Back
Anrhydeddu Meirwon Rhyfel Grangetown
Anrhydeddwyd dros 140 o ddynion a merched o Grangetown ganrif ar ôl iddynt golli eu bywydau’n y Rhyfel Mawr. 

Canfu ymchwil gan Gymdeithas Hanes Lleol Grangetown nad ychwanegwyd nifer o enwau pobl o’r ardal at y gofeb pan y’i codwyd gyntaf ar ddechrau'r 1920au.

Mewn partneriaeth â Mossfords Ltd ychwanegwyd plac efydd er cof ar y sawl ‘nas cofnodir eu henwau yma’ i’r gofeb ryfel restredig Gradd 2 yng Ngerddi’r Faenor i gofio’r aberth.

Dywedodd yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am y Gwasanaethau Profedigaeth, y Cyng. Michael Michael:  “Dylid cofio’r aberth gan y sawl a fu frwydro ac a fu farw ar ein rhan am byth.  Mae’r plac hwn yn sicrhau, yn y flwyddyn ganmlwyddiant hon, fod pawb o Grangetown a gollodd ei fywyd i wasanaethu’n cael ei anrhydeddu yn y fan a alwent iddynt yn gartref.”

Codwyd y gofeb wreiddiol yn defnyddio arian a godwyd drwy danysgrifiadau gwirfoddol gan “Bwyllgor Coffa Arwyr Rhyfel Grangetown” ac fe’i dyluniwyd gan Henry Charles Fehr (1867-1940) a ddyluniodd ddraig Neuadd y Ddinas hefyd.