Antur, yr awyr agored a diwylliant fydd yr ysbrydoliaeth ar gyfer garddwyr ifainc brwd yng nghystadleuaeth Whilber Ysgolion RHS Caerdydd.
Mae'r gystadleuaeth flynyddol ar gyfer ysgolion cynradd, meithrinfeydd a grwpiau cymunedol, i ddylunio a phlannu llond whilber wedi ei lansio gan y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol (RHS) mewn partneriaeth â Pharch Bute a bydd thema eleni'n clodfori Blwyddyn Darganfod Croeso Cymru.
Anogir ysgolion a grwpiau trwy Gaerdydd, Caerffili a Bro Morgannwg i gymryd rhan trwy archwilio'r thema a chreu whilber blanhigion i'w harddangos yn Sioe Flodau'r RHS ym Mharc Bute o 12 - 14 Ebrill.
Bydd ymwelwyr y sioe yn pleidleisio dros eu hoff whilber a bydd y tair uchaf yn ennill gwobrau o docynnau rhoddNational Garden Giftgwerth £100, £75 a £50.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cyng Peter Bradbury:"Mae'r gystadleuaeth whilber i ysgolion bob tro yn un o uchafbwyntiau Sioe Flodau'r RHS i mi.Bydd safonau uchel y whilberi bob tro'n creu argraff arna i a pha mor greadigol yw'r ysgolion a grwpiau â'u cynlluniau.
"Mae thema eleni, Blwyddyn Darganfod, yn annog ymgeiswyr i archwilio eu hoff blanhigion, garddio a'r byd o'u cwmpas yn ogystal â hanes, antur a diwylliant.Rwy'n edrych ymlaen i weld sut y byddan nhw'n dehongli'r pynciau hyn yn eu creadigaethau eleni."
Dywedodd Anna Skibniewski-Ball, Rheolwr y Sioe, Sioe Flodau'r RHS Caerdydd:"Mae'r Gystadleuaeth Whilberi Ysgolion yn rhan mor fawr o hunaniaeth Sioe Flodau'r RHS Caerdydd, ac mae gweld dychymyg plant ysgol o bob rhan o Gaerdydd ar waith bob amser yn uchafbwynt i fi!Y thema eleni yw ‘Blwyddyn o Ddarganfod', sy'n agor y drws ar amrywiaeth eang o bosibiliadau cyffrous ac rwy'n siŵr y bydd garddwyr y dyfodol yn dyfeisio syniadau mwy rhyfeddol, pynciol a dyfeisgar nag erioed eleni!"
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 1 Chwefror. Dim ond 60 ymgais a dderbynnir eleni felly
dylech gyflwyno'r ffurflenni cais cyn gynted â phosibl.
Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru, ewch i:
https://rhsforms.formstack.com/forms/car19wheelbarrow
neu cysylltwch â Swyddog Addysg Parc Bute, Meriel Jones ar 02920 788403 am fanylion.