Back
Adroddiad Estyn yn rhoi hwb i ysgol gynradd yng Nghaerdydd

Mae Ysgol Gynradd Springwood yn Llanedern yn dathlu wedi i'r corff addysg, Estyn raddio'r ysgol fel un ai Rhagorol neu Da ym mhob maes a archwiliwyd - y graddau uchaf posib. 

Aeth Estyn i'r ysgol i weld sut roedd yn perfformio o ran : safonau; llesiant ac agweddau at ddysgu; addysgu a phrofiadau dysgu; gofal, cymorth ac arweiniad; ac arweiniad a rheolaeth. 

Roedd ei adroddiad yn cydnabod gofal, cymorth ac arweiniad yr ysgol, gan ddisgrifio'r ethos ledled yr ysgol fel un ‘hynod gryf'. 

Dywedodd Pennaeth Ysgol Gynradd Springwood, Mrs Pat Hoffer: "Mae cymaint o rannau o'r adroddiad hwn yr wy'n falch ohono, ond un o fy hoff linellau yng nghasgliad Estyn yw ‘un o gryfderau penodol yr ysgol yw'r modd y mae disgyblion yr ysgol yn dangos lefel uchel o garedigrwydd ac o fod yn ystyriol o'i gilydd." Mae'n gymeradwyaeth anferth o ran agwedd yr ysgol at gynhwysiant. 

"Dylai'r staff, rhieni, y gymuned leol ac, yn bennaf oll, y plant deimlo balchder dwfn wrth ddarllen yr adroddiad. Da iawn, tîm Springwood!" 

Canmolodd arolygwyr agwedd yr ysgol at gynhwysiant, gan dynnu sylw at yr effaith y mae'r ganolfan adnoddau awtistiaeth a chynhwysiant yn y dosbarth wedi ei gael. 

Canmolwyd yr ysgol gan Ddirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry, gan ddweud: "Mae adroddiad Estyn yn gydnabyddiaeth anhygoel o'r gwaith gwych mae pawb sydd ynghlwm a Springwood wedi ei wneud er mwyn sicrhau bod y plant yn derbyn y safon o addysg y maent yn eu haeddu. 

"Llongyfarchiadau i Mrs Hoffer, ei staff, y Corff Llywodraethu, rhieni, a'r plant yn enwedig, am greu ysgol garedig, ofalgar a chefnogol, lle gall pawb lwyddo. 

"Mewn blynyddoedd diweddar rydym wedi gweld gwelliant cryf a pharhaol mewn addysg yng Nghaerdydd, a hynny ar draws pob cyfnod allweddol. Mae adroddiad Estyn ar Ysgol Gynradd Springwood yn gadarnhad pellach o'r mesurau a gyflwynwyd gennym dros y pump neu chwe blynedd diwethaf, gan weithio gydag ysgolion i wella safonau'n sylweddol. 

Canfu Estyn gryfderau ledled addysgu, dysgu a safonau'r ysgol gan ddod i'r casgliad fod disgyblion ‘yn gwneud cynnydd da' ac ‘â chyrhaeddiad da wrth symud drwy'r ysgol'. 

Ychwanegodd Cadeirydd y Llywodraethwyr, y Cyng Joe Boyle: "Rydym yn falch o ganfyddiadau'r adroddiad hwn. Mae'n wobr am flynyddoedd o waith caled, gan roi tîm arweinyddiaeth cryf yn ei le a chanolbwyntio ar sgiliau ein staff addysgu rhagorol. 

"Rydym yn arbennig o hapus gyda'r canfyddiad ein bod yn ‘llwyddiannus iawn yn ateb anghenion emosiynol, iechyd a chymdeithasol y disgyblion.' Dyma waith pwysicaf unrhyw ysgol: i helpu i ddatblygu pobl ifanc hapus a chadarn."