Cynhelir Gwasanaeth Coffa eciwmenaidd y Nadolig yng Nghapel y Wenallt, Amlosgfa Draenen Pen-y-graig ddydd Sul 9 Rhagfyr 2018 am 2pm. Mae croeso i bawb ddod a thalu teyrnged i'w hanwyliaid yn ystod cyfnod y Nadolig.
Bydd y gwasanaeth, a gynhelir gan y Parchedig Lionel Fanthorpe yn cychwyn am 2pm ac yn cynnwys nifer o ddarlleniadau, cerddi a charolau. Bydd Deborah Morgan Lewis yn arwain y canu a daw'r gwasanaeth i ben tua 3pm.
Dywedodd yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am y Gwasanaethau Profedigaeth, y Cyng. Michael: "Mae gwasanaeth coffa'r Nadolig yn amlosgfa Draenen Pen-y-graig yn gyfle i bobl o bob ffydd ddod at ei gilydd a chofio'r rhai sydd yn anffodus wedi marw.Gŵyr pawb ei bod hi'n galed iawn colli anwylyd ar unrhyw adeg, ond gall yr adeg hon yn y flwyddyn fod yn arbennig o heriol."
Bydd casgliad at Sands Caerdydd a Chasnewydd yn ystod y gwasanaeth. Mae'r elusen yn cefnogi unrhyw un sydd wedi profi marwolaeth babi. Maent hefyd yn gweithio gyda gweithwyr iechyd proffesiynol i wella gofal profedigaeth a helpu i hyrwyddo ac ariannu ymchwil i leihau nifer marwolaethau babanod.
Y Nadolig hwn, bydd y Gwasanaethau Profedigaeth yn gwerthu tagiau coffa am gyfraniad o leiaf o £2.00 er cof am anwyliaid, y gellir ei osod ar un o'r coed coffa Nadolig yng Nghwrt Capel y Wenallt.
Caiff y coed eu gosod o ddydd Mercher, 5 Rhagfyr a byddant yn aros yn eu lle tan ddydd Sadwrn, 6 Ionawr 2019, pan gânt eu tynnu yn unol â thraddodiad Nos Ystwyll.
Bydd yr holl roddion a dderbynnir yn mynd at Sands Caerdydd a Chasnewydd. Am ragor o wybodaeth am yr elusen ewch i https://www.cardiff-sands.co.uk/