Back
Angen esgidiau merched i ‘Gerdded Milltir yn ei Hesgidiau Hi'

Mae Cyngor Caerdydd mewn partneriaeth â Chyngor Bro Morgannwg a Chymdeithas Tai Cadwyn yn apelio am esgidiau merched maint 10 a mwy.

Daw'r cais anarferol hwn cyn ‘Cerdded Milltir yn ei Hesgidiau Hi'sy'n ddigwyddiad blynyddol sy'n gweld dynion o bob oedran a chefndir yn dod ynghyd ac yn cerdded milltir mewn esgidiau merched i gefnogi'r Rhuban Gwyn, elusen sy'n ymgyrchu i atalcam-drin domestig a thrais rhywiol yn erbyn merched.

Bellach yn ei bumed flwyddyn, mae'r digwyddiad wedi tyfu o 14 dyn yn cerdded i ddigwyddiad y llynedd a ddenodd bron 140 o ddynion. Caiff ei gynnal ddydd Gwener 28 Medi gan ddechrau yng Nghastell Caerdydd.

Er mwyn i bawb sydd am gymryd rhan allu gwneud hynny, mae'r trefnwyr yn apelio am esgidiau merched i ddynion eu gwisgo ar y diwrnod, felly os oes gennych esgidiau maint deg neu uwch nad ydych chi eu heisiau mwyach, neu os ydych yn fanwerthwr gyda stoc fawr o esgidiau merched y gallech eu cyfrannu, cysylltwch â ni.

Lleolir mannau gollwng yng nghynteddi'r adeiladau canlynol:

-         Unrhyw un o 12 Hyb Cyngor Caerdydd, gweler yma i'r cyfeiriad llawn:https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/hybiau-a-swyddfeydd-tai/Pages/default.aspx

-         Cyngor Caerdydd - Tŷ Willcox, Dunleavy Drive, CF11 0BA

-         Cyngor Caerdydd - Neuadd y Sir, Glanfa'r Iwerydd, CF10 4UW

-         Prif Swyddfa Cadwyn, 197 Heol Casnewydd, Caerdydd, CF24 1AJ

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles, y Cynghorydd Susan Elsmore:"Yn ddiweddar dyfarnwyd Gwobr Rhuban Gwyn ranbarthol i Gaerdydd am ei hymrwymiad i atal trais yn erbyn merched ac maeCerdded Milltir yn ei Hesgidiau Hi'nun o'n digwyddiadau allweddol i hyrwyddo ymrwymiad y ddinas i Ymgyrch y Rhuban Gwyn.

"Er bod elfen o hwyl i'r digwyddiad, mae'r neges yn glir, ac mae'r daith gerdded ei hun yn dangos ymrwymiad cyhoeddus a gweledol na fydd y sawl sy'n cymryd rhan yn goddef trais o unrhyw fath yn erbyn merched.

"Eleni hoffem gael cynifer o ddynion â phosibl i gymryd rhan, o bob oedran ac o bob cefndir.Os oes gan unrhyw un esgidiau merched o unrhyw faint 10 neu uwch - nid dim ond sodlau uchel - gallwch eu cyfrannu."

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth a Phencampwr Cam-Drin Domestig Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Caro Wild:"Mae'r digwyddiad hwn wedi tyfu bob blwyddyn, gan ddangos nad yw Caerdydd yn goddef cam-drin domestig yn erbyn merched.Cerddais y llynedd ac roedd yn wych gweld cynifer o ddynion yn dod ynghyd i wisgo'r Rhuban Gwyn ac addo i beidio byth â chyflawni, goddef na bod yn ddistaw ynghylch trais yn erbyn merched.

"Rwy'n gobeithio y bydd mwy o ddynion yn ymuno eleni i gefnogi'r ymgyrch bwysig hon." 

Meddai Chris O'Meara, Prif Weithredwr Cymdeithas Tai Cadwyn:"Mae mynd i'r afael â cham-drin domestig bob amser wedi bod yn flaenoriaeth yma yn Cadwyn ac yn 2014 ni oedd y gymdeithas tai gyntaf yng Nghymru i ddanfon ein staff ar hyfforddiant cam-drin domestig.Dyna'r tro cyntaf hefyd i Cerdded Milltir yn ei Hesgidiau Hi ddigwydd, gydag 14 dyn o Cadwyn yn gwisgo esgidiau merched ac yn cerdded milltir i lawr Heol Casnewydd i godi ymwybyddiaeth o Ymgyrch y Rhuban Gwyn. Mae'r digwyddiad wedi tyfu bob blwyddyn ac rwy'n falch iawn o'r gefnogaeth mae wedi'i gael gan bobl a sefydliadau Caerdydd a'r Fro. Rydym wrthi'n chwilio am fwy o roddion esgidiau merched maint 10 neu fwy fel y gallwn ddal ati i godi ymwybyddiaeth o fater mor bwysig."

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Hamdden, y Cyng. Gordon Kemp:"Mae Cyngor y Fro'n falch o fod yn bartner i ddigwyddiad blynyddol ‘Cerdded Milltir yn ei Hesgidiau Hi' yng Nghaerdydd.

"Mae Ymgyrch y Rhuban Gwyn yn achos gwerth chweil sy'n galw ar i ddynion oll sefyll yn erbyn gwahaniaethu ar sail rhyw a thrais ar sail rhywedd o bob math.Gobeithio y gall cynifer â phosibl gofrestru i fod yn Gennad y Rhuban Gwyn neu gymryd rhan yn y daith milltir eleni."

Os na allwch fynd i un o'n pedwar man gollwng ond yr hoffech helpu ffoniwch Chris Nunn ar029 20434452 neuNicola Jones ar 029 2053 7009.

I fod yn rhan oCerdded Milltir yn ei Hesgidiau Hicofrestruwch ynwww.walkinhershoes.wales

Ymunwch â'r sgwrs #RhubanGwynCdyddarFro