Galwyd ar yr Eisteddfod Genedlaethol i ddod i’r brifddinas unwaith bob pum mlynedd.
Mae arweinydd Cyngor
Caerdydd yn annog y trefnwyr i wneud y ddinas yn lleoliad rheolaidd i’r
Eisteddfod yn dilyn wythnos ‘hynod’ ym Mae Caerdydd.
Dywedodd y Cynghorydd
Thomas: “Bu hon yn Eisteddfod hynod yng Nghaerdydd, hoffwn i ddweud ar gofnod
fy mod yn llawn diolch ac edmygedd at dîm yr Eisteddfod, gyda chymorth swyddogion y Cyngor a helpodd i gynnal y
digwyddiad. Yn syml, ni fyddai wedi digwydd heb eu gwaith caled a’u
hymroddiad.
"Yn
wir i chi, mae’n debyg mai hon ydy’r Eisteddfod orau rwy’n cofio
i mi fynd iddi erioed, ond mae’n bosib fy mod i’n dangos tuedd cofiwch!
“Yr
hyn sy’n sicr yn wir ydy bod Eisteddfod eleni wedi croesawu cynulleidfa newydd
ac atynnu torf amrywiol iawn.
“Rwy’n
credu ei bod yn addas nawr i ni gymryd y cyfle i drafod y posibilrwydd o ddod
â’r Eisteddfod i Gaerdydd yn fwy rheolaidd, bob rhyw bum mlynedd er
enghraifft.
“Mae
eleni wedi rhoi man cychwyn i ni ddatblygu ohono, ac rwy’n awyddus i sicrhau
ein bod ni’n gwneud hynny, gan weithio â’n partneriaid yn
yr Eisteddfod."
Dychwelodd yr Eisteddfod
Genedlaethol i Gaerdydd eleni, ddegawd wedi’r tro diwethaf a chroesawodd
dorfeydd yn ei safle ym Mae Caerdydd rhwng 3 a 11 Awst.
Roedd mynediad
i’r Maes am ddim ac roedd y digwyddiadau a’r cystadlu mewn amryw o
leoliadau amlwg y Bae yn hytrach nag ym mhabell y Pafiliwn ac mewn cae fel
yr arfer; cafodd ymwelwyr fwynhau’r digwyddiadau lu bob
dydd.
Ychwanegodd y Cyng.
Thomas: “Bu i’r ffaith nad oedd ffiniau’n amgáu Eisteddfod eleni helpu i greu
gŵyl agored, gynhwysol a chroesawgar i bawb, yn debyg i Gaerdydd ei hun. Roedd
yn wych bod yn rhan ohoni ac rwy’n gobeithio y gallwn fynd ymlaen i adeiladu ar
y digwyddiad rhagorol hwn.”