Back
Cyhoeddi buddsoddiad mawr i ddiwydiannau creadigol Cymru!

Mae Caerdydd yn un o naw clwstwr creadigol yn y DU sydd wedi derbyn cyllid ymchwil.Meddai Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cyng. Huw Thomas, "Fel un o ganolfannau mwyaf blaenllaw'r DU ar gyfer cynhyrchu sgriniau, mae creadigedd yn parhau i fod wrth wraidd agenda adfywio Caerdydd. Roedd yn bleser gennyf roi cymorth y Cyngor i'r cais gan glwstwr AHRC ac rwyf wrth fy modd bod Caerdydd wedi bod yn fuddugol.

"Mae'r buddsoddiad sylweddol hwn i gynnal ymchwil a datblygu'r sector sgriniau yng Nghaerdydd a'r rhanbarth yn drawsnewidiol wrth ddatblygu'r sector. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda thair prifysgol Caerdydd a diwydiannau i gynorthwyo Caerdydd i fod ar flaen y gad o ran arloesedd sgriniau. Bydd ein dinas ni yn arwain y ffordd wrth weithio ar ddulliau newydd o brofi cynnwys a straeon digidol yn y dyfodol."

 

Beth sy'n gwneud Caerdydd yn greadigol? Dyma grynodeb o'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd ym mhrifddinas Cymru:

-          Mae Caerdydd ar y rhestr fer derfynol i fod yn un o Hybiau Creadigol Channel 4.

-          Dyma'r tro cyntaf i dair prifysgol y ddinas gydweithredu ar broject mawr.

-          Yn ddiweddar bu Caerdydd yn llwyddiannus gyda'i chais i gynnal Cynhadledd Dinasoedd Creadigol 2019 sy'n rhoi ei sylw ar y cyfryngau, gan guro dinasoedd Prydeinig eraill a oedd ar y rhestr fer, megis Glasgow a Bryste.

-          Rydym yn adeiladu hyb cyfryngau, creadigedd a gwybodaeth newydd yn y Sgwâr Canolog. Bydd hwn yn ddatblygiad arloesol a fydd yn tynnu sylw at brifddinas Cymru am ei diwydiannau creadigol - a bydd modd ei chyrraedd o Lundain mewn llai na dwy awr.

-          Mae Caerdydd yn gosod diwylliant, creadigrwydd ac arloesedd wrth wraidd datblygiad y ddinas.

-          Mae Caerdydd yn ddinas ifanc, a chyda mwy na 70,000 o fyfyrwyr, mae posibiliadau creadigol y ddinas yn aruthrol.

-          Mae dros 7000 o fyfyrwyr yng Nghaerdydd yn astudio amrywiaeth o feysydd arbenigol creadigol sy'n cyd-fynd â diwydiannau creadigol.  

-          Mae Caerdydd yn amrywiol, ac roedd ar flaen y gad wrth ddatblygu dinas amlddiwylliannol.

-          Nid lle gwych i weithio yn unig yw Caerdydd. O ran ansawdd bywyd, mae Caerdydd yn cyrraedd brig arolygon ansawdd bywyd Ewropeaidd yn gyson.

-          Yn yr arolwg diweddaraf gan yr UE, pleidleisiwyd Caerdydd yn brifddinas orau am ansawdd bywyd ac fe'i henwir hefyd yn ddinas orau'r DU am gyfleusterau diwylliannol.