Back
Nod Caerdydd yw bod ar flaen y gad o ran agenda Cymru Iachach

Mae Cyngor Caerdydd yn gobeithio dod yn un o awdurdodau lleol cyntaf Cymru i lunio gofal cartref sy'n unol â chynllun newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. 

Cyhoeddodd Llywodraeth CymruCymru Iachach: ein cynllun ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasolym mis Gorffennaf, y cynllun cenedlaethol cyntaf o'i fath.Mae'n disgrifio gwasanaethau di-dor a ddarperir ar lefel leol. 

Bellach, mae adroddiad Cyngor Caerdydd a ystyria'r Cabinet yn ei gyfarfod ar ddydd Iau 20 Medi, yn nodi sut y gall comisiynu gofal cartref yn y ddinas yn y dyfodol chwarae rhan allweddol yng ngweithrediad polisi Cymru Iachach Llywodraeth Cymru yng Nghaerdydd. 

Yn amodol ar gymeradwyaeth gan y Cabinet, bydd angen gwneud gwaith manwl gyda phobl ag anghenion gofal a chymorth, eu gofalwyr, a'r sector gofal cartref yn gyffredinol, er mwyn sicrhau bod unrhyw drefniadau comisiynu yn y dyfodol yn adlewyrchu'r hyn sy'n bwysig ganddynt.Byddai'r trefniadau newydd yn cael eu rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2020. 

Er mwyn caniatáu amser i'r gwaith paratoi manwl ddigwydd, bydd y trefniadau comisiynu presennol, a fydd yn dod i ben ar 3 Tachwedd, 2018 yn cael eu hymestyn am ddwy flynedd arall.Mae'r dull newydd, a gyflwynwyd gan gynllunCymru Iachach, Llywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf hefyd yn golygu bod y Cabinet yn ailedrych ar eu penderfyniad blaenorol ar gomisiynu gofal yn y cartref ym mis Ionawr, rai misoedd cyn cyhoeddi'r cynllun cenedlaethol newydd. 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles, y Cynghorydd Susan Elsmore:"Mae'r Cyngor yn comisiynu 30,000 i 35,000 awr o ofal cartref yr wythnos, ar gyfer tua 2,200 o bobl, am gost o £23.5m y flwyddyn.Mae hyn yn amlwg yn adnodd sylweddol, sy'n cefnogi nifer fawr o bobl.Felly, mae ail-lunio ein dull o gomisiynu ein pecynnau gofal cartref yn rhoi cyfle gwirioneddol i ni roi lle blaenllaw i Gaerdydd pan ddaw'n fater o gyflawni agenda Cymru Iachach Llywodraeth Cymru. 

"Mae ein trefniadau comisiynu presennol wedi dod â manteision aruthrol i'r bobl sy'n derbyn ein gofal.Yn fwyaf amlwg, mae gennym nawr lefelau oedi hanesyddol isel wrth drosglwyddo gofal yng Nghaerdydd, sy'n golygu bod mwy a mwy o bobl yn gallu dychwelyd adref o'r ysbyty cyn gynted â phosibl. 

"Â chyhoeddiad cynllun iechyd a gofal cymdeithasol cenedlaethol cyntaf erioed Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru gyfan yr un pryd â'r gofyniad i adnewyddu ein trefniadau gofal cartref cyfredol, dyma'r amser i adeiladu ar y llwyddiannau hyn a gosod egwyddorion y polisi cenedlaethol newydd wrth wraidd ein gwasanaethau, yn enwedig pan ddaw'n fater o weithio ar lefel leol." 

Ar hyn o bryd, mae llawer o ddarparwyr gofal unigol yn gweithredu ar draws rhannau helaeth o'r ddinas.Byddai'r dull newydd yn cynorthwyo darparwyr i ffurfio cysylltiadau cryf â sefydliadau'r trydydd sector, timau iechyd cymunedol, timau gwaith cymdeithasol, a darparwyr gofal a chymorth eraill, mewn ardal leol. 

Mae'r adroddiad i'r Cabinet hefyd yn nodi argymhelliad i ddod â'r broses dalu ar gyfer darparwyr cartrefi preswyl a nyrsio i gyd-fynd â'r hyn a ddefnyddir i dalu am wasanaethau gofal cartref. 

Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn cyfarfod ar ddydd Iau, 20 Medi 2018 i ystyried yr argymhellion.Mae'r adroddiad llawn ar gael i'w lawrlwytho owww.caerdydd.gov.uk/cyfarfodydd