Mae rhaglen
cyfoethogi gwyliau'r ysgol (SHEP) Caerdydd a enillodd lawer o wobrau, Food and Fun (Bwyd a Hwyl) wedi ennill
ei nawfed wobr yn y Foodservice Catey
Awards 2018 enwog.
Wedi ennill y wobr gyntaf yn y categori Cyfrifoldeb Corfforaethol a Chymdeithasol, y fenter amlasiantaeth sydd â’r nod o leihau’r unigedd â’r newyn a brofir gan deuluoedd yn ystod gwyliau’r ysgol, disgrifiwyd fel “Menter hynod o wych sy’n achos mor werth-chweil ac yn enwedig agwedd y gymuned gymdeithasol, ynghyd â’r gweithgareddau a’r mwynhad i blant.” (Mark Philpott, perchennog a rheolwr-gyfarwyddwr, Vacherin)
Roedd sylwadau'r beirniaid eraill yn cynnwys:“Roedd ymagwedd Caerdydd sydd â sawl agwedd ac yn
ystyriol at fynd i’r afael â newyn yn ystod y gwyliau yn creu argraff arbennig
o dda oherwydd ei huchelgais ar gyfer effaith genedlaethol a gosod cynllun
penodedig i eraill.”(Hayley Miller, pennaeth marchnata, CH&Co)
“Dangosodd y cystadleuydd hwn ymagwedd
gyfannol at gymunedau a gwerth cymdeithasol gwell – darn o waith rhagorol.”(Mike
Hanson, pennaeth busnes cynaliadwy, Baxterstorey)
Mae Food and
Fun yn bartneriaeth ar y cyd rhwng Cyngor Caerdydd. Bwyd Caerdydd,
Chwaraeon Caerdydd, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd
a’r Fro.Mae’n darparu elfen o addysg,
gweithgareddau chwaraeon ac ansawdd, prydau iachus, wedi'u darparu mewn
amgylchedd diogel sy’n meithrin ac yn hwyliog yn ystod gwyliau’r ysgol.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd
Sarah Merry:“Rwyf wrth fy modd bod Food and Fun wedi cipio gwobr arall,
sy’n uno ymhellach y gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud a’r effaith rhagorol y
mae'r rhaglen yn ei chael ar blant Caerdydd.
“Gall
adegau hir i ffwrdd o’r ysgol weithiau arwain at blant yn dibynnu ar fwyd nad
yw’n iachus neu’n mynd heb brydau bwyd rheolaidd.Mae ein rhaglen SHEP yn sicrhau y gall y rhai sydd
ei angen fwyaf gael mynediad at brydau bwyd iachus, sgiliau maethol, chwaraeon
a gweithgareddau addysgol eraill, wrth hyrwyddo cynhwysiad cymdeithasol.
“Mae’r elfennau hyn yn hanfodol i iechyd a
lles cyffredinol plant yn ystod gwyliau’r ysgol yn ogystal ag yn ystod y tymor
ac mae'r project yn enghraifft o sut y gall cynghorau gefnogi cymunedau, wrth
annog agweddau cadarnhaol tuag at iechyd a deiet.”