Back
Landlord yn cael dirwy ar ôl methu â chofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru

Mae Mr Keith Trickett o'r Rhodfa yn y Barri wedi cael dirwy o £750 a'i orchymyn i dalu costau llys o £607 a thâl dioddefwr o £30 ar ôl ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd am fethu â chofrestru a gwneud cais am drwydded landlord gyda Rhentu Doeth Cymru. 

Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 yn gofyn bod landlordiaid yn cofrestru eu hunain a'u heiddo ar gronfa ddata Rhentu Doeth Cymru. Rhaid i landlordiaid sy'n rheoli eu hunain wneud cais am drwydded hefyd. 

Er i Rhentu Doeth Cymru gysylltu ag ef, methodd Mr Trickett â chwblhau'r broses o gofrestru fel landlord a methodd â chofrestru ei eiddo rhent yn Y Tyllgoed, Caerdydd.  

Dywedodd Aelod Cabinet Tai a Chymunedau Cyngor Caerdydd, yr awdurdod trwyddedu sengl dros Rentu Doeth Cymru,  y Cyng. Lynda Thorne: "Mae'r rhan fwyaf o landlordiaid yn sylweddoli pwysigrwydd gweithio gyda Rhentu Doeth Cymru i sicrhau eu bod yn cydymffurfio'n llawn â'r ddeddfwriaeth." 

"Fodd bynnag, mae sawl person yn dal i feddwl eu bod uwchlaw'r gyfraith, ond mae'r camau cyfreithiol hyn yn anfon neges glir bod goblygiadau difrifol ynghlwm wrth y math hwn o ymddygiad." 

"Y peth trist yw y gellid bod wedi osgoi hyn yn hawdd. Byddwn yn annog unrhyw landlordiaid heb eu cofrestru neu landlordiaid sydd ag eiddo heb ei gofrestru i gysylltu â Rhentu Doeth Cymru yn syth a gweithio gyda ni i sicrhau eu bod yn cydymffurfio'n llawn." 

Gellir cysylltu â Rhentu Doeth Cymru ar-lein yn www.rhentudoeth.llyw.cymru  neu drwy ffonio 03000 133344.