Back
Gŵyl Harbwr Caerdydd yn cynnal y Gyfres Hwylio Eithafol - Penwythnos Gŵyl y Banc 25-27 Awst 2018

Y penwythnos gŵyl y banc hwn, gallwch ddisgwyl tri diwrnod llawn dop o antur chwaraeon, cerddoriaeth a hwyl i'r teulu i bawb wrth i Ŵyl Harbwr Caerdydd gynnal Cyfres Hwylio Eithafol yn y Bae unwaith eto.

Dyma'r seithfed flwyddyn yn olynol i Ŵyl Harbwr Caerdydd gynnal y gystadleuaeth hwylio, a dyma'r unig adeg y bydd yng Nghaerdydd ar daith fyd-eang fyrlymus sy'n cwmpasu'r Dwyrain Canol, Ewrop a chyfandiroedd America. Bydd y digwyddiad yn croesawu fflyd o dimau hwylio elitaidd ar y lefel ryngwladol gan gynnwys y cerdyn gwyllt, Tîm Cymru sy'n cynnwys yr hwylwyr medrus o Gymru Martin Evans o Abertawe a Gareth Fowler o Gas-gwent.

Rasio Stadiwm fydd y prif ddigwyddiad yr Ŵyl, bob dydd rhwng 2pm a 5pm*.Bydd y catamaranau hydroffoil deuddyn o Gyfres Flying Phantom yn dychwelyd i ychwanegu at y cyffro parhaus ar wyneb y dŵr. 

Yn ogystal â rasio, bydd adloniant glan môr i'r teulu cyfan yn rhan o'r digwyddiad a bydd gwylwyr yn gallu mwynhau cerddoriaeth fyw, gweithgareddau difyr, bariau, stondinau bwyd yn y Pentref Rasio ar Rodfa'r Harbwr gyda sylwebaeth arbenigwyr ar y rasio, wrth gymryd mantais o'r lleoliad sydd â'r olygfa berffaith.

Bydd gan y Pentref Rasio ar Rodfa'r Harbwr stondinau bwyd gan gynnwys Mighty Soft Shell Crab, Grazing Shed a Vive La Crepe. Ar yr un pryd, bydd mwy na thri deg stondin farchnad yn Roald Dahl Plass a fydd yn gwerthu ystod o fwydydd o ledled Ewrop, bydd bar a blodau, nwyddau lledr a dodrefn bren o'r Iseldiroedd. 

Mae digon i adlonni gwesteion ifanc gan gynnwys cyfres o adloniant ym Mharc Britannia gan gynnwys "The Whale"Circo Rum Ba Ba.Dewch o hyd i bob math o theatr stryd ar risiau'r Senedd gan gynnwysThe Wonder Woman StreetShowneu ewch i weld Sioe Inspire BMX yn y Pentref Rasio.

Mae Alexandra Head wedi'i drawsnewid yn Draeth Bae Caerdydd Capital FM ac mae mwy na 500 o dunelli o dywod yno, a hefyd cadeiriau cynfas, pwll sblash ac amrywiaeth o atyniadau i bob oed.Mae'r uchafbwyntiau hefyd yn cynnwys Lolfa Eco'r Bae sydd â man llenwi potel dŵr.

I'r sawl sydd eisiau bach mwy o wefr, mae safle'r Hwyliwr Gwadd yn cynnig y sedd orau yn y tŷ. Bydd gwesteion yn cael y cyfle i hwylio ar y catamaranau GC32 sy'n hedfan yn ystod y rasio a chael diwrnod wirioneddol fythgofiadwy.I gael rhagor o wybodaeth, ewch i extremesailingseries.com/tickets

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury:"Mae'n bleser gennyf groesawu Cyfres Hwylio Eithafol yn ôl i Gaerdydd am y seithfed flwyddyn yn olynol, sy'n dod â chwaraeon dŵr byw arbennig i'r Bae.

"Mae Gŵyl Harbwr Caerdydd yn arddangos Bae Caerdydd fel lleoliad arfordirol gwych ac mae'r digwyddiad wir yn cynnig rhywbeth i bawb, o'r sawl sy'n dwli ar chwaraeon i blant ifanc a theuluoedd hefyd. Dewch i lawr i ymgolli yn yr awyrgylch gŵyl banc yn un o hoff ddigwyddiadau haf y ddinas." 

I gael rhagor o wybodaeth, ewch ihttps://www.visitcardiff.com/event/cardiff-harbour-festival-hosts-extreme-sailing-series/

#CroesoCdydd #CaerdyddYwHaf