Back
Cau ffyrdd ar gyfer digwyddiadau y penwythnos hwn

Bydd Penwythnos Mawr Pride Cymru yn cael ei gynnal dros benwythnos gŵyl y banc, gyda digwyddiadau cerddorol ar lawnt neuadd y ddinas nos Wener a nos Sadwrn, o 5pm tan 11pm.

Mae manylion am y digwyddiadau a thocynnau ar gael drwy ddilyn y ddolen hon -http://bigweekend.pridecymru.co.uk/

Ar ddydd Sadwrn 25 Awst, bydd Parêd PRIDE yn cychwyn am 11am a disgwylir iddo ddod i ben am 12.30pm. I hwyluso'r digwyddiad, bydd rhaid cau rhai heolydd.

Bydd y parêd yn dechrau ar Heol y Gogledd wrth y gyffordd gyda Boulevard de Nantes, a bydd yn mynd yn ei flaen lawr Heol y Gogledd a Ffordd y Brenin, tua Castell Caerdydd, troi i'r chwith i'r Stryd Fawr, ar hyd Heol Eglwys Fair, i'r dde i Stryd Wood, i'r dde i Heol y Porth, i'r dde i Stryd y Castell ac i fyny Heol y Gogledd.

Oherwydd hyn, bydd y ffyrdd ar gau i baratoi ar gyfer y digwyddiad ac yn ystod y digwyddiad ei hun.

Ar 25 Awst, bydd y ffyrdd canlynol ar gau rhwng 9am ac 11am:

  • Heol y Gogledd o'r gyffordd â Column Road i'r gyffordd â Boulevard de Nantes

Ar 25 Awst, bydd y ffyrdd canlynol ar gau rhwng 10am ac 1pm:

  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o'r gyffordd â Heol y Gadeirlan i'r gyffordd â Heol y Porth
  • Stryd Tudor o'r gyffordd â Clare Road i'r gyffordd â Stryd Wood (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr ar hyd Fitzhammon Embankment).
  • Plantagenet Street a Beauchamp Street o Despenser Place i'r cyffyrdd â Stryd Tudor (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr)
  • Ffordd y Brenin; Heol y Dug; Heol y Castell; Heol Fawr; Heol Eglwys Fair; Stryd Wood; y Sgwâr Canolog; Heol y Porth; Stryd y Cei; Plas y Neuadd; Y Gwter;  Heol y Parc; Stryd Havelock a Heol Scott.

Yn sgil cau'r heolydd, mae Bws Caerdydd yn cynghori eu cwsmeriaid y bydd bysus yn dargyfeirio i'r mannau canolog, yn yr un modd ag a wneir pan fo digwyddiadau mawr yn Stadiwm Principality - Ffordd Churchill ar gyfer y dwyrain, Heol y Brodyr Llwydion ar gyfer y gogledd a Stryd Tudor ar gyfer y gorllewin.  

Bydd  Milltir Butetown  yn cael ei gynnal ddydd Sul 26 Awst. I hwyluso'r digwyddiad, bydd ffyrdd ar gau o 10am tan hanner dydd.

Yn ystod y cyfnos hwn, bydd y ffyrdd canlynol ar gau: 

  • Plas Bute o'r gyffordd â Stryd Pen-y-lanfa i gylchfan Rhodfa Lloyd George/y Ffynnon.
  • Plas Bute o'r gyffordd â Rhodfa Lloyd George i'r gyffordd â Ffordd Tresillian/Sgwâr Callaghan. Bydd mynediad o hyd at Stryd Bute o'r gyffordd â Maria Street hyd at y gyffordd â North Church Street.
  • Stryd Bute a Phlas Bute o'r gyffordd â James Street.
  • Rhodfa Lloyd George tua'r de wrth y gyffordd â Heol Hemingway.
  • North Church Street, Maria Street, South Loudon Place, Hodges Row, Hannah Street. Clos y Gorllewin a Stryd Bute y Gorllewin.