Mae'r cynlluniau i ehangu ac addasu darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol yng Nghaerdydd cam yn nes erbyn hyn gan na chodwyd unrhyw bryderon yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus na'r cyfnod hysbysiadau statudol.
Er mwyn bodloni'r cynnydd disgwyliedig o ran galw, mae amrywiaeth o gynlluniau wedi'u cyflwyno, yn ychwanegol at gynlluniau ar wahân i ddatblygu darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol, sy'n rhan o Raglen Addysg ac Ysgolion 21ainGanrif Band B y Cyngor.
Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd bellach yn ystyried adroddiad ar y cyfnod hysbysiadau statudol pan fydd yn cyfarfod ddydd Iau nesaf, 5 Mehefin.
Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd yn gynharach yn y flwyddyn, cafodd yr hysbysiadau statudol eu cyhoeddi ar gyfer y saith cynllun canlynol, cymysgedd o ysgolion arbenigol a chanolfannau adnoddau arbenigol mewn ysgolion prif ffrwd:
Ysgol Arbennig Tŷ Gwyn
Ysgol Greenhill
Ysgol Arbennig Meadowbank
Ysgol Gynradd Allensbank
Ysgol yr Eglwys yng Nghymru y Forwyn Fair
Ysgol Pwll Coch
Ysgol Glantaf
Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry wrth sôn am y cynigion>"Mae twf sylweddol wedi bod yn nifer y bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yng Nghaerdydd ers 2012, gan fod twf wedi bod ym mhoblogaeth y ddinas. Mae disgwyl i'r duedd hon barhau yn ystod y pump i ddeng mlynedd nesaf, ac felly mae'n hynod o bwysig ein bod yn cyflwyno'r cynlluniau hyn, gan gyflwyno darpariaeth ychwanegol dan raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Band B yn dilyn hynny.
"Ein nod yw annog cynifer o blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol â phosibl i fynd i'w hysgol leol, ac mae mwy na 90 y cant yn defnyddio addysg prif ffrwd.Ar gyfer y rhai hynny ag anghenion mwy cymhleth, rydym wedi ariannu 103 o leoedd ysgol arbennig a chanolfan adnoddau arbenigol yng Nghaerdydd dros y pum mlynedd diwethaf.
"Drwy'r cynlluniau arfaethedig hyn, a thrwy gam nesaf ein rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, byddwn yn ehangu llawer ar y ddarpariaeth hon."
Gellir gweld copi o adroddiad y Cabinet ar-lein yn www.caerdydd.gov.uk
Gallwch ddarllen mwy am y cynigion ADY ar wahân dan Fand B yma: Cynigion Band B i ddatblygu darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol
I gael mwy o wybodaeth ar holl gynigionYsgolion yr 21ainGanrifBand B, cliciwch yma: Rhaglen Ysgolion yr 21ainGanrif Band B