Fis nesaf, bydd dynion o bob oedran ac o bob cefndir yn gwisgo pâr o sgidiau merched ac yn dod i brifddinas Cymru i ddangos eu cefnogaeth i'r ymgyrch i atal trais yn erbyn merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Bydd‘Cerdded Milltir yn Ei Sgidiau Hi'ddydd Gwener 28 Medi am 10.00am.Anogir dynion o Gaerdydd a thu hwnt i gymryd rhan yn y daith gerdded sy'n dechrau yng Nghastell Caerdydd ac yn dilyn llwybr o filltir o amgylch canol y ddinas.
Bellach yn ei bumed flwyddyn, mae'r project partneriaeth rhwng Cyngor Caerdydd, Cymdeithas Tai Cadwyn a Chyngor Bro Morgannwg wedi tyfu o 14 dyn yn 2014 i bron 140 y llynedd.
Os hoffech gofrestru i'r digwyddiad ewch iwww.walkinhershoes.wales
Bydd digwyddiad cenhadon i ddilyn o 1.15-3.30pm.Mae'r digwyddiad hwn ar agor i unrhyw un sydd eisoes yn Gennad Rhuban Gwyn neu sydd â diddordeb mewn dysgu mwy.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles, y Cynghorydd Susan Elsmore:"MaeCerdded Milltir yn Ei Sgidiau Hiyn un o ddigwyddiadau allweddol Caerdydd i hyrwyddo ymrwymiad y ddinas i Ymgyrch y Rhuban Gwyn ac yn brawf o effeithiolrwydd gwaith partneriaeth yn codi ymwybyddiaeth o drais yn erbyn menywod, herio agweddau a chynnwys dynion mewn trafodaethau o'r materion hyn.
"Eleni hoffem recriwtio mwy fyth o ddynion i gymryd rhan, ac rwy'n annog sefydliadau ac aelodau o'r cyhoedd i gofrestru ar gyfer y digwyddiad pwysig hwn.Er bod elfen o hwyl i'r digwyddiad, mae'r neges yn glir - ni fydd y sawl sy'n cymryd rhan yn goddef trais o unrhyw fath yn erbyn menywod."
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth a Phencampwr Cam-Drin Domestig Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Caro Wild:"Mae Caerdydd yn Ddinas Rhuban Gwyn ac mae'r digwyddiad hwn yn dangos nad ydym yn goddef trais domestig yn erbyn menywod.Mae'r ymateb i'r digwyddiad hwn yn y gorffennol wedi bod yn wych, ac fel cennad Rhuban Gwyn rwy'n annog dynion eraill i gofrestru a bod yn rhan o'r digwyddiad pwysig, ac ymrwymo i beidio â byth cyflawni, goddef nac aros yn dawel am drais yn erbyn menywod."
Meddai Chris O'Meara, Prif Weithredwr Cymdeithas Tai Cadwyn:"Mae mynd i'r afael â cham-drin domestig bob amser wedi bod yn flaenoriaeth yma yn Cadwyn ac yn 2014 ni oedd y gymdeithas dai gyntaf yng Nghymru i ddanfon ein staff ar hyfforddiant cam-drin domestig.Dyna'r tro cyntaf hefyd iCerdded Milltir yn Ei Sgidiau Hiddigwydd, gydag 14 dyn o Cadwyn yn gwisgo sgidiau merched ac yn cerdded milltir i lawr Heol Casnewydd i godi ymwybyddiaeth o Ymgyrch y Rhuban Gwyn. Mae'r digwyddiad wedi tyfu bob blwyddyn ac rwy'n falch iawn o'r gefnogaeth mae wedi'i gael gan bobl a sefydliadau Caerdydd a'r Fro.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Hamdden, y Cynghorydd Gordon Kemp:"Mae Cyngor y Fro'n falch o fod yn bartner i ddigwyddiad blynyddol ‘Cerdded Milltir yn Ei Sgidiau Hi' yng Nghaerdydd.
"Mae Ymgyrch y Rhuban Gwyn yn achos gwerth chweil sy'n galw ar bob dyn i sefyll yn erbyn rhywiaeth a thrais ar sail rhywedd o bob math.Gobeithio y gall cynifer â phosibl gofrestru i fod yn Gennad Rhuban Gwyn neu gymryd rhan yn y daith filltir eleni."
Mae trefnwyr hefyd yn apelio am sgidiau merched i gyfranogwyr eu gwisgo ar y dydd, felly os oes gennych unrhyw sgidiau maint 10 neu fwy nad ydych eu heisiau mwyach, neu os ydych yn fanwerthwr â llawer o stoc ac yr hoffech gyfrannu, cysylltwch â ni.
Ymunwch â'r sgwrs #RhubanGwynCdyddarFro
Bob blwyddyn yn y DU mae mwy na miliwn o fenywod yn dioddef o gam-drin domestig ac mae mwy na 360,000 yn dioddef o ymosodiadau rhywiol. Er bod trais yn erbyn menywod yn anghymesur o uchel, gall trais a chamdriniaeth effeithio ar unrhyw un.
I gael rhagor o wybodaeth am Ymgyrch y Rhuban Gwyn neu i gofrestru fel cennad ewch i www.whiteribboncampaign.co.uk
Os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei nabod yn dioddef o gam-drin domestig gallwch geisio cymorth a help drwy linell gymorth Byw Heb Ofn: 0808 80 10 800 (llinell gymorth 24 awr gyfrinachol am ddim) www.livefearfree.gov.wales