Back
Caerdydd yn lansio'i Strategaeth Dinas sy'n Dda i Blant

21/11/2018

Mae Strategaeth ‘Da i Blant' Caerdydd wedi ei lansio yn Neuadd y Ddinas gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerdydd. 

Mae hwn yn gam sylweddol tuag at gydnabod Caerdydd yn rhyngwladol fel un o Ddinasoedd Unicef Da i Blant cyntaf y DU. 

Mae'n rhoi hawliau a lleisiau plant a phobl ifanc wrth wraidd polisïau, strategaethau a gwasanaethau Caerdydd, gan eu cynnwys nhw wrth wneud penderfyniadau a mynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n cyfyngu ar eu cyfleoedd  bywyd. 

Mae Caerdydd, ynghyd â phedair dinas a chymuned arall yn y DU, wedi bod yn gweithio gydag Unicef UK er mwyn ennill cydnabyddiaeth ryngwladol fel Dinas Unicef sy'n Dda i Blant. 

Wedi ei drefnu a'i gynnal gan aelodau o Fwrdd Ymgynghorol Plant a Phobl Ifanc Caerdydd, cynhaliwyd y lansiad ar 20 Tachwedd, gan gyd-daro â Diwrnod Plant y Byd. 

Dywedodd Cadeirydd y Bwrdd Ymgynghorol Plant a Phobl Ifanc, Rose Melhuish: "Rwy'n credu y bydd yr ymrwymiad y mae Caerdydd wedi ei wneud i ddod yn Ddinas Unicef sy'n Dda i Blant yn newid Caerdydd o'r bôn i'r brig ac y bydd yn rhoi mwy o gyfleoedd i bobl ifanc. Bydd yn rhoi'r cymorth sydd ei angen arnynt a'r addysg y maen nhw'n dymuno ei gael. Er enghraifft, mae plethu ymagwedd hawliau'r plentyn i holl wasanaethau'r ddinas yn rhywbeth y mae rhaglen y Dinasoedd Da i Blant yn ceisio'i gwneud, a bydd hynny yn rhoi mwy o gyfleoedd i bobl ifanc." 

GWYLIWCH: Cadeirydd Bwrdd Ymgynghorol Plant a Phobl Ifanc, Rose Melhuish a'r Aelod Bwrdd, Naz Ismail yn disgrifio'r newidiadau y gellid eu gweld yng Nghaerdydd ar ôl i'r ddinas ddod yn un o Ddinasoedd sy'n Dda i Blant Unicef. 

Daeth bron 100 o bobl i ymuno â'r bobl ifanc ac aelodau Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerdydd i nodi lansiad y strategaeth, gan gynnwys Anna Kettley, Cyfarwyddwr Rhaglenni Unicef UK, a siaradodd yn y digwyddiad. 

Roedd siaradwyr eraill yn cynnwys y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd, a Maria Battle, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - sy'n Gadeirydd ac yn Is-gadeirydd BGC Caerdydd fel ei gilydd - yn ogystal â'r Cyng. Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd y Cyngor a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, a Nick Batchelar, Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes y Cyngor. 

Dywedodd y Cyng. Huw Thomas: "Ein huchelgais yw i Gaerdydd fod y gyntaf yng Nghymru i gael ei chydnabod fel Dinas Unicef sy'n Dda i Blant, ac rwy'n falch fod ein partneriaid ar draws y gwasanaethau cyhoeddus yn rhannu'r uchelgais yma. 

"Mae tua 130,000 o boblogaeth y ddinas dan 24 oed, ac mae 67,000 ohonyn nhw dan 15 oed. Os ydym am i bobl ifanc fod yn ddinasyddion uchelgeisiol, llwyddiannus a chyfrifol yn y ddinas hon, yna mae'r cyfrifoldeb hwnnw ar ein hysgwyddau ni. 

"Mae'r ffaith fod Caerdydd yn ddinas o bobl ifanc yn gyfle anferth, gyda photensial creadigol miloedd o feddyliau ifanc a fydd cyn hir yn ddinasyddion gweithredol yng Nghaerdydd. Yn ddeallusol chwilfrydig, yn greadigol, yn agored eu meddwl." 

Ychwanegodd Maria Battle: "Fel rhan o'r Strategaeth sy'n Dda i Blant, mae Bwrdd Ieuenctid Iechyd Caerdydd a Bro Morgannwg hefyd yn cael ei lansio, a fydd yn rhoi llwyfan swyddogol i bobl ifanc ledled Caerdydd a Bro Morgannwg, i leisio eu barn ac iddi gael ei chlywed a'i hystyried o ddifrif.    Rydym hefyd yn lansio ein siartr hawliau plant heddiw.  Mae'n nodi ein haddewidion i'r plant a phobl ifanc sydd yn ein gofal, ar sail yr hyn maen nhw'n dweud sy'n bwysig iddyn nhw, a'r hyn y maen nhw eisiau gan ein gwasanaethau.  Rydym yn rhagweld y bydd y bwrdd ieuenctid yn chwarae rhan weithgar mewn gwasanaethau iechyd yng Nghaerdydd nawr a thrwy genedlaethau i ddod." 

Gan ddisgrifio'r gwaith sy'n cael ei gyflawni i wneud Caerdydd yn Ddinas sy'n Dda i Blant, dwedodd y Cyng Sarah Merry: Mae'n rhaid i ymrwymiad Caerdydd i ddod yn Ddinas Unicef sy'n Dda i Blant gael ei lywio gan blant a phobl ifanc. Ers dechrau ein taith, maent wedi gweithio gyda ni fel y gallwn ddarganfod yr hyn maen nhw'n ei feddwl y dylen ni ei flaenoriaethu. Ar sail yr hyn y maen nhw wedi ei ddweud wrthym, byddwn yn blaenoriaethu tri maes, sef addysg; teulu a pherthyn; ac iechyd. 

"Rydym eisoes yn gweld cynnydd ym mhob un o'r tri maes yma. Mae dros 50 o'n hysgolion wedi dechrau eu taith tuag at ddod yn Ysgol Unicef UK sy'n Parchu Hawliau. Ym mis Mai eleni, gwnaethom gynnal ein digwyddiad di-geir mwyaf erioed. Roedd miloedd o deuluoedd yn gallu beicio yng nghanol y ddinas a mwynhau ystod o weithgareddau teuluol am ddim. 

"Mae rhaglen beilot Chwarae yn y Stryd wedi dechrau, lle gall preswylwyr wneud cais i gau eu ffyrdd yn fisol, i alluogi plant i chwarae'n ddiogel ar eu strydoedd. Mae Caerdydd wedi mabwysiadu ymagwedd ‘Ffocws ar y Teulu', gan sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn gydlynol a bod teuluoedd a phlant yn cael y cymorth cywir, yn y ffordd iawn, ar yr adeg gywir yn ystod 1000 diwrnod cyntaf bywyd plentyn. 

"Rydym ar ddechrau ein taith i fod yn Ddinas Unicef sy'n dda i Blant, gyda llawer mwy i'w wneud. Trwy'r gwaith hwn gallwn sicrhau fod lleisiau ein plant a'n pobl ifanc yn cael eu clywed." 

Dywedodd Cyfarwyddwr Rhaglenni Unicef UK, Anna Kettley: "Rwy'n falch bod Caerdydd wedi dewis Diwrnod Plant y Byd i lansio'i Strategaeth Caerdydd sy'n Dda i Blant, gan ddangos sut y bydd yn gweithio tuag at gydnabyddiaeth ryngwladol fel Dinas Unicef sy'n Dda i Blant. 

"Mae Diwrnod Plant y Byd yn gyfle blynyddol i ailymrwymo i ddiogelu hawliau pob plentyn, gan gynnwys pob plentyn yn y DU. Mae'n addas felly ein bod wedi clywed am y modd y bydd Caerdydd yn rhoi bywyd i'r hawliau hynny trwy eu gwreiddio mewn gwasanaethau, rhaglenni a pholisïau lleol.  

"Rwy'n edrych ymlaen i weld y strategaeth yn cael ei gweithredu dros y blynyddoedd nesaf, gan drawsnewid Caerdydd yn ddinas lle gall pob plentyn, gan gynnwys y rhai mwyaf agored i niwed, deimlo'n ddiogel, bod ei farn yn cael ei hystyried, ei fod yn cael gofal da a'i fod yn gallu ffynnu."