Back
Cân Wythnos Ffoaduriaid Ysgol Gynradd Allensbank yn dod i'r brig

Llongyfarchiadau i ddisgyblion Blwyddyn 3 ac athrawon Ysgol Gynradd Allensbank, enillwyr cystadleuaeth cân ysgol Wythnos Ffoaduriaid eleni. 

I nodi Wythnos Ffoaduriaid 2018, estynnodd y Cyngor wahoddiad i ysgolion Caerdydd  ysgrifennu, perfformio ac anfon fideo o'u cân yn dangos eu hethos croesawu. 

Roedd y gystadleuaeth yn ffyrnig a dywedodd y beirniaid:"Roedd yn wych gweld dysgwyr ifanc yn gafael ynddi gyda chymaint o frwdfrydedd dros y gystadleuaeth hon. 

"Mae'n dangos bod ganddyn nhw empathi mawr ac mae'n wych gweld dysgwyr ifanc yn dymuno gwneud gwahaniaeth a chreu amgylchedd croesawgar yn eu hysgolion - diolch i bawb!" 

Dywedodd Pennaeth Ysgol Gynradd Allensbank, Miss JennyDrogan:"Rydym wrth ein boddau fel ysgol o gael ein cydnabod fel enillwyr cystadleuaeth y gân.Mae'r gystadleuaeth yn ategu'r gwaith sy'n mynd rhagddo trwy'r ysgol mewn cysylltiad â'r Wythnos Ffoaduriaid yn wych ond hefyd cynnydd yr ysgol gyfan tuag at ennill dyfarniad Ysgol Noddfa.Ysgrifennodd disgyblion Blwyddyn 3 y geiriau eu hunain ac maen nhw'n hynod falch o'u llwyddiant.Hoffwn innau ddiolch iddyn nhw ac i'w hathrawon am eu gwaith caled." 

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry:"Llongyfarchiadau i'r holl blant ac athrawon am gymryd rhan wrth helpu i nodi Wythnos Ffoaduriaid mewn ffordd wych. 

"Da iawn chi, Ysgol Gynradd Allensbank. ‘Dw i'n edrych ymlaen yn arw at gael clywed y gân pan ddof i i'r ysgol nesaf." 

Gallwch glicio'r ddolen isod i weld cân fuddugol Blwyddyn 3 Ysgol Gynradd Allensbank eich hun: https://youtu.be/1WIhK6dRK_4