Back
Arbenigwyr yn trafod y Weledigaeth ar gyfer dyfodol Bae Caerdydd

Cyrhaeddodd Ras Fôr Volvo y brifddinas y penwythnos hwn ar gyfer Cam Caerdydd, fydd yn para pythefnos. I nodi'r achlysur pwysig hwn, daeth arbenigwyr o'r DU ac Ewrop at ei gilydd heddiw i ystyried y weledigaeth ar gyfer dyfodol Bae Caerdydd.

Awdurdod Harbwr Caerdydd (AHC) ac Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Fuddsoddi a Datblygu, y Cynghorydd Russell Goodway, oedd wrth y llyw a'r pwnc trafod oedd gweledigaeth newydd y Cyngor ar gyfer cam datblygu nesaf Bae Caerdydd, fel atyniad arbennig o fewn y ddinas.

Rhannodd cynrychiolwyr blaenllaw o gymuned fusnes Caerdydd eu barn am y gwaith o ddatblygu'r Bae dros yr 20 mlynedd diwethaf gan awgrymu pa wersi y gellid eu dysgu gyda golwg ar gynllunio ar gyfer y dyfodol.

Wedi ei chynnal yng Ngwesty'r Exchange a Chanolfan Mileniwm Cymru, denodd y gynhadledd banel o arbenigwyr a soniodd am yr hyn yr oedden nhw'n ystyried yn gyfleoedd pwysig i ganolbwyntio arnyn nhw yn y dyfodol.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Cynghorydd Russell Goodway:"Mae'r gwaith sydd wedi ei wneud dros yr 20 mlynedd diwethaf i ailddatblygu Bae Caerdydd wedi creu cyswllt unwaith eto rhwng y ddinas a'r môr, wedi bod yn blatfform ar gyfer buddsoddi mewn masnach ac eiddo a rhoi diben newydd i'r Bae.

"Dros y cyfnod hwnnw, mae'r ardal wedi creu rhyw 20,000 o swyddi, 10,000 o gartrefi newydd ac 80 hectar o ofod gwyrdd, felly mae adfywio Bae Caerdydd yn sicr wedi bod yn llwyddiant.

"Fodd bynnag, mae'n bryd troi'n golygon nawr i gam nesaf ei ddatblygiad, ac fel mae ein Uchelgais Prifddinas yn ei ddweud, rydym yn llwyr ymrwymedig i greu gweledigaeth newydd ar gyfer Bae Caerdydd, fel cyrchfan hamdden ac adeiladu ar lwyddiant atyniadau sydd eisoes yma, yn ogystal â denu lleoliadau newydd a dod â datblygiadau adfywio eiconig i'r ardal.

"Bydd ein gweledigaeth ar gyfer Bae Caerdydd yn creu prif gyrchfan ymwelwyr Cymru - ar gyfer pobl leol; pobl o bob rhan o Gymru a'r DU, a phobl o bob cwr o'r byd."

Roedd yr uchafbwyntiau'n cynnwys:

-         Mike Lawley, Cadeirydd, Cooke & Arkwright;O Draethellau Lleidiog i Economi Ffyniannus:Y Persbectif o ran Eiddo

-         Callum Couper, Rheolwr Porthladd Porthladdoedd De Cymru, Associated British Ports;Dyfodol Porthladd Caerdydd

-         Gordon Young, Cerflunydd ac Artist Rhyngwladol Penigamp:Amharu ar y Ffordd yr Ydym yn Ystyried Mannau Glan Dŵr

 

Dywedodd yr Ymgynghorydd Twristiaeth, yr Athro Terry Stevens:"Mae'r syniad o fwrw ati i edrych i'r gorffennol i helpu i lywio'r dyfodol yn bwysig i bawb sydd â diddordeb yn nyfodol ein porthladdoedd a harbwrs ôl-ddiwydiannol.Mae'n hynod briodol felly bod Caerdydd, un o borthladdoedd amlycaf y byd ar un adeg, yn croesawu Ras Fôr Volvo ac yn defnyddio'r achlysur rhyngwladol hwn nid yn unig i ddathlu Blwyddyn y Môr yng Nghymru, ond hefyd i harneisio'r gwaith o ddod ag arbenigwyr o bob rhan o'r byd at ei gilydd i ddylanwadau ar y ffordd yr ydym yn meddwl am ddyfodol cyffrous Caerdydd a'r Bae."