Back
Pobl ddigartref y ddinas yn chwarae pêl-droed ym Mecsico

Mae dau breswylydd hostel y digartref, Tŷ Tresilian, wedi eu dewis i gynrychioli Cymru yng Nghwpan y Byd i'r Digartref ym Mecsico yn hwyrach eleni.

Mae Kathryn Lewis a Tianna Tenetta, sy'n chwarae i dîm pêl-droed yr hostel, wedi eu dewis i chwarae i'r tîm cyntaf ac fel eilydd, yn y drefn honno, yn dilyn llwyddiant y tîm yng nghynghrair Pêl-droed Stryd Cymru.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Dai a Chymunedau, y Cyng. Lynda Thorne: "Mae hwn yn llwyddiant rhagorol i'r ddwy yn ogystal ag i'r tîm pêl-droed, sy'n tystio i waith caled ac ymroddiad ein staff.

"Hoffwn ganmol sefydlydd y tîm pêl-droed a swyddog yr hostel, Keith Hopkins, am ei greadigrwydd, ymrwymiad ac awch i fwrw'r project yn ei flaen, sy'n dangos pwysigrwydd gweithgareddau gwrthdyniadol i'n defnyddwyr gwasanaeth.Mae cyfleoedd fel hyn yn helpu i hybu sgiliau a gwybodaeth, mynd i'r afael ag unigedd a lleihau diflastod.Maen nhw'n effeithio'n gadarnhaol ar les, hyder a hunanwerth person, a'r nod ydy yr aiff i fyw yn annibynnol wedyn.

"Dylai Kathryn a Tianna deimlo'n hynod falch, ac rwy'n dymuno'r gorau iddyn nhw yn y twrnamaint ac yn y dyfodol."

Bwriad y Swyddog Hostel, Keith Hopkins, wrth sefydlu tîm pêl-droed Tŷ Tresilian oedd cynnal twrnamaint pêl-droed rhwng Hosteli Rheng Flaen Caerdydd.Cafodd chwe hostel eu cynrychioli yn y gwpan hon a'r canlyniad fu gwahodd Tŷ Tresilian i ymuno â'r gynghrair Pêl-droed Stryd.

Dywedodd Keith:"Cychwynnais y tîm pêl-droed yn ogystal â'r nifer o weithgareddau eraill rydyn ni'n eu cynnig, i roi cyfle i breswylwyr ymgysylltu ag eraill a gwella eu sgiliau a'u hyder. Bu'n rhaid i Kathryn a Tianna orchfygu rhwystrau yn eu bywydau, yn cynnwys cyfnodau o ddigartrefedd, ond maen nhw nawr yn cael cymorth a chyfleoedd i ail-adeiladu eu bywyd.

"Rwy' wedi dotio â llwyddiant y tîm ac rwy'n gobeithio y bydd hyn yn ysgogi defnyddwyr gwasanaeth eraill i gymryd rhan er mwyn iddyn nhw hefyd gael mwynhau canlyniadau a gwneud lles i'w dyfodol."

Mae Cwpan y Byd i'r Digartref yn dwrnamaint pêl-droed blynyddol a defnir gan Sefydliad Cwpan y Byd i'r Digartref, sefydliad cymdeithasol sy'n gweithio o blaid dod â diwedd i ddigartrefedd trwy bêl-droed cymdeithas.

Bydd 16eg Cwpan y Byd i'r Digartref yn Ninas Mecsico yn y Zocalo eiconig o 13 tan 18 Tachwedd 2018.