Back
Cyhoeddi 27 o orsafoedd nextbike newydd yng Nghaerdydd

Mae'r safleoedd ar gyfer gorsafoedd nextbike newydd Caerdydd wedi cael eu cyhoeddi o'r diwedd wrth i'r cynllun ddyblu mewn maint yn y mis i ddod.

Bydd y gwaith o osod y 27 gorsaf rhannu beiciau ledled y ddinas yn cychwyn ar 24 Awst, gan gynyddu'r rhwydwaith docio dinas gyfan o 25 i 52.

Bydd gorsafoedd docio newydd yn cael eu gosod yn Llandaf, Grangetown, Y Mynydd Bychan a Threlái, yn ogystal â sawl un o amgylch Prifysgol Caerdydd.

Yn ddiweddar, datgelodd nextbike, sef cwmni rhannu beiciau mwyaf helaeth y byd, fod yr 16,000 o ddefnyddwyr cofrestredig y ddinas eisoes wedi beicio pellter anhygoel o 140,000km ers lansio'r cynllun ym mis Mawrth. Mae hynny'n 42 gwaith y pellter a feiciodd Geraint Thomas yn y Tour de France.

Hefyd, mae'r beiciau wedi cael eu defnyddio pum gwaith y dydd ar gyfartaledd, ac wedi cael eu rhentu 53,000 o weithiau ers eu cyflwyno yn y ddinas.

Dywedodd Julian Scriven, sef Cyfarwyddwr Gweithredol nextbike yn y DU, ei fod yn gobeithio y byddai pobl yn falch o weld gorsafoedd newydd yn cael eu gosod.

Dywedodd, "Mae'r galw am y cynllun wedi bod yn rhyfeddol o dda yng Nghaerdydd ers i ni lansio." "Serch hynny, mae wedi bod yn glir ar adegau bod angen mwy o feiciau a gorsafoedd i ateb y galw.

"Rydym wedi gwrando ar ein cwsmeriaid i ganfod lle y maent am gael gorsafoedd newydd ac rydym wedi ystyried eu barn wrth gynllunio safleoedd newydd gyda Chyngor Caerdydd, fel yn ardal Llandaf.

"Wrth i'r cynllun dyfu, bydd yn dod yn ddewis ymarferol mwy dibynadwy i bobl sy'n awyddus i newid eu dull o deithio i'r gwaith a theithio o amgylch y ddinas. Mae'n bwysig ein bod yn sicrhau bod beiciau ar gael yn yr ardaloedd cyffiniol hefyd, ac nid yng nghanol y ddinas yn unig, er mwyn sicrhau y gall pob aelod o'r gymuned fanteisio ac elwa ar y cynllun.

"Gyda hyn mewn golwg, mae trafodaethau'n mynd rhagddynt i weld sut y gallwn ehangu'r cynllun hyd yn oed ymhellach."

Mae beiciau nextbike ar gael 24 awr y dydd a gall defnyddwyr gofrestru a llogi beic mewn ychydig funudau yn unig. Mae'r cynllun rhannu beiciau yn un o'r ffyrdd rhataf o deithio o amgylch Caerdydd, ac mae 30 munud cyntaf pob taith am ddim i danysgrifwyr blynyddol. 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Caro Wild: "Mae'n braf clywed mai yng Nghaerdydd oedd y lansiad mwyaf llwyddiannus yn y DU.

"Mae'r cynllun yn gwneud beicio'n haws i'r cyhoedd ac mae'n wych clywed bod y cynllun yn dal i fod yn boblogaidd.

"Wrth i'r cynllun ddyblu yn ei faint bellach, bydd mwy o feiciau ar gael, yn enwedig yn ardaloedd cyffiniol y ddinas, gyda'r nod o annog hyd yn oed mwy o bobl i feicio i ganol ac o amgylch y ddinas."

Dyma restr lawn o'r gorsafoedd:

Prifysgol Caerdydd - Adeiladau'r Frenhines (The Parade)

Prifysgol Caerdydd - Neuadd Aberconwy (Colum Road)

Llandaf - Rhodfa'r Gorllewin (Prifysgol Metropolitan Caerdydd)

Gorsaf Drenau Llandaf (Ystum Taf)

Prifysgol Caerdydd - Neuadd Roy Jenkins (Crwys Road)

Sgwâr Canolog - Gogledd Canol Caerdydd

Bae Caerdydd - Y Senedd

Pen-y-lan - Waterloo Gardens

Y Mynydd Bychan - Croesffordd Llwynbedw (Caerphilly Road)

Ystum Taf - Gabalfa Avenue

Grangetown - Pendyris Street

Canolfan Hamdden y Gorllewin - Caerau Lane

Y Tyllgoed - Fairwater Green

Prifysgol Caerdydd - Cartwright Court (Daviot Street)

Pentref Rhiwbeina

Pentref Llanisien

Gorsaf Fysiau - Sophia Close

Hyb Trelái a Chaerau

Yr Eglwys Newydd - Merthyr Road

Y Rhath - Wellfield Road

Prifysgol Caerdydd - Sir Martin Evans (Plas-y-Parc)

Prifysgol Caerdydd - Tŷ McKenzie (Howard Place)

Prifysgol Caerdydd - Talybont (Llys Tal-y-bont Road)

Prifysgol Caerdydd - Cwmpas Parc y Mynydd Bychan (Ysbyty Athrofaol Cymru)

Prifysgol Caerdydd - Haydn Ellis (Maindy Road)

Prifysgol Caerdydd - Undeb y Myfyrwyr (Senghennydd Road)

Heol Casnewydd.