Carreg filltir fawr yn creu cyfleoedd swyddi i breswylwyr lleol
Mae datblygwr cenedlaethol, Wates Residential, wedi dechrau gwaith ar ei bumed safle i adeiladu cartrefi newydd yng Nghaerdydd fel rhan o raglen adeiladu tai flaenllaw'r Cyngor.
Mae'r gwaith yn cyrraedd carreg filltir fawr yn y rhaglen ‘Cartrefi Caerdydd', partneriaeth 10 mlynedd rhwng Cyngor Caerdydd a Wates Residential a fydd yn cynnwys datblygu 1,500 o gartrefi ar draws sawl safle yn y ddinas.
Bydd safle Walker Mews yn Llanisien yn rhoi hwb arall i gynnig cartrefi newydd fforddiadwy'r ardal, gyda 16 o gartrefi i'w cwblhau erbyn haf 2019. Bydd pedwar o'r rhain ar gael i'w rhentu'n fforddiadwy gan y Cyngor, a bydd y cartrefi tair ystafell wely a fydd ar ôl i'w gwerthu ar y farchnad agored gan mwyaf gyda nifer bach i'w gwerthu'n breifat.
Caiff gwelliannau eu gwneud hefyd i'r ffordd fynediad a'r llwybr cerdded i'r safle o Fidlas Road.
Mae gwaith Wates Residential yn yr ardal leol wedi creu nifer o gyfleoedd swyddi, gan gynnwys sawl swydd newydd sydd wedi'u llenwi gan gyfranogwyr yn rhaglen Building Futures achrededig Wates.
Mae'r cwrs pythefnos am ddim, a gynhaliwyd yng Nghaerdydd y mis hwn, yn cynnig hyfforddiant adeiladu sylfaenol ac yn helpu oedolion di-waith i ddatblygu sgiliau i'w helpu i symud ymlaen i gyflogaeth neu ragor o hyfforddiant.
Yn rhinwedd y rhaglen, graddiodd 13 o bobl mewn seremoni ym mhresenoldeb Rheolwr-Gyfarwyddwr Wates Residential South, Paul Nicholls, a'r Cynghorydd Lynda Thorne, Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau.Derbyniodd pob un o'r cyfranogwyr Dystysgrif BTEC Lefel 1 mewn Adeiladu ac Iechyd a Diogelwch.
Mae dwy swydd a thair prentisiaeth gyda Wates a'i bartneriaid cadwyn cyflenwi eisoes wedi'u llenwi neu y disgwylir iddynt gael eu llenwi gan y graddedigion, ac mae dau arall wedi cael gwaith yn ardal Caerdydd.
Fel rhan o'r bartneriaeth barhaus, mae Wates Residential a Chyngor Caerdydd hefyd wedi gwneud addewid ar y cyd i gefnogi'r economi leol trwy fuddsoddi mewn cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant eraill.
Hyd yn hyn, mae 47 o bobl leol wedi elwa o gyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant, ac mae £5.5 miliwn wedi'i greu mewn gwerth economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol.Mae gweithgareddau wedi cynnwys prentisiaethau ar safle, lleoliadau profiad gwaith a rhaglenni hyfforddiant strwythuredig.
Mae gwaith parhaus y datblygwr yn y ddinas yn cynnwys mwy na 100 o gartrefi ar safleoedd Braunton Crescent (Captain's View) a Clevedon Road (Captain's Walk) yn Llanrhymni a 192 o gartrefi deiliadaeth gymysg yn natblygiad Rhos yr Arian yn Willowbrook West yn Llaneirwg.Mae gwaith hefyd ar y gweill yn Nhŷ To Maen yn Llaneirwg ac yn Lôn Bryn Hyfryd yn Llanrhymni.
Bydd yr holl gartrefi sy'n cael eu hadeiladu trwy ‘Cartrefi Caerdydd' yn bodloni lefelau uchel o gynaliadwyedd ac ynni-effeithlonrwydd i helpu i drechu tlodi tanwydd.
Nododd Paul Nicholls, Rheolwr-Gyfarwyddwr Wates Residential South,
"Bydd datblygiad Walker House yn creu cartrefi newydd mawr eu hangen i bobl leol yng Nghaerdydd ac mae dechrau gweithio ar y safle yn gam mawr ymlaen yn ein rhaglen adeiladu cartrefi drawsnewidiol gyda Chyngor Caerdydd.
"Mae buddsoddi mewn hyfforddiant a chyflogaeth, a threfnu cyrsiau megis y rhaglen Building Futures, ond yn rhai ffyrdd y gobeithiwn wneud cyfraniad hirhoedlog at ddyfodol Caerdydd wrth i ni adeiladu'r cartrefi newydd hyn.
"Rydym yn hynod falch o'r 13 o fyfyrwyr a raddiodd o'n cwrs Building Futures yng Nghaerdydd.Mae eu huchelgais i ddysgu sgiliau newydd yn dyst i'w penderfyniad i roi cychwyn ar eu gyrfaoedd ac rydym yn hyderus y bydd pob un ohonynt yn mynd ymlaen i wneud beth bynnag maent yn troi eu sylw ato."
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cyng. Lynda Thorne,
"Mae'r cynllun Cartrefi Caerdydd yn mynd rhagddo'n dda nawr gyda'r gwaith wedi dechrau ar safle Walker House.
"Mae ein datblygiadau eraill gyda Wates Residential yn mynd rhagddynt yn dda iawn ar draws y ddinas hefyd ac mae'n amser cyffrous gyda'r disgwyl y bydd ein cartrefi fforddiadwy cyntaf wedi'u cwblhau erbyn diwedd y flwyddyn.
"Ynghyd â mentrau eraill y Cyngor i ateb y galw am dai, mae Cartrefi Caerdydd yn dod â chartrefi newydd, fforddiadwy o safon uchel i'r ddinas ar gyfer pobl sydd eu hangen fwyaf ac yn cyfrannu'n sylweddol at ein targed o greu 2,000 o gartrefi cyngor newydd yn y ddinas.
"Roeddwn wrth fy modd i fynd ar y rhaglen Building Futures a dylai'r graddedigion newydd gael eu canmol am eu hymroddiad yn ystod y cwrs.Mae'r hyfforddiant gwerthfawr a gawsant wedi rhoi'r sgiliau iddynt maen nhw'n gallu eu defnyddio mewn cyflogaeth yn y dyfodol."