyniad yn cyrraedd y llys.

"Eglurodd y Barnwr Rhanbarth yn blaen wrth roi'r ddedfryd fod y busnes yn amlwg wedi methu â chyrraedd disgwyliadau'r diwydiant ac roedd perygl go iawn o halogi rhwng cynnyrch bwyd amrwd a chynnyrch bwyd oedd wedi'i goginio. Nid yw hyn yn dderbyniol a bydd ein swyddogion yn parhau â'u gwaith o ymchwilio i unrhyw fusnes bwyd sy'n peri risg i'w cwsmeriaid."

Cafodd y cwmni ddirwy o £10,500, a gorchmynnwyd iddo dalu costau o £4,065 gyda gordal dioddefwr o £170.