Mae'r Nadolig yn dechrau yn swyddogol yng Nghaerdydd ddydd Iau 15 Tachwedd pan fo calendr gwerth chweil o hwyl a sbri yn dod i'n strydoedd gydaNesáu at y Nadolig.
Bydd yr ŵyl stryd unigryw hon yn trawsnewid canol y ddinas yn lu o gymeriadau Nadoligaidd, goleuadau, cerddoriaeth, goleuadau ac adloniant.Ymunwch â'r miri a gwylio perfformiadau gwir hudolus mewn amryw leoliadau trwy ganol y ddinas.Gyda'r nos hefyd, bydd siopa hwyr yn cychwyn a Gŵyl y Gaeaf Caerdydd yn agor gyda Llawr Sglefrio Admiral ar Lawnt Neuadd y Ddinas tan ddydd Sul 6 Ionawr 2018.
Dyma rai o'r uchafbwyntiau:
Ben a Holly o Ben and Holly's Magic Kingdom y tu allan i'r Hen Lyfrgell, dros y ffordd i Neuadd Dewis Sant ar brydiau.
Yr Ardal Nadoligaidd a'r Marchnadoedd Nadolig - Yr Aes
Ogof Siôn Corn - Heol y Frenhines
Gŵyl y Gaeaf Caerdydd yn agor â Llawr Sglefrio Admiral - Lawnt Neuadd y Ddinas
Siopa hwyr a chynigion arbennig yn y siopau.
Hefyd, bydd theatr stryd yn cynnwys perfformiadau ganThe Dream Engine, Juggling InfernoaBruce Airhead.
Bydd Bws Caerdydd yn cynnig tocyn teulu gyda gostyngiad o 3pm (dydd Iau 15 Tachwedd yn unig). Anogir ymwelwyr i adael eu ceir gartref a theithio i ganol y ddinas am £5.30pm ym Mharth Caerdydd a Phenarth neu £7.50 ym mharth Caerdydd a'r Barri (mae telrau ac amodau yn berthnasol) ewch i cardiffbus.com/family-travel)
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury:"Mae Caerdydd yn cyhoeddi cychwyn yr Ŵyl â Nesáu at y Nadolig, digwyddiad y mae'n werth ei weld i'r teulu oll.Mae'r digwyddiad hoff hwn yn ffefryn ar galendr y Nadolig ac mae'n nodi cychwyn y cyfnod cyn y Nadolig ym mhrifddinas Cymru.
"Mae Caerdydd yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn ddinas wych i ymweld â hi dros y Nadolig, i breswylwyr ac ymwelwyr.Mae siopa o'r safon orau, Marchnadoedd Nadolig, adloniant ac wrth gwrs Gŵyl y Gaeaf i gyd yn creu awyrgylch Nadoligaidd na fyddech am ei fethu."
Marchnad Nadolig
O 15 Tachwedd - 23 Rhagfyr, bydd yr Ardal y Nadoligaidd yn cyrraedd Heol Sant Ioan, Working Street, Yr Aes, Heol y Drindod a Hills Street yn dod yn gartref i dros 80 stondin bren wedi eu haddurno'n hyfryd.Bydd dros 200 o artistiaid, crefftwyr a chynhyrchwyr bwyd ac alcohol talentog o Gymru gyfan yn gwerthu amrywiaeth o anrhegion megis llechen Gymreig, canhwyllau crefft, caws blasus, gwin ffrwythau a gwirodydd, fodca a gin â blas arbennig a gemwaith enamel, crochenwaith a chelf wreiddiol.Cewch rywbeth i bawb ar eich rhestr anrhegion Nadolig a mwynhau gwydraid o win poeth wrth i chi ymlwybro.
Yn newydd yn 2018, bydd canolfan siopa Capitol hefyd yn cynnal ystod o stondinau rhoddion a gweithgareddau.Caerdydd Greadigol fydd yn cynnal hwn a chaiff siopwyr fwynhau ystod o stondinau wrth ddylunio a gwneud eu peli addurn eu hunain, paentio crochenwaith a rhoddion eraill, hyn oll i gyfeiliant côr Nadoligaidd.Am fwy o wybodaeth ewch ihttps://www.facebook.com/cardiffcreativeshop
Gŵyl y Gaeaf Caerdydd
Mae gan y llawr iâ enw eang fel un o loriau sglefrio gorau Ewrop a bydd yn dychwelyd eleni â llawer mwy nag o'r blaen dan nenfwd serog a fydd yn golygu y gallwch sglefrio waeth sut mae'r tywydd.Mwynhewch olygfeydd ar y ddinas a'r tu hwnt o'r Tŵr Mawr, atyniad newydd ar gyfer 2018, a aiff â'ch gwynt wrth syrthio 90m o'r wybren; cewch eich gwala yn Sur La Piste, bar deulawr â lle i 400 o bobl a fydd yn mwynhau hwyl yr ŵyl gyda seddau fel gondolas.Caiff ymwelwyr hefyd fwynhau'r Caffi Alpaidd a'r Bier Keller clyd, atmosfferig.
Mae gan Gaerdydd Achrediad Mynediad, sy'n galluogi mwy o ddefnyddwyr cadair olwyn nag erioed i ddefnyddio'r llawr sglefrio.
Nadolig yn y Castell
Bydd prif atyniad ymwelwyr Caerdydd yn cynnig hwyl yr ŵyl trwy gydol mis Rhagfyr.Caiff ymwelwyr ddisgwyl gweld Siôn Corn, amgylchoedd anhygoel, addurniadau arbennig, gwleddoedd godidog ac adloniant ardderchog.Ewch i weld y goeden Nadolig, sydd wedi ei noddi'n garedig gan Sayers Amusements ac a fydd yn hawlio ei lle y tu allan i gatiau'r castell wrth geirw hardd yn rhoi tipyn o dincl i'r tirnod eiconig.
Tocynnau a gwybodaeth bellach:https://www.castellcaerdydd.com
Mae'n werth mynd iFarchnad Ganolog Caerdydd,lle gwych i gael blas ar y ddinas, i gyd dan un to.Mae'r adeilad mawreddog o Oes Fictoria'n cynnig profiad siopa unigryw yng nghalon dinas fodern, brysur a chewch yno lu o gynnyrch o fara a chacennau cri ffres, blodau a recordiau, losin a deunydd adeiladu i nwyddau anifeiliaid anwes a physgod ffres.Mae Marchnad Caerdydd yn masnachu ar rhyw ffurf neu'i gilydd er cychwyn y ddeunawfed ganrif.Mae yn yr un safle ers dros ganrif ac er na chewch chi dda byw ynghlwm y tu allan i'w drysau bellach, mae rhai o'r hen nodweddion yn dal i fod yno heddiw.
Ogof Siôn Corn
Ar 15 Tachwedd, rydym yn croesawu Siôn Corn yn ei stondin bren hyfryd ar Heol y Frenhines.Dewch i glywed Rwdolff yn canu a dymuno Nadolig Llawen i Siôn a'i gorachod a fydd yn dod â hud a lledrith i Nadolig unrhyw blentyn.
Theatr
Pan fyddwch chi wedi cael llond bol ar yr holl siopa, beth am gymryd hoe i fwynhau un o'n sioeau tymhorol.Eleni, byddBeautyand the Beastyn yTheatr Newyddhanesyddol.Bydd Lisa Riley, Gareth Thomas, Ben Richards, Mike Doyle, Danny Bayne, Adam C Booth a Stephanie Webber yn dod â phantomeim gorau Cymru'n fyw gyda digon o gomedi a cherddoriaeth, dawnsfeydd trawiadol, gwisgoedd gwych a dodrefn llwyfan arbennig.Disgwyliwch lond trol o chwerthin ac adloniant o safon i'r teulu oll pan fyddwn yn ymuno â Belle ar ei hantur hudolus.A welith hi'n ddyfnach na'r bwystfil a syrthio mewn cariad â'i charcharor cyn i betal olaf y rhosyn hud syrthio?
ByddNeuadd Dewi Santyn arddangos pedair Bale'r Nadolig rhwng 19 a 31 Rhagfyr.
Bydd y tymor trawiadol hwn gan Fale Gwlad Rwsia a Cherddorfa Siberia yn cychwyn â'rForwyn Eira(19 - 20 Rhagfyr). Wedi ei chadw rhag y byd tu allan gan y Gŵr Iâ, mae'r Forwyn Eira yn chwarae'n diniwed braf ymysg y plu eira sionc yng Ngwlad Hud yr Iâ.Yna byddwch barod am eich hebrwng i le dirgel lle nad yw unrhyw beth fel yr ymddengys ynY Torrwr Cnau(21-24 Rhagfyr).Gwyliwch yn syn pan ddaw teganau'n fyw a Brenin y Llygod twyllodrus yn brwydro'r Tywysog Torrwr Cnau hardd.
Yna daw'r bale mwyaf rhamantus erioedLlyn yr Alarch(27-31 Rhagfyr) i gyfeiliant bythgofiadwy Tchaikovsky.O fawredd ystafell ddawns y palas i'r llynnoedd dan olau'r lleuad, mae popeth yn yr hanes rhamant drasig a deniadol hwn.
Daw'r gyfres i uchafbwynt gyda hoff stori'r byd am y truan yn trechu:Ulwela
(30 - 31 Rhagfyr). Mae'r sioe hon yn gyfuniad o gerddoriaeth fywiogProkofiev, coreograffeg sionc a gwisgoedd lliwgar.
ByddCanolfan Mileniwm Cymru'ncroesawuMatilda The Musical(4 Rhagfyr - 12 Ionawr).
Mae 7 miliwn o bobl eisoes wedi ei gweld ac mae hi wedi ennill dros 85 gwobr ryngwladol, dyma sioe gerdd benigamp y Royal Shakespeare Company, a ysbrydolwyd gan y llyfr gan yr awdur heb ei ail o Gaerdydd, Roald Dahl.Hanes geneth hynod ydyMatilda The Musical,sydd, diolch i'w dychymyg byw a'i meddwl miniog, yn benderfynol o newid ei ffawd, hyd yn oed os oes rhaid bod ychydig yn ddireidus.
I gael rhagor o wybodaeth ewch iwww.croesocaerdydd.com.
@CroesoCaerdydd