Back
Ble yn eich barn chi dylid rhoi camerâu gorfodi traffig yng Nghaerdydd?

Mae camerâu symudol gorfodi traffig wedi cael eu gosod yng Nghaerdydd i wella llif y traffig, gwacáu lonydd bysys a chadw Caerdydd i symud.

Mae tagfeydd wedi cael ei nodi'n broblem yng Nghaerdydd, ac mae problemau yn codi pan fydd gyrwyr yn rhwystro mynediad i ffyrdd penodol drwy aros yn anghyfreithlon ar gyffyrdd sgwâr melyn neu drwy droi ar ffyrdd mewn modd a waherddir, sy'n amharu ar lif y traffig.

Nodwyd tair prif gyffordd yng nghanol y ddinas fel y mannau mwyaf trafferthus ac mae camerâu newydd wedi cael eu gosod bellach i atal gyrwyr rhag achosi problemau diangen.

Y cyntaf yw'r gyffordd sgwâr melyn ar Ffordd Churchill wrth droi i'r chwith ar Rodfa Bute wrth fynd heibio Gwesty Park Inn. Cafodd camera ei osod yno bythefnos yn ôl ac mae pob gyrrwr sydd wedi dod i stop mewn modd anghyfreithlon yn y gyffordd sgwâr melyn hon wedi cael hysbysiad o rybudd gan yr awdurdod lleol. Bydd Hysbysiadau Cosb Benodedig yn cael eu cyflwyno o 17 Medi.

Yr ail yw'r gyffordd sgwâr melyn ar Rodfa Bute yn Mary Anne Street, sef y ffordd sy'n arwain at faes parcio canolfan siopa Dewi Sant.Bydd y camera hwn yn cael ei osod y dydd Sul sy'n dod a bydd hysbysiadau o rybudd yn cael eu cyflwyno am gyfnod cyn dechrau gorfodi.

Mae'r trydydd camera wedi'i osod ar Adam Street er mwyn atal gyrwyr rhag dod i stop mewn modd anghyfreithlon ar y gyffordd sgwâr melyn y tu allan i Garchar Caerdydd, sy'n atal gyrwyr rhag gyrru ar hyd y Ffordd Gyswllt Ganolog a throi i'r dde tuag at ganol y ddinas.Bydd y camera hwn hefyd yn cael ei osod y dydd Sul sy'n dod, gyda chyfnod o rybudd ar waith cyn dechrau gorfodi.

Y mannau eraill y mae'r Cyngor yn eu hasesu yw:

  • Leckwith Road/Wellington Street
  • Western Avenue/Ffordd Caerdydd
  • Stryd Wood
  • Glossop Road/Moira Terrace
  • Sgwâr Callaghan

 

Ydych chi wedi cael llond bol ar gael eich dal mewn traffig oherwydd gyrwyr anystyriol yn rhwystro'r ffordd? Ydych chi'n credu y bydd gosod cyffordd sgwâr melyn yn helpu i ddatrys y broblem?Beth am ddweud eich dweud drwy drydar eich syniadau at @cyngorcaerdydd neu anfon neges drwy Facebook at facebook.com/cardiffcouncil1.