Back
Cofeb Ryfel Radur ar ei gorau unwaith eto
Mae Cofeb Ryfel restredig Gradd 2 yn Radur ar ei gorau unwaith eto yn dilyn gwaith hanfodol i wella ei chyflwr.

Roedd Gwasanaethau Profedigaeth Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am y project a ariannwyd gan Cadw, yr Ymddiriedolaeth Cofebion Rhyfel a Chyngor Caerdydd.

Mossfords Ltd wnaeth y gwaith, gan gynnwys cael arbenigwyr i lanhau’r gwaith cerrig Portland drwy ddefnyddio dulliau traddodiadol, ail-bwyntio gan ddefnyddio morter calch er mwyn cyfateb â’r gwreiddiol, glanhau pob arysgrif, glanhau a chwyro’r cerfluniau efydd yn ogystal â glanhau ac atgyweirio’r llwybrau o gwmpas y gofeb.

Cafodd y gofeb, a godwyd yn 1921 yn wreiddiol, ei harysgrifio ag enwau 20 o Ddewrion y Rhyfel o Radur, ond ychwanegwyd 13 enw arall yn 1945 ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Michael Michael:“Mae 100 mlynedd wedi mynd heibio ond mae Cofeb Ryfel Radur yn parhau i fod yn gofeb deimladwy i’r rhai hynny a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

 “Mae cofebion a senotaffau Caerdydd yn cynnig lle pwysig i fyfyrio a chysylltu â’r gorffennol.  Maent yn galluogi pobl o bob oedran i ddysgu a chofio'r bobl hynny a fu farw yn y rhyfel ac mae'n hollbwysig ein bod yn sicrhau eu bod ar eu gorau.

 “Rwyf wrth fy modd gyda'r gwaith a wnaed ac rwy’n estyn fy niolch i'r sefydliadau hynny a helpodd i ariannu'r project hwn."

Dywedodd Frances Moreton, Cyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth Cofebion Rhyfel, “Mae cofebion rhyfel yn gysylltiad go iawn â’n gorffennol ac maen nhw’n creu cyswllt rhwng y rhai fu farw a’r genhedlaeth bresennol.Mae’n hollbwysig ein bod yn sicrhau bod ein holl gofebion rhyfel ar eu gorau ac mae’r elusen yn falch o gefnogi’r project hwn.Mae canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf yn gyfle gwych i gymunedau lleol ledled y wlad ddiogelu a chadw eu cofebion rhyfel.Os oes unrhyw sy’n gwybod am unrhyw gofebion rhyfel eraill y mae angen ein help arnynt, cysylltwch â ni.”

Os ydych angen rhagor o wybodaeth am gyllid sydd ar gael i gefnogi cofebion rhyfel, cysylltwch â’r Ymddiriedolaeth Cofebion Rhyfel ar 020 7233 7356 / 0300 123 0764, 07586 920 153 neu anfonwch e-bost at grants@warmemorials.org.  

Llun gan:  Mossfords Ltd