Back
Pwyllgorau'n Craffu ar Gynigion Rheoli Cŵn

Bydd pwyllgorau economi a diwylliant a'r amgylchedd Caerdydd yn craffu ar gynigion ac ymarfer ymgynghori diweddar y Cyngor ar reoli cŵn mewn cyfarfod ddydd Llun 19 Tachwedd 2018.
 

Mae rheolaethau ar gŵn mewn mannau cyhoeddus wedi ennyn cryn ddiddordeb cyhoeddus yn y misoedd diwethaf. Mae llawer o breswylwyr pryderus wedi cysylltu â'r cynghorwyr ac felly cytunwyd y bydd cyfarfod craffu yn cael ei gynnal i adolygu'r ymgynghoriad cyhoeddus diweddar; casglu adborth gan randdeiliaid a'r cyhoedd; a thrafod amrywiaeth o opsiynau posibl i fynd i'r afael â phryderon ynghylch rheoli cŵn.

 

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Amgylcheddol, y Cynghorydd Ramesh Patel:"Mae'n amlwg bod trigolion lleol yn pryderu am y cynigion a nodwyd yn yr ymgynghoriad diweddar.  Yn y cyfarfod, ein cyfrifoldeb ni fydd adolygu'r ymarfer ymgynghori, derbyn a gwrando ar adborth gan y cyhoedd a rhanddeiliaid a gweithio gyda'r Cabinet i helpu i ganfod ffordd synhwyrol ymlaen ar gyfer delio â rheoli cŵn ledled Caerdydd".

 

Dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Craffu'r Economi a Diwylliant, y Cynghorydd Nigel Howells:"Fel cynghorydd a ffan chwaraeon rwy'n deall yn iawn mor bwysig yw caeau chwaraeon glân a diogel. Ar yr un pryd, rhaid inni gydnabod eu bod hefyd yn cael eu defnyddio gan lawer o drigolion eraill ac ymwelwyr sy'n gwerthfawrogi ein mannau gwyrdd gwych ar gyfer y manteision hamdden ehangach y maent yn eu cynnig. Wrth gynnal y cyfarfod hwn, hoffwn ofyn i unigolion a grwpiau sy'n defnyddio'r cyfleusterau hyn i rannu eu safbwyntiau â ni er mwyn i ni allu cynnwys eich barn wrth ddatblygu polisïau ar gyfer rheoli cŵn mewn mannau cyhoeddus yn y dyfodol".

 

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal ar ddydd Llun 19 Tachwedd 2018 am 5:30pm.  Lleoliad y cyfarfod yw ystafell Bwyllgora 4, Neuadd y Sir, Bae Caerdydd.  Gan mai prin yw'r lle yn Ystafell Bwyllgora 4, bydd ail ystafell gyfarfod gyda sgrin yn dangos trafodion ar gael yn Neuadd y sir. Bydd y cyfarfod yn cael ei ddarlledu'n fyw ar y we i'r cyhoedd.  Bydd agenda a phapurau llawn ar gyfer y cyfarfod yn cael eu cyhoeddi ar wefan Cyngor Caerdydd ar ddydd Mawrth 13 Tachwedd 2018.

 

Gwahoddir rhanddeiliaid ac aelodau o'r cyhoedd i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig ac i wneud cais i siarad yn y cyfarfod. I gyflwyno'r naill neu'r llall o'r rhain, cysylltwch â thîm craffu Cyngor Caerdydd cyn hanner nos ddydd Iau 15 Tachwedd 2018 gan ddefnyddio'r canlynol:

 

 

Cofiwch, os byddwn yn cael nifer fawr o geisiadau i siarad, mae'n bosibl na fydd modd darparu ar gyfer pob cyflwyniad.  Byddwn yn hysbysu pawb sy'n gallu siarad yn y cyfarfod ddydd Gwener 16 Tachwedd 2018.