Heddiw, mae Awdurdod Harbwr Caerdydd (AHC) mewn partneriaeth â'r sefydliad ailgylchu lleolRPC bpi recycled productsacEventclean, wedi croesawu Gweinidog Cymru dros yr Amgylchedd, Hannah Blythyn AC i ddatgelu mannau eistedd newydd blaengar ar gyfer Morglawdd Bae Caerdydd.
Mae pedair mainc Plaswood wedi eu cynhyrchu yn sgil ailgylchu ffilm plastig a gasglwyd yn ystod cam Caerdydd Ras Fôr Volvo yn gynharach yr haf hwn, sef digwyddiad hwylio rhyngwladol i oreuon y byd sy'n anelu at godi ymwybyddiaeth ac i weithredu yn erbyn llygredd plastig yn y moroedd.Prynwyd y meinciau gan Eventclean, y cwmni rheoli gwastraff sy’n casglu a didoli gwastraff digwyddiadau er mwyn ei ailgylchu, fel ffordd o gofio Ras Fôr Volvo.
Yn ystod y digwyddiad casglwyd dros 280kg o ffilm plastig a'i gymryd i safleRPC bpi recycled productsyn Nhredelerch, De Cymru.Yno cafodd ei ddidoli, ei olchi a'i droi'n belenni plastig yn barod i'w ail weithgynhyrchu yn nwyddau ail-fywyd, megis bagiau sbwriel a chelfi plastig, fel rhan o ystod nwyddau Plaswood.
Gall ffilm plastig fod yn anodd ei ailgylchu trwy'r ffrydiau arferol, oherwydd ei fod yn aml yn cael ei wrthod gan gyfleusterau didoli gwastraff dinesig arferol.
Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân ac Ailgylchu:"Mae Caerdydd yn ddinas sy'n arwain o ran digwyddiadau mawr ac mae hi'r un mor bwysig ein bod ni'n arwain gwaith cynaliadwyedd a lleihau ein hôl-troed plastig yn ystod y digwyddiadau hyn. Mae'r meinciau hyn yn cynrychioli arfer ailgylchu gorau ac maen nhw'n dangos ymrwymiad Caerdydd i gefnogi'r frwydr yn erbyn plastig un tro.
"Bydd ailgylchu'n parthau i fod yn flaenoriaeth mewn digwyddiadau yn y dyfodol. Er enghraifft, byddwn ni'n gweithio eto gyda RPC bpi a fydd yn gyfrifol am ailgylchu'r ffilm blastig yng Ngŵyl Harbwr Caerdydd yn cynnal Cyfres Hwylio Eithafol™ a fydd yn digwydd ym Mae Caerdydd 25-27 Awst."
Dywedodd Cyfarwyddwr Eventclean, Marc Fowkes: "Rydyn ni wrth ein bodd y bydd y meinciau wedi'u lleoli mewn lle cyhoeddus ar bwys safle'r digwyddiad gan y byddan nhw'n tynnu sylw at y ffaith bod y ffilm blastig wedi'i hailgylchu a'i throi'n ddodrefn. Gobeithio y bydd y fenter yn annog mwy o bobl i ailgylchu yn y dyfodol."
Dywedodd Gweinidog Llywodraeth Cymru dros yr Amgylchedd, Hannah Blythyn AM: "Roedd cam Caerdydd Ras Fôr Volvo yn ddigwyddiad mawr i'r ddinas. Gwnaeth hefyd hyrwyddo mentrau i leihau'r defnydd o blastig un tro, fel fy amcan i ddarparu mannau llenwi potel dŵr mewn cymunedau allweddol ar Lwybr Arfordir Cymru.
"Dylen ni fod yn falch iawn yng Nghymru mai ni yw'r wlad orau am ailgylchu yn y DU, ac yn y byd hefyd. Rhaid i ni barhau i adeiladu ar hyn a dod o hyd i ffyrdd o arloesi ac mae'r meinciau'n enghraifft ragorol o'r ffordd y gellir ailddefnyddio plastig un tro er lles y gymuned."
Gan gynnwys ysgythriad dwyieithog:"Gwnaed o ffilm plastig a gasglwyd yn Arhosiad Ras Fôr Volvo yng Nghaerdydd', bydd y pedair mainc i'w gweld ger yr ardal chwarae i blant ar Forglawdd Bae Caerdydd.