Back
Cenedlaethau gwahanol iawn yn cydweithio i nodi Canmlwyddiant y Cadoediad

 

Mae disgyblion o Ysgol Gynradd Draenen Pen-y-graig wedi gweithio gyda phobl hŷn lleol i greu cyfansoddiad corawl i nodi canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.

 

Mae geiriau ‘Cantata'r Cadoediad' wedi eu sgwennu gan blant ysgol a'u gosod i gerddoriaeth gan gyfansoddwyr o'r cyfnod. Derbyniodd yr ysgol gymorth gan aelodau o elusen y Golden Oldies, sef Goldies Cymru, fel rhan o raglen pontio'r cenedlaethau'r elusen ac mae'r cydweithio eisoes wedi ei gydnabod fel y Project Addysg Gorau yng Ngwobrau'r Loteri Genedlaethol 2018. Ar ben hynny, mae Cantata'r cadoediad wedi ei enwebu ar gyfer Gwobr Heritage Angel yn y categori Cyfraniad Gorau gan Bobl Ifanc i Broject Treftadaeth. 

 

Mae Ysgol Gynradd Draenen Pen-y-graig nawr yn paratoi ar gyfer cyfres o berfformiadau cyhoeddus o ‘Cantata'r Cadoediad' gan ddechrau gyda Gŵyl y Cofio yng Nghymru yn Neuadd Dewi Sant ar 3 Tachwedd.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Carwn longyfarch disgyblion Ysgol Gynradd Draenen Pen-y-graig, y staff a Goldies Cymru ar y cydweithio campus hwn. Rwy'n credu ei bod yn ffantastig fod disgyblion yn cael cyfle i weithio ar raglen unigryw sy'n pontio'r cenedlaethau fel hyn a fydd yn bendant o gymorth i'w dealltwriaeth o'r aberth hynod a wnaed gan gymaint o bobl yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Dwi methu aros i gael gweld canlyniad eu holl waith caled fis Tachwedd."

 

Bu'r disgyblion yn ymchwilio i'r Rhyfel Byd Cyntaf yn Archifau Morgannwg gan nodi'r hyn yr oedden nhw'n ei deimlo oedd y prif themâu. Fe wnaethant wedyn baru'r rhain gydag alawon o'r cyfnod.  Mae'r pynciau a ddewiswyd yn amrywio o'r rhan a chwaraewyd gan ferched i'r berthynas rhwng y rhai a aeth i ryfel a'r rhai a adawyd gartref.

 

Dywedodd Pennaeth Ysgol Gynradd Draenen Pen-y-graig, Paul Tucker: "Mae disgyblion a staff wedi gwneud jobyn ffantastig law yn llaw â Goldies Cymru. Rwyf mor falch o'u cyflawniad."

 

Collodd Grenville Jones, Sefydlydd Ymddiriedolaeth Elusennol y Golden Oldies a Goldies Cymru yn Ne Cymru ei dad-cu ym mrwydr y Somme. Roedd yr hanes personol hwn yn rhan o'r symbyliad dros ddatblygu rhaglen addysg pontio'r cenedlaethau am y Rhyfel Byd Cyntaf. Ychwanegodd: "Carwn ddweud diolch mawr iawn i bawb a bleidleisiodd drosom ni. Roeddem wrth ein bodd yn cael ein coroni fel y project Addysg gorau yn y DU yng Ngwobrau'r Loteri Genedlaethol. Mae hwn yn broject rhyfeddol ac mae'n arbennig iawn oherwydd gellir ei addasu i ysgolion sy'n dymuno creu eu cynyrchiadau lleol eu hunain. Rydym wedi profi ar sawl achlysur y llawenydd a ddaw wrth i blant a phobl hŷn gyfarfod ar brojectau ysgol - yn enwedig os fyddan nhw'n canu ar y cyd."

 

Cynhelir cyfres o ddigwyddiadau ym mhob cwr o'r wlad y mis Tachwedd hwn i gofio canmlwyddiant cadoediad y rhyfel Byd Cyntaf.