Mae Channel 4 wedi cyhoeddi bodcynnig Caerdydd i fod yn gartref i bencadlys newydd y darlledwrwedi cyrraedd y rhestr fer.
Mewn ymateb i'r newyddion heddiw, dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd a Chadeirydd cynnig Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas:"Mae'n bleser gennyf glywed y cyhoeddiad heddiw gan Channel 4 fod cynnig Caerdydd wedi cyrraedd y cam nesaf tuag at fod yn gartref i'r Pencadlys Cenedlaethol newydd a'r Uned Gynhyrchu Ddigidol.
"Mae cystadleuaeth fawr ond mae ein cynnig yn eithriadol o gryf yn sgil ei ddatblygu ar y cyd â'n diwydiant creadigol lleol. Mae diwylliant, creadigrwydd ac arloesi yn ganolog i daith Caerdydd wrth iddi ddod yn un o ganolfannau creadigol gorau'r DU ac wrth iddi ddatblygu un o'r sectorau creadigol mwyaf y tu allan i Lundain.
"Mae twf ac adfywiad Caerdydd yn ymateb i anghenion y sector hwnnw, gan ddod ag adeiladau unigryw i ganol y ddinas yng nghyffiniau canolfan drafnidiaeth newydd a fydd yn cysylltu talent yma â gweddill y DU.
"Yn ogystal â bod yn gartref i ddarlledwyr mwyaf y genedl, mae gan Brifddinas Cymru sin annibynnol gref sy'n darparu ar gyfer y DU.Mae ein cynnig yn fwy na chynnig adleoli, cynnig yw hwn i ffurfio partneriaeth hirhoedlog gyda dinas sydd â'r un uchelgeisiau creadigol â Channel 4. Mae 70,000 o fyfyrwyr prifysgol yn byw yng Nghaerdydd ac mae dros draean o drigolion y ddinas yn iau na 24 oed, felly mae potensial creadigol y ddinas yn sylweddol.
"Mae'r ddinas wedi ymrwymo i dwf cynhwysol, ac fel Channel 4, rydym ni eisiau rhoi cyfle i bawb ac ysbrydoli newid ar gyfer pob un o genhedloedd a rhanbarthau'r DU.
"Mae pawb sydd wedi cyfrannu at y cynnig i ddenu Pencadlys Cenedlaethol Channel 4 a'i Huned Gynhyrchu Ddigidol yn edrych ymlaen at gam nesaf y broses erbyn hyn, ac at groesawu Channel 4 i Gaerdydd i gyflwyno manylion ein cynnig unigryw."
Mae cynnig Caerdydd - Caerdydd i Bawb - yn tynnu sylw at:
Yn rhan o gam nesaf y broses ddethol, mae tîm o Channel 4 yn bwriadu ymweld â'r ardaloedd sydd ar y rhestr fer tua diwedd mis Mehefin. Bydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud fis Hydref.