Back
Caerdydd yn cefnogi Diwrnod Rhuban Gwyn: 25 Tachwedd 2018

Bydd cyfres o ddigwyddiadau trwy brifddinas Cymru i gefnogi Diwrnod Rhuban Gwyn ar 25 Tachwedd, sef Diwrnod Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig dros ddiddymu trais yn erbyn menywod a merched.

Mae gwylnos yng ngolau cannwyll, gorymdeithiau, stondinau gwybodaeth, sioe ffasiwn a gwasanaethau arbennig pob ffydd ymysg y digwyddiadau a fydd yn digwydd o fis Tachwedd tan 10 Rhagfyr, sef Diwrnod Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig.Mae gweithgareddau eraill yn cynnwys plannu blodau gwynion yn y gwely blodau’r tu allan i Gastell Caerdydd i gynrychioli’r rhuban gwyn a chynnal gweithdai â nifer o grwpiau sgowtiaid Caerdydd a’r Fro.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles, y Cynghorydd Susan Elsmore:“Nod Caerdydd yw codi ymwybyddiaeth am drais yn erbyn benywod, ond hefyd, ac yn bwysig, herio agwedd a denu dynion i drafod y materion hyn.

 “Mae hanes llwyddiannus hir yn y ddinas o ymateb i drais domestig, ac yn ein pumed flwyddyn o gefnogi’r Rhuban Gwyn, rydym yn dal i hyrwyddo’r ymgyrch hwn, annog pobl i wisgo rhuban gwyn ac addo peidio fyth â chyflawni, cymeradwyo nac aros yn dawel ynghylch trais yn erbyn benywod ar unrhyw ffurf.”

 “Mae dynion a bechgyn yn rhan allweddol o herio'r agweddau a'r ystrydebau sy'n galluogi trais yn erbyn menywod a merched, a thrais yn gyffredinol, i ffynnu. Mae gennym Gynllun Rhuban Gwyn uchelgeisiol ac rydym yn ymrwymo i gyflawni’r camau gweithredu sydd ynddo. Gyda’n gilydd, mae gennym gyfle gwirioneddol i wneud Caerdydd yn lle diogel i bawb.”

Ynghynt eleni, bu i Gyngor Caerdydd, mewn partneriaeth â Chyngor Bro Morgannwg, gael Dyfarniad Rhuban Gwyn Rhanbarthol am ei ymrwymiad i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod.

Cyflwynodd Chris Green OBE, sylfaenydd ymgyrch Rhuban Gwyn DU, y dyfarniad ac arddangos gwaith sylweddol staff ac asiantaethau partner i gael gwared ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol trwy’r rhanbarth.

Y mis diwethaf, cynhaliodd y ddinas ei phumed daith 'Cerdded Milltir yn ei Hesgidiau Hi’ a daeth dros 100 o ddynion i gerdded milltir mewn esgidiau menywod i ddangos eu cefnogaeth dros Ymgyrch y Rhuban Gwyn.Wedi’r daith, cynhaliwyd digwyddiad prysur ar gyfer Cenhadon y Rhuban Gwyn, yn canolbwyntio ar ddatblygu elfennau cerddorol a chwaraeon Cynllun Gweithredu’r Rhuban Gwyn.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth a Chennad Rhuban Gwyn Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Caro Wild:“Ymgyrch y Rhuban Gwyn yw mudiad mwyaf y byd dan arweiniad dynion sy'n gweithredu dros ddiweddu trais dynion yn erbyn menywod, y mae ei gefnogwyr yn gwisgo rhubanau gwyn.

 “Fy rôl i fel cennad y Rhuban Gwyn yw annog dynion i drafod a herio’r diwylliant sy’n caniatáu cymaint o drais, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn erbyn menywod.Y mis diwethaf, des i a dros 100 o ddynion at ein gilydd i ‘Gerdded Milltir yn ei Hesgidiau Hi’ i ddangos ein cefnogaeth.Rydym am i ragor o ddynion addo peidio fyth â chyflawni, cymeradwyo nac aros yn dawel ynghylch trais yn erbyn menywod.Ymunwch â ni i ddathlu diwrnod y Rhuban Gwyn a’r 12 diwrnod o weithredu a fydd yn dilyn.”

Bob blwyddyn yn y DU, mae mwy na miliwn o fenywod yn dioddef cam-drin domestig a dros 360,000 yn dioddef ymosodiad rhywiol.Er bod cam-drin menywod yn anghymesur o uchel, gall trais a chamdriniaeth effeithio ar bawb.

Mae ystadegau cam-drin domestig yn dangos bod 70% o’r digwyddiadau’n arwain at anaf a bod cyfartaledd o ddwy fenyw bob wythnos yng Nghymru a Lloegr yn cael eu lladd gan eu partner bob wythnos.

Os hoffech chi ddysgu mwy am Ymgyrch y Rhuban Gwyn, ewch i www.whiteribboncampaign.org.uk.

Ymunwch â’r sgwrs #RhubanGwynCaerdyddarFro

Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod yn dioddef trais yn erbyn menywod, trais domestig neu drais rhywiol, gallwch geisio cymorth a chefnogaeth gan linell gymorth Byw Heb Ofn:0808 10 800 (llinell gymorth gyfrinachol 24 awr am ddim)https://bywhebofn.llyw.cymru/

Digwyddiadau Cyhoeddus oni nodir fel arall

Hydref

Gwaith parhaus â grwpiau sgowtiaid Caerdydd a’r Fro

Tachwedd

12: Stondin Wybodaeth, Ysbyty’r Brifysgol Llandochau 9:30-4pm

13: Stondin Wybodaeth, Ysbyty Prifysgol Cymru 9:30-4pm

20: Plannu Blodau Rhuban Gwyn – Castell Caerdydd

20: Joyce Watson AC a Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched Cymru – Digwyddiad Traws Blaid yn y Senedd (gwahoddiad yn unig)

20: ‘Nid yn Fy Enw i’, y Senedd, Gwylnos Bae Caerdydd yng Ngolau Cannwyll– Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched Cymru, Bae Caerdydd 6:30pm.

20: Stondin Wybodaeth, Ysbyty Prifysgol Cymru 9:30-4pm

22: Stondin Wybodaeth, Ymddiriedolaeth Ganser y Felindre 9 – hanner dydd

22: Stondin Wybodaeth, Gwasanaeth Gwaed Cymru, Llantrisant 1-4pm

23: Ysbyty’r Brifysgol Llandochau 9:30-4pm

24: Sioe Ffasiwn – Eglwys Elim Gogledd Caerdydd, cychwyn am 7pm, yn codi ymwybyddiaeth am Ruban Gwyn y DU a chodi arian am y Pantri Agored.

25: Gwasanaeth Diwrnod y Rhuban Gwyn, Eglwys y Methodistiaid Radur 10:30am

28: Digwyddiad Cynnau Cannwyll, taith gerdded am 10.30am o swyddfeydd Llamau, Heol y Gadeirlan ac yna gwasanaeth aml-ffydd yng Nghadeirlan Llandaf.

Gwaith parhaus â grwpiau sgowtiaid Caerdydd a’r Fro 

Rhagfyr

Arddangosiad Coed Nadolig – Eglwys y Bedyddwyr Bethania, Rhiwbeina

Am ragor o wybodaeth am y digwyddiadau a restrir uchod, cysylltwch â Nicola Jones, Cydlynydd Trais Domestig: Nicola.jones2@caerdydd.gov.uk