Back
Cyhoeddi Musto yn bartner dinas groeso ar gyfer Ras Fôr Volvo Caerdydd

Mewn ychydig dros wythnos, bydd cyfres hwylio enwocaf y byd yn cyrraedd Caerdydd ac mae cyflenwr swyddogol Ras Fôr Volvo, Musto, wedi'i gyhoeddi yn bartner dinas groeso ar gyfer Cam Caerdydd.

Bydd y fflyd, y disgwylir iddi gyrraedd ar ddydd llun 28 Mai yn dilyn mordaith2,900 o filltiroedd môr o America ar draws yr Iwerydd, yn aros yng Nghaerdydd am bythefnos.Yn ystod y cyfnod hwn bydd y Bae a Phentir Alexandra, sydd newydd ei ddatblygu, yn cael eu trawsnewid yn bentref ras trawiadol, fydd yn gartref i ŵyl am ddim o gerddoriaeth fyw ac adloniant, campau dŵr, atyniadau yn ymwneud â ras Fôr Volvo a stondinau bwyd, diod a masnach.

Bydd y drydedd ras ar ddeg yn dychwelyd i'r Deyrnas Unedig am y tro cyntaf mewn degawd a mwy. Gan ddathlu dychwelyd yn ôl i'r DU, bydd Musto, sef brand Prydeinig sy'n enwog yn rhyngwladol am ei ddillad hwylio môr, yn cynnal cyfres o weithgareddau ym Mhentref y Râs gan gynnwys: Siop Nwyddau Swyddogol Ras Fôr Volvo, fydd yn ei gwneud hi'n hawdd i chi gefnogi'r digwyddiad hwylio, y Sialens Lifanu Winsh lle gall ymwelwyr daclo'r her i geisio ennill gwobrwyon a cheisio cael yr amser cyflymaf, a'r Man Ymlacio Musto, sy'n lle i chi eistedd yn ôl a chymryd hoe. Maent hefyd wedi darparu gwisg i dri o'r timau sy'n cystadlu; Vestas 11thHour Racing, Team Brunel a Turnthe Tide on Plastic.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Hamdden a Diwylliant, y Cynghorydd Peter Bradbury:"Mae hon yn gyfres hwylio enwog ac mae'n wych gweld cymaint o frandiau sy'n arwain yn rhyngwladol yn noddi cam Caerdydd y râs. Mae gan Gaerdydd enw da am gynnal digwyddiadau chwaraeon mawr, ac mae partneriaethau fel hyn, sy'n cynnal ac yn cyflawni digwyddiadau chwaraeon rhyngwladol yn rhoi hwb sylweddol i economi Caerdydd ac economi Cymru. 

"Bydd pentref y ras yn atyniad twristaidd i ddilynwyr hwylio, teuluoedd ac ymwelwyr â'r ddinas, gan gynnig pythefnos o adloniant o'r radd flaenaf gan frandiau enwog megis Musto.

"Wrth i'r digwyddiad ddirwyn yn nes, edrychwn ymlaen i groesawu Ras Fôr Volvo i Gaerdydd ac i'r miloedd o ymwelwyr newydd â Chymru, sydd ar fin profi prifddinas fywiog a chenedl ag iddi dreftadaeth amrywiol a chyfoethog." 

Dywedodd Keith Taperell, Cyfarwyddwr Brand Rhyngwladol Musto, "Rydym yn falch iawn o fod yn Bartner Dinas Groeso Cam Caerdydd Ras Fôr Volvo, wrth i'r râs ddod yn ôl i'r DU. Rydym yn benodol falch o fod yn rhan o'r dathliadau yn y lleoliad deinamig hwn wrth i'r cychod ddocio ym Mae Caerdydd am y tro cyntaf yn hanes 45 mlynedd y râs".

Bydd Pentref y Ras hefyd yn gartref i'r Iard Gychod, adnodd cynnal a chadw cynhwysfawr fydd yn cynnig trwsio llongau hwylio. Bydd cyfle gan aelodau'r cyhoedd i weld y colbio mae'r llongau yn ei brofi yn ystod y ras a'r gwaith arbenigol sydd ei angen er mwyn sicrhau eu bod mewn cyflwr perffaith ar bob cam o'r daith.

Caerdydd yw nawfed cymal y ras fôr 45,000 o filltiroedd. I gael rhagor o wybodaeth am Ras Fôr Volvo ewch i https://www.cymraeg.volvooceanracecardiff.com/

I gael rhagor o wybodaeth am Musto a nwyddau Swyddogol y Râs ewch i www.musto.com/volvo-ocean-race.