Mae Cyfleuster Adfer Ynni Parc Trident Viridor a Chyngor Caerdydd yn helpu disgyblion mewn 98 ysgol gynradd yng Nghaerdydd i ddysgu am ddiogelu bywyd gwyllt y môr drwy atal plastigau rhag cyrraedd ein moroedd.
Mae'r tîm addysg ym Mharc Trident yn noddi copïau o'r ddau lyfr - "Dihangfa Lwcus Duffy" a "Marli's Tangled Tale", gan Ellie Jackson â darluniadau gan Liz Oldmeadow a Laura Callwood.
Mae'r llyfr yn sôn am stori Duffy (crwban y môr) a Marli (pwffin) sy'n cymryd y plastigau a'r balŵns maen nhw'n dod ar eu traws yn eu cynefin naturiol am fwyd ac yn mynd yn sâl iawn.Yn ffodus, mae Duffy a Marli yn cael eu hachub a'u nyrsio'n iach unwaith eto, ond mae'r straeon a'r darluniadau'n addysgu plant mewn modd sensitif ar yr angen i ystyried i le mae eu sbwriel yn mynd.
Dywedodd Emma Wood, Swyddog Canolfan Addysg Dros Do Parc Trident Viridor:"Pan ddaw ysgolion i ymweld â'r ganolfan, rydym yn rhoi pwyslais ar atgoffa plant o'r hyn y gellir ei ailgylchu fel y gall teuluoedd lleol wneud y gorau o gyfleoedd ailgylchu. Mae ein neges yn glir. Rydym yn gofyn i bawb roi'r Sbwriel Cywir yn y Bin Cywir.
"Yna, mae'r plant hefyd yn gweld y ceir diben i'r gwastraff na ellir ei ailgylchu a sut y mae hyn yn trawsnewid yn ynni adnewyddadwy.
"Mae'r ymweliadau addysgol hyn yn bwysig dros ben oherwydd gwyddom fod plant yn mynd â'r gwersi hyn adref, a gall plant ddylanwadu ar aelodau eraill eu haelwyd i ailgylchu sbwriel y cartref.
"Mae'r llyfrau rydym yn eu noddi yn rhan o bwysleisio'r neges hon ac mae'n braf bod y plant yn dysgu mwy am bwffinod a chrwbanod y môr ar yr un pryd.Mae annog diddordeb mewn natur, y byd o'n cwmpas a'r effaith rydym yn ei chael arno yn bwysig iawn."
Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd:"Rwy'n credu bod llyfrau fel y rhain yn ffordd ardderchog o drosglwyddo'r neges am y broblem fyd-eang o blastigau yn y môr.Fel Cyngor, rydym yn cydnabod y gall plastigau defnydd untro greu gwastraff diangen gan effeithio'n negyddol ar ein cymunedau a'n hamgylchedd.Mae gan Gaerdydd y record ailgylchu orau o blith 10 dinas graidd y DU, ond mae ail-ddefnyddio plastigau bob tro'n well nag ailgylchu neu gael gwared ar blastigau gan fod angen llai o ynni ar hynny ac mae'n creu llai o wastraff.Dyna pam y byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid fel ‘No Straw Stand' i helpu i hyrwyddo'r awydd i symud i ffwrdd o blastigau defnydd untro."
Dywed Ellie Jackson, yr awdur o'r DU sy'n athrawes ac yn fam ar bedwar, fod eu llyfrau'n tynnu sylw at "y berthynas rhwng bodau dynol a bywyd gwyllt" ac yn "gwahodd plant ac oedolion hefyd i gwestiynu'r effaith y mae llygredd plastig yn ei chael ar ein hamgylchedd".
Mae'r llyfrau yn rhoi ffeithiau hwyl i blant am fywyd gwyllt, ond mae hefyd yn eu herio nhw a'u teuluoedd i wneud eu rhan drwy ailgylchu cymaint â phosibl yn y cartref, cymryd rhan mewn ymgyrchoedd glanhau'r traeth, rhoi gwybod am anifeiliaid gwyllt sydd wedi'u hanafu i elusennau a milfeddygon ynghyd â lledaenu'r neges am y bygythiad i fywyd gwyllt.
Dywedodd Ellie ei bod hi wastad wedi eisiau cyfieithu eu llyfrau i gynifer o ieithoedd â phosibl oherwydd natur fyd-eang y broblem o blastigau yn y môr, fel y gall plant dros y byd i gyd ddeall y neges, a doedd ganddi ddim syniad mai'r Gymraeg fyddai'r un gyntaf.
"Pan gynigiodd Marten Lewis o'r Ganolfan Darwin yn Sir Benfro i drefnu cyfieithiad Cymraeg i'r llyfrau, roeddwn wrth fy modd. Dyma lyfr y gall plant ei ddarllen yn iaith eu diwylliant sy'n gwneud neges y llyfr hyd yn oed yn fwy pwerus.Diolch i syniadau ac ysbrydoliaeth y Ganolfan Darwin, mae'r llyfrau erbyn hyn yn cael eu cyfieithu i nifer o ieithoedd eraill, gan gynnwys Swahili drwy eu cysylltiadau ag elusennau crwbanod y môr yng Nghenia."
Mae plant o amgylch y DU bellach yn defnyddio'r llyfrau fel ysbrydoliaeth i gymryd camau fel trefnu eu hymgyrchoedd glanhau'r traeth neu gasglu sbwriel eu hunain, ysgrifennu at lywodraeth a busnesau lleol yn gofyn iddynt feddwl am eu defnydd o blastigau defnydd untro megis gwellt, trefnu ailgylchu yn yr ysgol ac yn y cartref a gweithio tuag at ddod yn Eco-Sgolion ac Ysgolion Heb Blastigau.
Mae Ellie yn gofyn i gymuned gyfan Caerdydd gefnogi ymdrechion y plant drwy wneud newidiadau bach yn eu bywydau eu hunain a fydd, ar y cyd, yn gwneud gwahaniaeth mawr i'n hamgylchedd.