Back
Grangetown Werddach yn ennill Gwobr Peirianneg Project
Mae Grangetown Werddach wedi ennill Gwobr Peirianneg Project 2018 yng Ngwobrau Diwydiant Dŵr y DU, a gynhaliwyd yn Birmingham wythnos diwethaf.

Mae'r project arloesol hwn, sef y tro cyntaf i dechnoleg hon gael ei defnyddio fel hyn yn y DU, yn dal, glanhau ac atgyfeirio dros 40,000 metr sgwâr o ddŵr glaw ffo i Afon Taf, yn hytrach na'i bwmpio dros wyth cilometr drwy Fro Morgannwg i gael ei drin, cyn ei bwmpio i'r môr.

Mae'r cynllun yn casglu dŵr wyneb o doeon a ffyrdd o ddeuddeg stryd breswyl yn Grangetown, gan ei sianelu a'i hidlo dros 100 o erddi glaw cyn ei ddraenio i Afon Taf.

Mae planhigion a choed yn amsugno'r dŵr mewn gerddi glaw, a chaiff y dŵr ei hidlo drwy'r pridd a'r gwreiddiau sy'n dal ac yn torri lawr ar y llygryddion.

Dewiswyd mathau penodol o goed a phlanhigion, sy'n bennaf yn rhai brodorol i Gymru a'r DU, i fodloni nifer o feini prawf.Maen nhw'n wydn, nid oes angen llawer o gynnal arnynt, maen nhw'n ymwrthod â llygryddion ac yn gallu addasu i dywydd sych a gwlyb iawn.

Mae Grangetown Werddach yn gydfenter gan Gyngor Caerdydd, Dŵr Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Arup, ERH Communications a Civil Engineering Ltd gyda chymorth ariannol ychwanegol gan y Gronfa Cymunedau Tirlenwi.

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân ac Ailgylchu:"Mae hwn yn broject arloesol sy'n haeddu'r wobr anrhydeddus hon.

"Ymddengys nad ydy llawer o bobl eto'n deall beth yw pwrpas cynllun Grangetown Werddach.Yn ogystal â defnyddio technoleg arloesol i waredu dŵr glaw o'n systemau carthffos, mae'r cynllun wedi harddu'r ardal.Plannwyd 130 o goed newydd, yn ogystal â 1,700 metr sgwâr o fan gwyrdd newydd.Mewn amser, bydd y planhigion a'r coed yn tyfu a lledaenu a bydd Grangetown yn wyrddach fyth.

"Mae Taff Embankment, sydd hefyd yn rhan o'r cynllun, hefyd yn rhan o Daith Taf ac rydym bellach yn cwblhau hyn fel stryd blaenoriaeth i feiciau a fydd dros 500 metr o hyd, yn cysylltu Bae Caerdydd â chanol y ddinas.Yn ogystal â'r fenter hon, gwnaed gwelliannau hefyd i ddiogelwch cerbydau, cerddwyr a beicwyr mewn 14 cyffordd sy'n rhan o'r cynllun.

"Hoffwn ddiolch i'r holl bartneriaid am gyflawni'r project hwn.Hoffwn hefyd ddiolch i'r trigolion lleol am eu hamynedd wrth i'r cynllun fynd rhagddo."

Meddai Fergus O'Brien, rheolwr strategaeth dŵr gwastraff Dŵr Cymru, "Mae draenio Cynaliadwy'n hanfodol yn null hirdymor Dŵr Cymru o ddiogelu ein cwsmeriaid a gwella'r amgylchedd er gwaetha pwysau cynyddol newid yn yr hinsawdd a threfoli. Gwna hyn drwy wella gwydnwch cynhenid ein hasedau a'u galluogi i ddelio ag amrywiaeth cynyddol ein hanghenion. I gyflawni ein cynlluniau uchelgeisiol rhwng nawr a 2050 mae angen i ni weithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid i rannu gwybodaeth a buddsoddi mewn ardaloedd lle mae ein blaenoriaethau'n gorgyffwrdd.  Mae project Grangetown Werddach yn enghraifft wych o sut gallwn weithio gyda chynghorau sy'n meddwl ymlaen fel Caerdydd a gobeithio taw hwn fydd y gyntaf o blith nifer o bartneriaethau o'r fath."

Meddai Martyn Evans, Uwch Ymgynghorydd Polisi Cyfoeth Naturiol Cymru:

"Rydym mor falch ein bod wedi gweithio ar broject mor arloesol a blaengar â Grangetown Werddach.Mae'r cynllun cyffrous hwn yn dangos dull gwahanol o reoli ein hadnoddau naturiol - un sy'n edrych ar y darlun cyfan yn hytrach na chanolbwyntio ar un ateb neu rannau penodol o'n hamgylchedd.

"Nid yn unig y bydd y cynllun hwn yn helpu i greu amgylchedd lleol iach a gwydn, ond bydd yn ategu llewyrch economaidd a chymdeithasol cenedlaethau'r dyfodol.

"Rydym yn rhan o'r project hwn ers y dechrau ac rydym yn gyffrous iawn bod y project yn cael ei gydnabod gyda'r wobr wych hon.Mae'n enghraifft wych o sut y gall sefydliadau gydweithio i gyflawni nod cadarnhaol a gobeithiwn y gellir defnyddio'r math hwn o gynllun mewn nifer o rannau eraill o Gymru."