Back
Diwedd tymor, diwedd cyfnod: Ymddeoliad pum pennaeth hirhoedlog

Wrth i'r gatiau gau ar gyfer gwyliau'r haf eleni, bydd pump o benaethiaid hirhoedlog Caerdydd yn gadael eu hysgolion am y tro olaf. 

Mae Huw Jones-Williams o Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd, Julie Morris MBE o Ysgol Gynradd Severn, Colin Skinner, Ysgol Gynradd Parc y Rhath, Paul Catris, Ysgol Gynradd Gatholig Padrig Sant a Janet Comrie, Meithrinfa Grangetown, oll yn ymddeol eleni.Gyda'i gilydd yn ystod eu gyrfaoedd addysgu maen nhw wedi gwasanaethu mewn ysgolion yng Nghaerdydd am dros 100 mlynedd rhyngddynt. 

Dywedodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry:"Rwyf am ddiolch i'r pum pennaeth am y gwasanaeth y maen nhw wedi eu rhoi i addysg yn y ddinas.Rwyf wedi cael y pleser o gwrdd â llawer o benaethiaid dros y blynyddoedd, gan eu cynnwys nhw, ac er bod y swydd yn dod â'i heriau, gallwch weld hefyd ei fod yn hynod werth chweil, felly ni allai'r penderfyniad i gamu lawr fod wedi bod yn un hawdd i ddod iddo.Rwy'n dymuno'r gorau iddynt, ac ymddeoliad hir a hapus." 

Mr Huw Jones-Williams, Pennaeth Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd

"Mae'r ychydig wythnosau diwethaf wedi teimlo'n eithaf swreal, wrth edrych o gwmpas ar y wynebau a'r llefydd yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd sydd wedi bod mor agos i ‘nghalon.Mae fy nghysylltiad â, a fy nghariad at ysgol sydd mor unigryw ac arbennig wedi bod yn fyr hwyrach o'i gymharu ag eraill.Gyda nhw, rwy'n teimlo cyfoeth o falchder a chred ym mhopeth y saif yr ysgol drosti. 

"Rwy'n dymuno'r gorau i fy olynydd, Mark Powell, ac yn gwybod y bydd Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd o dan ei arweiniad profiadol yn parhau i ddatblygu a llewyrchu er budd pob un myfyriwr ac er budd pawb." 

Yn ogystal â bod yn bennaeth ar Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd o 2008 i 2018, bu Huw yn bennaeth ar Ysgol Uwchradd Fitzalan o 2005-2008, ac yn ddirprwy bennaeth ar Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd o 2001 i 2005. Mae'n gyn-gadeirydd ar Gynhadledd Penaethiaid Uwchradd Caerdydd. 

Dywedodd Cadeirydd y Llywodraethwyr, Joyce Slack:"Mae Mr Huw Jones-Williams yn ymddeol fel Pennaeth Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd wedi deng mlynedd o wasanaeth hynod yn y swydd.Mae Huw wastad wedi bod â'i feddwl ar y myfyriwr unigol, gan sicrhau bod yr holl gyfleon angenrheidiol ganddynt i ddysgu a chyflawni yn ystod eu hamser yn yr ysgol. 

"Ar ran yr holl Lywodraethwyr, rwyf am fynegi fy niolch mawr am bopeth mae Huw wedi ei wneud.Mae'n gadael yr ysgol mewn lle da ar ei thaith i ddod yn ysgol ‘ragorol'."  

Mrs Julie Morris MBE, Pennaeth Ysgol Gynradd Severn

"Rwy'n ymddeol wedi 32 o flynyddoedd hapus yn yr ysgol hyfryd hon.Dechreuais weithio yn Ysgol Fabanod Severn a 10 mlynedd yn ôl roeddwn yn falch o gael dod yn Bennaeth ar yr Ysgol Gynradd Severn unedig.Mae wedi bod yn fraint o'r mwyaf i weithio gyda thîm o staff a llywodraethwyr mor ymroddgar a phlant a theuluoedd hyfryd.Gyda'n gilydd rydym wedi creu yr ysgol Severn ragorol sydd gennym heddiw.Roedd derbyn yr MBE yn ddiweddar ar gyfer fy ngwasanaeth i Addysg yn benllanw hynod ar fy ngyrfa addysgu.Mae Ysgol Gynradd Severn yn ysgol hynod arbennig a fydd o hyd â lle yn fy nghalon." 

Mae Mrs Judith Allen, Dirprwy Bennaeth Ysgol Gynradd Severn hefyd yn ymddeol eleni. 

Dywedodd Sarah Paxton, Cadeirydd y Llywodraethwyr:"Wedi gyrfa hir a nodedig yn addysgu,

mae'r Pennaeth Julie Morris MBE, a'r Dirprwy bennaeth Judith Allen ill dwy yn ymddeol.Dymuna llywodraethwyr a staff Ysgol Gynradd Severn fachu ar y cyfle i ddymuno'n dda iddynt am eu cyfraniad aruthrol i addysg dros y blynyddoedd, gan gynnwys uno ysgol y babanod a'r ysgol iau yn 2008, ac archwiliad Estyn "rhagorol", ac i ddymuno ymddeoliad hapus ac iachus i'r ddwy ohonynt.Edrychwn ymlaen i groesawu Nick Wilson a fydd yn  cydio yn yr awenau fel Pennaeth ym mis Medi 2018." 

Mrs Janet Comrie, Pennaeth Ysgol Gynradd Grangetown

"Ers 2005 mae dwy fil a hanner cant o blant a'u teuluoedd wedi cyffwrdd yn fy mywyd, cymaint o wynebau ac enwau a chymaint o ddagrau, crafiadau ar bengliniau, codymau, chwerthin a hapusrwydd.Mae ein teuluoedd yn rhoi cymaint o ymddiriedaeth ynom ac rwyf wedi fy llorio gan y gefnogaeth a dderbyniais gan y gymuned dros y blynyddoedd. 

"Mae cymaint  o atgofion hapus gennyf i'w cludo gyda mi a byddaf o hyd yn edrych ar fy amser yn Grangetown fel cyfnod hapusaf fy ngyrfa dros 30 mlynedd.Wrth i mi ddechrau ar y bennod nesaf, sydd yn peri peth dychryn mae'n rhaid dweud, byddaf yn dal Grangetown yn agos iawn i ‘nghalon.Mae'n le arbennig i weithio ac rwy'n dymuno'r gorau i'r dyfodol i bawb sydd yn gysylltiedig ag Ysgol Gynradd Grangetown a diolch am fy nghael i yma!" 

Arweiniodd Janet Ysgol Feithrin Grangetown i ddod yn Ganolfan Ragoriaeth.Cyn hynny, roedd Janet yn dal swydd Athrawes Ymgynghorol ar gyfer y Cyfnod Sylfaen yng Nghaerdydd.Bu ganddi swyddi addysgu blaenorol yn Ysgol Ysgol Gynradd Lakeside ac Ysgol y Babanod Gladstone.Yn fwy diweddar, datblygodd Janet y Ganolfan Gyrraedd, adnodd cymunedol gwerthfawr yn cynnig ystod o wasanaethau i blant a'u teuluoedd. 

Dywedodd Cadeirydd y Llywodraethwyr, y Cyng. Lynda Thorne:"Mae Jan yn angerddol dros y blynyddoedd cynnar a chynnig y dechrau gorau posib i daith addysgol plentyn.Trwy gydol ei gyrfa, mae wedi rhannu ei harbenigedd yn eang, yn fwyaf diweddar yn arwain hyfforddiant i ysgolion o fewn Consortiwm Canolbarth y De. 

"Mae Jan wedi parhau i weithredu fel lladmerydd y dysgwyr ifancaf yng Nghaerdydd, fyth yn colli golwg ar ei chred fod plant yn ddysgu orau trwy archwilio a chwarae.Bydd ei chyfraniad i fyd addysg wir yn cael ei golli, yn bersonol a phroffesiynol, gan y llu sydd wedi gweithio gyda hi." 

Mr Colin Skinner, Pennaeth Ysgol Gynradd Parc y Rhath

"Mae wedi bod yn fraint i mi gael bod yn Bennaeth ar Ysgol Parc y Rhath dros y pedair mlynedd ar ddeg diwethaf.Un o gryfderau mawr yr ysgol yw bod teuluoedd yn dod o bob cwr o'r byd i fyw yma yn y Rhath ac maen nhw yn cyd-dynnu cystal ac mor gefnogol o'i gilydd. 

"Byddaf yn bendant yn gweld eisiau yr holl blant sydd mor anhygoel a'r holl staff sydd yn gweithio mor galed dros bob plentyn yn yr ysgol.Wedi 38 a hanner o flynyddoedd mae'n bryd i mi fynd.Dymunaf bob llwyddiant i'r dyfodol i'm holynydd, Jonathan Keohane - mae am gael amser ffantastig." 

Wedi ei eni yn Aberhonddu, dechreuodd Colin ei yrfa addysgol fel athro Ymarfer Corff a Saesneg yn Llundain.

Symudodd i Gaerdydd fel uwch athro yn Ysgol Gynradd Kitchener ym 1990. Ym 1994 daeth yn ddirprwy bennaeth ar Ysgol Gynradd Bryn Celyn, ac yn brifathro yn ddiweddarach.Mae Colin wedi bod yn bennaeth ar Ysgol Gynradd Parc y Rhath ers 2004. 

Dywedodd Cadeirydd y Llywodraethwyr, y Cyng. Sue Lent:"Yn ystod y 5 mlynedd fel Cadeirydd Llywodraethwyr Parc y Rhath mae Colin wedi bod yn rhwydd i weithio gydag e.Mae'n bennaeth brwdfrydig ac ymroddedig sydd yn cefnogi ei staff yn dda.Mae'n gofalu'n wirioneddol dros y plant ac mae hefyd yn boblogaidd ymhlith rhieni am ei fod yn un sy'n rhwydd siarad ag ef.Mae Ysgol Parc y Rhath yn ysgol hapus a byddwn yn gweld eisiau Colin yn fawr." 

Cynhaliwyd Dawns Haf ymddeol Ysgol Gynradd Parc y Rhath yng Ngerddi Sophia, oherwydd nid dim ond Colin sy'n ymddeol, ond hefyd mae Mary Willicombe, swyddog gweinyddol yr ysgol, hefyd yn ymddeol wedi 28 o flynyddoedd o wasanaeth.Cododd y digwyddiad £8,500 i Hosbis Plant Tŷ Hafan. 

Mr Paul Catris, Pennaeth Ysgol Gynradd Gatholig Padrig Sant

Mae'r 38 o flynyddoedd diwethaf wedi bod mor gofiadwy, fel athro dosbarth a phennaeth Ysgol Padrig Sant.Byddaf o hyd yn gwerthfawrogi a bydd lle arbennig yn fy nghalon ar gyfer y plant a addysgwyd, y cydweithwyr a'r cyfeillgarwch a ddatblygwyd.Rwy'n ddiolchgar am gariad a chymorth yr ysgol a chymunedau'r plwyf, ac i'm gwraig, Kathryn, am ei hamynedd a'i dealltwriaeth dros y blynyddoedd." 

Dechreuodd Paul yn Ysgol Padrig Sant wedi cymhwyso fel athro ym 1980. Daeth yn Bennaeth ar yr ysgol 18 mlynedd yn ôl. 

Dywedodd Cadeirydd y llywodraethwyr, Peter Collett: "Does dim yn bwysicach i Paul nac addysg a lles y plant yn Padrig Sant a gellir gweld hynny pa bryd bynnag yr ewch i'r ysgol a gweld y cariad gwirioneddol a'r parch gan y staff a'r disgyblion fel ei gilydd.Mae ymddeoliad Paul yn amser y bûm yn ei ofni.Mae'n cymaint rhan o wead yr ysgol a chymuned Grangetown a bydd yn cael ei golli. Ond, wedi 38 mlynedd o wasanaeth ffantastig, mae'n llawn haeddu ei ymddeoliad."