Back
Disgyblion chweched dosbarth ysgolion Caerdydd i gael profiad o fywyd ym Mhrifysgol Yale

Mae pump o'r 17 disgybl chweched dosbarth ledled Cymru sydd wedi cael lle mewn gwersyll ysgol yr haf ym Mhrifysgol Yale eleni yn dod o ysgolion Caerdydd. 

Mae Yousef Bakshi, 16 oed o Ysgol Uwchradd Fitzalan, Rianna Man o Ysgol Gyfun Radur, Carys Bill a Rhys Morris o Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr a Maya Hoffer o Ysgol Uwchradd Caerdydd, i gyd yn 17 oed, wedi cael eu dewis i gael blas ar fywyd yn y brifysgol o'r Ivy League. 

Yousef Bakshi, disgybl yn chweched dosbarth Ysgol Uwchradd Fitzalan, a Carys Bill, disgybl yn Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr oedd y cyntaf o blith disgyblion Caerdydd i fynychu ysgol yr haf. 

Wrth ddisgrifio'r profiad, dywedodd Carys: "Rwyf wedi elwa cymaint mewn cyn lleied o amser. Roeddwn wedi cael pythefnos orau fy mywyd ac rwy'n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi gwneud y cyfle hwn yn bosibl. Cefais fy ysgogi gan yr academyddion, ac roeddwn wedi cael cyfle i ymgysylltu â llawer o bobl arbennig." 

Ychwanegodd Yousef: "Roedd mynd i'r ysgol haf yn Yale yn un o brofiadau gorau fy mywyd. Rwyf yn bendant am astudio yn America ar ôl y profiad hwn; rwy'n credu bod y system hon yn addas iawn i mi." 

Roedd pob un o'r pum myfyriwr wedi cymryd rhan yn y broses ddethol ar gyfer y rhaglen Ysgolheigion Byd-eang Ifanc Yale yn sgil y cysylltiadau a luniwyd gan y Rhwydwaith Seren, sef menter Cymru gyfan Llywodraeth Cymru i annog mwy o ddisgyblion chweched dosbarth i ymgeisio am lefydd mewn prifysgolion blaenllaw. 

Mae'r gystadleuaeth am le ar raglen Ysgolheigion Byd-eang Ifanc Yale yn ffyrnig, ac ond tua chwarter o'r holl geisiadau bob blwyddyn sy'n llwyddiannus. 

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae'r lleoedd yn yr ysgol haf yn boblogaidd dros ben, felly'n mae'n wych bod pum disgybl o Gaerdydd wedi cael eu dewis eleni. Mae hefyd yn dangos y ddawn arbennig sydd gennym yn y brifddinas. 

"Nod Rhwydwaith Seren yw annog pobl ifanc yng Nghymru i gael hyder yn eu hunain i ymgeisio am brifysgolion blaenllaw, nid dim ond yn y DU, ond ym mhob rhan o'r byd. Felly rwy'n gobeithio y bydd ein pum disgybl sy'n cael profiad o Yale yr haf hwn yn ysbrydoli ein holl blant a phobl ifanc, gan roi'r hyder iddynt wireddu eu potensial yn llawn." 

Gan ymuno â thros 600 o ddisgyblion llwyddiannus eraill ledled y byd, bydd y pump o Gaerdydd yn aros ar gampws y brifysgol drwy gydol yr haf. Byddant yn cael eu haddysgu gan athrawon ac ymarferwyr byd enwog, ac yn cael profiad o raglen academaidd lym iawn yn y coleg yn New Haven, Connecticut. 

Bydd y rhaglen yn cynnwys amrywiaeth o ddisgyblaethau, gan gynnwys: gwyddoniaeth gymhwysol a pheirianneg; diogelwch a materion rhyngwladol; datblygu cynaliadwy ac entrepreneuriaeth gymdeithasol; gwyddoniaeth fiolegol a biofeddygol; a gwleidyddiaeth, y gyfraith ac economeg. 

Caiff Rhwydwaith Seren Llywodraeth Cymru ei gyflawni gan awdurdodau lleol drwy 10 hyb ledled Cymru.