Mae eiddo sydd wedi bod yn achosi niwsans yn Grangetown wedi'i gau am greu problemau yn gyson yn y gymuned leol.
Bu Cyngor Caerdydd aHeddlu De Cymru yn gweithio ar y cyd i lwyddo i sicrhau gorchymyn cau ar gyfer y safle ar Stryd Thomas, sydd wedi bod yn fan â nifer uchel o achosion ymddygiad gwrthgymdeithasol cysylltiedig â chyffuriau a phuteindra.
Yn dilyn llu o adroddiadau am weithgaredd amheus yn y cyfeiriad hwn, canfu'r ymchwiliad a gynhaliwyd gan dîm Ymddygiad Gwrthgymdeithasol y cyngor ddigon o dystiolaeth i sicrhau'r gorchymyn.
Rhoddwyd Hysbysiad Cau y mis diwethaf cyn i orchymyn cau am dri mis gael ei gadarnhau gan Lys Ynadon Caerdydd ddydd Mercher, 7 Tachwedd.
Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau:"Rwy'n falch iawn ein bod wedi llwyddo i gymryd camau cadarnhaol ar y mater hwn. Gorchymyn cau yw ein cam gweithredu olaf ond bydd yn rhoi terfyn ar y gweithgarwch yn yr eiddo hwn sydd wedi effeithio ar ansawdd bywyd trigolion sy'n byw mewn aelwydydd gyfagos.
"Mae'r gorchymyn hefyd yn anfon neges glir na fydd neb yn caniatáu ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn unrhyw eiddo sy'n perthyn i'r Cyngor a byddwn yn cymryd camau i wneud popeth y gallwn ni i sicrhau bod ein cymunedau yn lle diogel i fyw ynddo."
Dywedodd y Rhingyll Sara Robinson, o Orsaf Heddlu Bae Caerdydd:"Effeithiodd ymddygiad y tenant a'i gysylltiadau yn fawr iawn ar fywydau pobl yn Stryd Thomas, roedd rhai yn teimlo dan fygythiad, mewn ofn ac wedi colli gobaith.
"Rydym ni'n gobeithio y bydd yr hysbysiad cau hwn yn helpu trigolion i deimlo'n fwy diogel yn eu cymuned a gwella ansawdd eu bywydau.
"Hoffem hefyd ddiolch i'r bobl hynny sy'n byw yn Stryd Thomas am eu cefnogaeth a'u dealltwriaeth wrth i ni weithredu'r camau hyn."
Rhowch wybod am ddigwyddiadau ymddygiad gwrthgymdeithasol, unrhyw wybodaeth yn ymwneud â chyffuriau anghyfreithlon, i Heddlu De Cymru ar 101 neu i Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555111.