Gallwch fynd i’r Cartref Cŵn mewn dim ond un clic yn dilyn lansio eu gwefan newydd.
Mae’r wefan www.cartrefcwncaerdydd.co.uk yn cynnig gwybodaeth a chyngor ar bopeth o ficrosglodynnu i wybodaeth ynghylch beth y dylech chi ei wneud os digwydd i chi golli (neu ddod o hyd i) gi.
Mae’r holl gŵn sy’n chwilio am gartref newydd ar hyn o bryd i’w gweld ar y safle. Ar hyn o bryd, mae hynny’n cynnwys Archie annwyl gyda’i lygaid du a Lolo, ci blaidd croesfrid sydd wedi bod yn y cartref ers yr hydref diwethaf.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd, y Cynghorydd Michael Michael: “Mae trigolion yn disgwyl yn fwy ac wy y gallan nhw ddefnyddio ein gwasanaethau’n ddigidol a bydd y wefan newydd hon yn ei gwneud hi’n haws i unrhyw un sy’n chwilio am gymar pedair coes gychwyn y siwrnai honno ar-lein.”
“Rydyn ni i fod yn genedl sy’n hoffi anifeiliaid, felly mae’n drist clywed sut mae rhai o’r cŵn sy’n dod i Gartref Cŵn Caerdydd wedi cael eu trin - mae unrhyw beth y gallwn ei wneud i helpu’r cŵn sy’n dod i’n gofal ddod o hyd i gartref am oes yn beth da.”
Dyma wasanaethau eraill sydd ar gael trwy’r wefan newydd:
·
System ar gyfer rhoi gwybod am gi sydd ar goll neu y
daethpwyd o hyd iddo.
·
Gwybodaeth am beth i’w wneud os dewch o hyd i gi.
·
Gwybodaeth am wasanaethau microsglodynnu am ddim.
·
Gwybodaeth am ‘ysbaddu ci.
· Lluniau o gŵn y daethpwyd o hyd iddyn nhw’n ddiweddar.
Os
hoffwch chi gyfrannu at waith Cartref Cŵn Caerdydd, mae gwybodaeth hefyd am
gyfleoedd gwirfoddoli ar y wefan, gan gynnwys y cyfle i ddod i adnabod rhai o’r
cŵn trwy wirfoddoli i Fynd â Chŵn am Dro.